English

Gamblo Ar-lein

Mae hapchwarae ar-lein wedi dod yn llawer mwy poblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae gan bobl o’r DU sy’n hapchwarae ddewis enfawr o safleoedd. Dim ond mathau penodol o hapchwarae y mae rhai yn eu cynnig (fel bingo, pocer neu fetio), gydag eraill yn cynnig dewis ehangach i ddefnyddwyr.

Mae hapchwarae ar-lein – fel gyda llawer o weithgareddau eraill ar-lein – yn dwyn risg o weithgarwch troseddol. Fodd bynnag, mae hefyd risgiau cysylltiedig penodol eraill, fel taliadau nad ydynt yn deg nac yn agored, mynediad gan blant a defnydd gan bobl sy’n agored i niwed. Gall hapchwarae hefyd fod yn gaethiwus, ac mae angen i chi wybod pryd i roi’r gorau iddi. Mae help ar gael drwy GamCare. Mae’r manylion ar waelod y dudalen hon.

Y Risgiau

  • Rhywun yn cael mynediad i’ch cyfrif ar-lein, drwy:
    • Negeseuon e-bost gwe-rwydo sy’n eich twyllo i ddatgelu eich cyfrinair a’ch manylion ar wefannau ffug.
    • Dweud wrth bobl eraill yn anfwriadol, neu ddatgelu manylion i ffrindiau a theulu.
  • Achosion o ddwyn hunaniaeth a achosir gan feirysau neu ysbïwedd, sy’n rhoi mynediad i droseddwyr i’ch cyfrifon a gwybodaeth bersonol arall sydd wedi’i storio ar eich cyfrifiadur.
  • Ymweld â gwefannau twyllodrus a ffug.
  • Cael eich ysgogi i agor cyfrif drwy addo bonysau mawr.
  • Cael eich ysgogi i chwarae gemau go iawn ar-lein oherwydd y taliadau uwch yn y fersiynau ‘chwarae am hwyl’.
  • Mynd yn gaeth.
  • Mae rhai cwmnïau cardiau credyd yn categoreiddio trafodion hapchwarae fel ‘arian parod’ a gallant godi ardoll sefydlog a/neu log o ddyddiad y taliad.
  • Lawrlwytho ‘cafflwyr’ sy’n honni eu bod yn eich helpu ond a all gynnwys feirysau/ysbïwedd mewn gwirionedd.
  • Yr elfen sgwrsio ar rai safleoedd hapchwarae (fel gemau bingo) a all arwain at:
    • Rannu gwybodaeth bersonol yn anfwriadol neu’n fyrbwyll, yn cynnwys cyfrinair, cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad cartref neu oedran.
    • Yr holl beryglon sy’n gysylltiedig ag ystafelloedd sgwrsio ar-lein.

Hapchwarae Diogel Ar-lein

  • Gwnewch yn siŵr fod unrhyw safle hapchwarae sy’n anghyfarwydd i chi yn ddilys drwy ymchwilio iddynt. Cofiwch mai’r ffordd orau o ddod o hyd i safle dilys yw drwy argymhelliad gan ffynhonnell ddibynadwy.
  • Dim ond safleoedd yn y DU y dylech eu defnyddio, oherwydd:
    • Byddwch yn gallu manteisio ar gymorth lleol i gwsmeriaid.
    • Bydd gennych y posibilrwydd o gael cymorth os bydd anghydfod gan fod rheolaethau llym ar y diwydiant yn y DU.
    • Gellir adneuo a thynnu arian yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall gweithrediad a rheolau y math o hapchwarae neu fetio rydych yn cymryd rhan ynddo.
  • Darllenwch delerau ac amodau’r safle yn drylwyr a gwnewch yn siŵr eich bod yn eu deall cyn agor cyfrif.
  • Dewiswch enw defnyddiwr nad yw’n datgelu unrhyw wybodaeth bersonol. Yn yr un modd, os yw eich gêm yn cynnwys y gallu i greu proffil personol, gwnewch yn siŵr nad ydych yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol.
  • Defnyddiwch gyfrineiriau cryf, a pheidiwch byth â datgelu eich cyfrineiriau i bobl eraill.
  • Rhowch gynnig ar gemau ‘chwarae am hwyl’ cyn hapchwarae, ond cofiwch fod y taliadau fel arfer yn llawer mwy nag mewn gemau go iawn.
  • Cyn rhoi manylion cerdyn talu ar wefan, gwnewch yn siŵr fod y ddolen yn ddiogel, mewn dwy ffordd:
    • Dylai fod symbol clo clap yn ffrâm ffenestr y porwr, sy’n ymddangos pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi neu gofrestru. Gwnewch yn siŵr nad yw’r clo clap ar y dudalen ei hun … mae’n debyg y bydd hyn yn arwydd o safle twyllodrus.
    • Dylai’r cyfeiriad gwe ddechrau gyda ‘https://’. Mae’r ‘s’ yn golygu ei bod yn ddiogel.
  • Mae’r uchod yn dangos bod y cyswllt rhyngoch chi a pherchennog y wefan yn ddiogel, ond nid yw’n dangos bod y safle ei hun yn ddilys. Mae angen i chi wneud hyn yn ofalus drwy chwilio am achosion cynnil o gamsillafu yn y cyfeiriad, geiriau a nodau ychwanegol ac achosion eraill o afreoleidd-dra.
  • Dylech bob amser allgofnodi o safleoedd rydych wedi mewngofnodi iddynt neu roi manylion cyfrestru arnynt. Nid yw cau eich porwr yn ddigon i sicrhau preifatrwydd.
  • Darllenwch ddatganiadau cardiau credyd a banc yn ofalus er mwyn gwneud yn siŵr bod y swm cywir wedi cael ei ddebydu, a hefyd nad oes unrhyw dwyll wedi digwydd o ganlyniad i ddefnyddio’r safle.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.
  • Peidiwch ag ateb e-byst digymell gan gwmnïau nad ydych yn eu hadnabod.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.
  • Cadwch olwg rheolaidd ar faint rydych yn ei wario.
  • Os ydych o’r farn bod eich hapchwarae yn mynd allan o reolaeth, cyfeiriwch at wefannau cynghori neu gofynnwch am help proffesiynol.

Rhagor o wybodaeth a chymorth

Os ydych o’r farn bod eich hapchwarae yn mynd allan o reolaeth, gallwch gysylltu â GamCare i gael gwybodaeth, cyngor neu gymorth cwnsela cyfrinachol yn rhad ac am ddim: Rhadffôn 0808 8020 133 neu drwy sgwrsio ar y we yn www.gamcare.org.uk (8am-hanner nos, saith diwrnod yr wythnos).

Os nad ydych yn siŵr i ba raddau y mae hapchwarae wedi dod yn broblem i chi, efallai yr hoffech ddefnyddio cyfleuster asesu ar-lein GamCare. Bydd yn gofyn cyfres o gwestiynau i chi am eich ymddygiad hapchwarae. Pan fyddwch wedi gorffen, bydd yn rhoi adroddiad personol a chyngor i chi ar eich camau nesaf.

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

See Also...

In Partnership With