English

Gwaredu Cyfrifiaduron yn Ddiogel

Dylech gymryd gofal mawr wrth gael gwared ar gyfrifiaduron nad oes eu hangen arnoch mwyach. Gellir cael gafael ar y data ar eich cyfrifiadur yn hawdd p’un a fyddwch yn ei gwerthu, yn ei daflu, yn ei roi i ffwrdd neu’n ei roi, a gellir hyd yn oed adfer data ‘wedi’u dileu’ yn gymharol rhwydd gan droseddwyr. Yn ogystal, bydd cael gwared ar gyfrifiaduron mewn modd cyfrifol yn sicrhau’r effaith leiaf posibl ar yr amgylchedd ac yn sicrhau nad ydych yn torri’r gyfraith.

Mae rhywfaint o’r wybodaeth ar y dudalen hon hefyd yn gymwys i ffonau symudol, llechi a chonsolau gêm. Ceir rhagor o fanylion ar y tudalennau perthnasol ar y wefan hon.

Y risgiau

  • Gellir cael gafael ar y wybodaeth bersonol sydd wedi’i storio mewn ffeiliau ar eich cyfrifiadur a’i defnyddio ar gyfer gweithgarwch troseddol.
  • Gallai unrhyw gyfrineiriau sydd wedi’u storio ar eich cyfrifiadur roi mynediad i wefannau diogel sy’n cynnwys eich gwybodaeth bersonol ac ariannol.
  • Gellir cael gafael ar unrhyw hanes pori sydd wedi’i storio ar eich cyfrifiadur.
  • Gellir cael gafael ar unrhyw negeseuon e-bost sydd wedi’u storio ar eich cyfrifiadur.
  • Gall cael gwared ar eich cyfrifiadur heb gaffael y wybodaeth y gall fod ei hangen arnoch yn y dyfodol greu anghyfleustra neu ymyrraeth.

Gwaredu yn Ddiogel

  • Copïwch yr holl ddata y bydd eu hangen arnoch yn y dyfodol, ar eich cyfrifiadur newydd neu ddyfais storio, neu cadwch gopïau yn y cwmwl.
  • Dylech ddileu’r disg caled/disgiau caled yn llwyr er mwyn sicrhau y caiff unrhyw wybodaeth bersonol ei dileu yn llwyr. Nid yw dileu ffeiliau yn ddigon i’w dileu yn barhaol. Yn hytrach, defnyddiwch raglen neu wasanaeth penodol ar gyfer dileu ffeiliau, neu ewch ati i ddinistrio’r gyriant caled fel na ellir ei ddefnyddio. Neu, os yw’r gyriant caled yn dal i weithio ac yn ddibynadwy, gallech ei ail-leoli mewn câs allanol gyda chyflenwad trydan a chysylltiad USB a’i ddefnyddio i gadw copïau wrth gefn o’ch data neu i gyfnewid eich data.
  • Gwnewch yn siŵr y caiff unrhyw CDs neu DVDs sy’n cynnwys eich data eu dileu o’r cyfrifiadur.
  • Cofiwch y gall eich CDs, DVDs, cardiau cof, cofau bach a dyfeisiau USB cysylltiedig eraill hefyd gynnwys eich data sensitif a dylid cymryd yr un gofal wrth gael gwared arnynt.
  • Os yw’r cyfarpar cyfrifiadurol ar ddiwedd ei fywyd ac nad ydych yn bwriadu ei werthu neu ei roi i ffwrdd, ewch ag ef i gyfleuster gwaredu priodol, a fydd yn sicrhau y caiff ei dynnu’n ddarnau ac y caiff yr elfennau eu hailgylchu yn gywir ac yn gyfrifol

 

In Partnership With