English

Gwasanaethau Cofnodi Galwadau

Mae nifer o wefannau wedi ymddangos yn cynnig gwasanaethau recordio galwadau, lle y gellir recordio a storio galwadau a wnewch i sefydliad, fel y gallwch brofi yr hyn a ddywedwyd yn ystod y sgwrs rhag ofn y bydd anghydfod.

Y risgiau

Gallai cynnwys eich galwad wedi’i recordio gynnwys gwybodaeth gyfrinachol (er enghraifft, cwestiynau diogelwch) y gellid eu defnyddio i gyflawni troseddau yn cynnwys twyll, dwyn hunaniaeth a/neu bersonadu.

  • Gallai eich galwad gostio llawer mwy drwy’r gwasanaeth recordio galwadau, nag y byddai pe baech yn cysylltu â’r sefydliad yn uniongyrchol.
  • Efallai y byddwch yn meddwl eich bod yn ffonio’r sefydliad yn uniongyrchol am fod y rhif yn ymddangos yn uchel mewn canlyniadau peiriannau chwilio.
  • Gall gymryd hyd at 30 diwrnod i chi gael gafael ar y recordiad o’ch galwad – amser hir os ydych yn ceisio adalw’r sgwrs neu ddatrys anghydfod.
  • Efallai na fydd y recordiad o’ch galwad ar gael o gwbl.
  • Efallai eich bod yn defnyddio gwasanaeth heb ei reoleiddio.

Osgoi problemau

  • Peidiwch â thybio mai rhif ffôn cyswllt sefydliad y byddwch yn dod o hyd iddo o beiriant chwilio yw’r un cywir, hyd yn oed os ydych ar frys i gysylltu.
  • Dylech bob amser gysylltu â’ch banc neu sefydliad arall drwy’r rhif ar eu gwefan neu ohebiaeth y gwyddoch ei bod yn ddilys. Bydd rhif eich banc ar gefn eich cerdyn banc hefyd.
  • Os ydych yn defnyddio ffôn symudol, mae’n ddigon hawdd i chi gael rhif ffôn eich banc oddi ar ap bancio symudol eich banc.
  • Cymerwch ofal wrth glicio ar rif ffôn sy’n ymddangos pan fyddwch yn defnyddio peiriant chwilio, gan fod siawns y gall fod yn un o’r gwasanaethau recordio galwadau hyn neu’n rhif hollol ffug.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae gwefan Ofcom yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am recordio galwadau ffôn.

Rhowch wybod amdano

Os ydych wedi wynebu twyll gwirioneddol neu honedig, rhowch wybod amdano ar unwaith i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll drwy ffonio 0300 123 20 40 neu drwy fynd i www.actionfraud.police.uk.

 

 

See Also...

In Partnership With