English

Gwaredu Diogel

Dylech gymryd gofal mawr wrth gael gwared ar ffonau clyfar a llechi nad oes eu hangen arnoch mwyach. Gellir cael gafael ar y data ar eich dyfais yn hawdd p’un a fyddwch yn ei gwerthu, yn ei thaflu, yn ei rhoi i ffwrdd neu’n ei rhoi, a gellir hyd yn oed adfer data ‘wedi’u dileu’ yn gymharol rhwydd gan droseddwyr. Yn ogystal, bydd cael gwared ar ffonau clyfar a llechi yn gyfrifol yn sicrhau’r effaith leiaf posibl ar yr amgylchedd ac yn sicrhau nad ydych yn torri’r gyfraith.

Y risgiau

  • Gellir cael gafael ar y wybodaeth bersonol sydd wedi’i storio mewn ffeiliau ar eich dyfais – yn cynnwys cysylltiadau, ffotograffau, fideos ac atodiadau e-bost – a’i defnyddio ar gyfer gweithgarwch troseddol.
  • Gallai unrhyw gyfrineiriau sydd wedi’u storio ar eich dyfais roi mynediad i wefannau diogel sy’n cynnwys eich gwybodaeth bersonol ac ariannol.
  • Gellir cael gafael ar unrhyw hanes pori.
  • Gellir cael gafael ar unrhyw negeseuon e-bost sydd wedi’u storio ar eich dyfais.
  • Gall cael gwared ar eich dyfais heb gaffael y wybodaeth y gallai fod ei hangen arnoch yn y dyfodol greu anghyfleustra neu ymyrraeth.

Gwaredu yn Ddiogel

  • Dylech sicrhau y caiff yr holl ddata eu copïo o’ch dyfais drwy ei chysoni â’ch cyfrifiadur – neu greu copïau wrth gefn ar y cwmwl – yna ei adfer i osodiadau’r ffatri.
  • Gyda ffonau Android, dylech alluogi amgryptiad ar eich dyfais cyn cymhwyso’r adferiad ffatri.  Mae Apple iPhones eisoes yn cynnwys amgryptiad caledwedd yn ddiofyn – nodwedd na ellir ei hanalluogi gan ddefnyddiwr. Fodd bynnag, er mwyn bod yn hollol siŵr bod eich data’n cael eu dileu, dylech lawrlwytho a defnyddio adnodd dileu data dibynadwy.
  • Os yw’r ddyfais ar ddiwedd ei bywyd ac nad ydych yn bwriadu ei gwerthu neu ei rhoi i ffwrdd, ewch â hi i gyfleuster gwaredu priodol, a fydd yn sicrhau y caiff ei thynnu’n ddarnau ac y caiff yr elfennau eu hailgylchu yn gywir ac yn gyfrifol.

 

In Partnership With