English

Hapchwarae Gêm Fideo

Gall chwarae gemau fideo fod yn llawn mwynhad ac yn ddiogel i’ch plant, cyhyd â bod y gemau yn briodol i’w hoedran, eu bod wedi’u rheoleiddio a’u gorchwylio gennych chi, a bod cyfyngiadau o ran amseroedd chwarae. Fodd bynnag, cafwyd cynnydd anferth mewn gwefannau anghyfreithlon sy’n annog pobl – yn cynnwys plant – i hapchwarae ar ganlyniad gemau fideo.

Gall defnyddwyr y gwefannau hyn hapchwarae ar ganlyniad twrnameintiau gemau fideo (eSports) gydag eitemau o fewn gemau fel gynnau, cyllyll ac arfwisg amddiffynnol ddigidol addurniadol (eitemau y mae gemau yn eu galw’n ‘skins’ fel arfer). Amcangyfrifodd adroddiad a gyhoeddwyd yn yr UD fod y farchnad hapchwarae ‘skins’ byd-eang yn werth cymaint â $5 biliwn (ffigur 2016).

Mae perygl go iawn y gallech fod yn rhoi arian i’ch plant gan feddwl eu bod yn chwarae gêm gyfrifiadurol, pan fyddant yn hapchwarae mewn gwirionedd. Yn ogystal â hyrwyddo ymddygiad caethiwus a niweidiol ymysg plant (nodir bod plant mor ifanc ag 11 oed yn defnyddio’r safleoedd), byddant yn defnyddio eich cerdyn credyd i fetio (hyd at filoedd o bunnoedd).

Cafwyd erlyniadau llwyddiannus eisoes yn y DU gan y Comisiwn Hapchwarae, yn erbyn gweithredwyr safleoedd anghyfreithlon o’r fath, yn cynnwys un sy’n gysylltiedig â gemau FIFA poblogaidd.

Sut i ddiogelu eich plentyn rhag hapchwarae ar gemau fideo

  • Siaradwch â’ch plentyn am beryglon hapchwarae a’i ganlyniadau negyddol mewn iaith sy’n briodol i’w hoedran
  • Gwnewch yn siŵr fod y gemau y mae eich plant am eu chwarae yn briodol i’w oedran
  • Ymchwiliwch i’r gemau y maent am eu chwarae – yn cynnwys p’un a oes ganddynt fforymau sgwrsio a allai eu harwain at ymddwyn mewn ffordd amhriodol yn cynnwys hapchwarae a pharatoi at bwrpas rhyw
  • Defnyddiwch hidlwyr rhyngrwyd i flocio gwefannau amhriodol
  • Defnyddiwch feddalwedd / apiau diogelwch i rieni i flocio defnydd amhriodol o’r rhyngrwyd a monitro gweithgarwch eich plentyn ar-lein
  • Ni ddylech ganiatáu i’ch plentyn gael mynediad i fanylion eich cardiau credyd o dan unrhyw amgylchiadau

 

 

 

See Also...

In Partnership With