English

Gwefannau Dynwaredol

Gwefannau efelychu yw’r rhai sy’n cynnig gwasanaethau o adrannau’r llywodraeth neu lywodraeth leol, ond nid ydynt yn wefannau swyddogol ac yn aml byddant yn codi premiwm sylweddol am y gwasanaethau hynny, yn aml heb fudd amlwg i’r cwsmer. Maent yn cyflawni hyn drwy ddefnyddio adnoddau gwefannau i sicrhau safleoedd uchel ar restrau peiriannau chwilio fel Google, sy’n golygu eu bod yn aml yn uwch na’r wefan swyddogol ac sy’n gwneud iddynt ymddangos fel pe baent yn ‘swyddogol’ neu’n ‘awdurdodol’. Mae hefyd ganddynt gyfeiriadau gwefannau sydd wedi’u cynllunio i ddrysu â’r safle swyddogol, ac yn aml mae ganddynt edrychiad a naws a dyluniad brand tebyg.

Nid yw Google yn caniatáu i gwmnïau sy’n codi ffioedd am wasanaethau sydd am ddim ar safle swyddogol hyrwyddo eu hunain, ond eto mae’r safleoedd efelychu yn parhau. Dylent ddangos yn amlwg bod y gwasanaeth y maent yn ei gynnig ar gael am ddim neu am ffi is, ond yn aml mae hwn wedi’i roi mewn teip bach ar waelod y dudalen, os o gwbl. Mae o leiaf un o asiantaethau’r llywodraeth wedi cymryd camau â’r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn erbyn safleoedd sydd wedi copïu eu logo a’u brandio swyddogol, ac ym mis Mawrth 2018, dedfrydwyd chwe pherson i gyfnodau hir yn y carchar ac ôl i Dîm eDroseddau y Safonau Masnach Cenedlaethol gynnal ymchwiliad mawr.

Y risgiau

  • Cael eich camarwain i dalu prisiau rhy uchel am wasanaethau swyddogol y gellir eu prynu ar safle yr adran o’r llywodraeth neu lywodraeth leol am y pris cywir. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:
    • Pasbortau.
    • Tystysgrifau geni a marwolaeth.
    • Trwyddedau pysgota.
    • Trwyddedau gyrru.
    • Profion gyrru.
    • Tâl Atal Tagfeydd.
    • Cardiau Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC).
  • Cael gwybod bod safleoedd efelychu yn gwneud prosesu neu gais penodol yn gyflymach neu’n haws, er gallech ei wneud eich hun yn hawdd iawn ac yr un mor gyflym.

Chwilio am Wasanaethau Swyddogol a’u Prynu yn Swyddogol

  • Peidiwch â dewis defnyddio’r wefan gyntaf/gwefannau cyntaf a welwch mewn peiriant chwilio yn awtomatig, hyd yn oed os yw’r cyfeiriad yn ymddangos yn ddilys a’ch bod ar frys.
  • Yn hytrach, cymerwch amser i chwilio am y wefan swyddogol. Fel arfer, gallwch ddweud bod y safle yn swyddogol os bydd yn diweddu gyda ‘.gov.uk’, os yw’n cynnwys logo dilys yr adran, asiantaeth neu gyngor ac mae’r prisiau yn rhatach.
  • Os byddwch yn dewis defnyddio safle answyddogol er mwyn prynu gwasanaethau swyddogol, gwnewch yn siŵr fod y dudalen dalu yn ddiogel drwy wirio bod y cyfeiriad yn dechrau gyda ‘https://’ (mae’r ‘s’ yn golygu ei fod yn ddiogel) ac mae clo clap wedi’i gloi yn ffenest y porwr.

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich camarwain i ordalu drwy ddefnyddio safle answyddogol:

  • Cysylltwch â’r safle er mwyn mynnu cael ad-daliad, gan ddweud eich bod yn meddwl eich bod wedi cael eich camarwain.
  • Cysylltwch â’r adran neu’r asiantaeth berthnasol o’r llywodraeth neu sefydliad llywodraeth leol a rhowch wybod am y safle efelychu.

 

In Partnership With