English

Gwarchod Cyfrineiriau

Mae cyfrineiriau eich plentyn yn allweddol i’w fywyd ar-lein, yn yr un modd â’ch rhai chi. Rydych chi’n gwybod pa mor bwysig yw dewis cyfrineiriau diogel … a’u cadw’n gyfrinachol. Efallai na fydd hyn mor amlwg i’ch plentyn.

Gweithiwch gyda’ch plentyn i wneud yn siŵr ei fod yn dewis cyfrineiriau na fydd neb yn eu dyfalu, gan nodi mai’r rhai ar gyfer rhwydweithiau cymdeithasol ac e-bost yw’r rhai pwysicaf. Dywedwch wrth eich plentyn pa mor bwysig yw peidio â rhannu ei gyfrineiriau ag unrhyw un arall – hyd yn oed ffrindiau gorau neu frodyr a chwiorydd, ond ei bod yn iawn eu rhannu â mam a dad.

Mae cyngor cynhwysfawr ar ddewis a defnyddio cyfrineiriau ar y wefan hon, sydd ar gael drwy glicio yma

.

 

See Also...

In Partnership With