English

Firysau a Spyware

Mae llawer o bobl o’r farn nad yw ffonau clyfar a llechi yn agored i feirysau, ysbïwedd a maleiswedd arall. Nid yw hyn yn wir … mewn gwirionedd, po fwyaf o bobl sy’n defnyddio’r dyfeisiau hyn, a pho fwyaf o apiau sydd ar gael iddynt, yr uchaf yw’r lefel o weithgarwch niweidiol a throseddol.

Y risgiau

Gall feirysau ac ysbïwedd ymosod ar eich ffôn clyfar neu lechen drwy’r dulliau canlynol:

  • Lawrlwytho o wefannau sydd wedi cael eu heintio yn fwriadol neu’n ddamweiniol gan un feirws neu fwy.
  • Lawrlwytho apiau sydd wedi’u heintio. Mae’r rhain yn cynnwys apiau sydd wedi’u lawrlwytho o siop swyddogol y ddyfais neu’r system weithredu, ac yn gynyddol, siopau ffug sydd wedi’u sefydlu yn benodol ar gyfer dosbarthu maleiswedd.
  • Cysylltu eich dyfais â chyfrifiadur, er enghraifft er mwyn gosod diweddariadau, cysoni a llwytho cerddoriaeth.

Gall feirysau ac ysbïwedd achosi canlyniadau difrifol iawn yn cynnwys:

  • Dwyn hunaniaeth o apiau sy’n gweithio yn y cefndir i ddwyn gwybodaeth bersonol sydd wedi’i storio ar y ffôn.
  • Twyll o apiau sy’n gweithio yn y cefndir i ddwyn gwybodaeth bersonol sydd wedi’i storio ar y ffôn.
  • Galwadau cyfradd bremiwm a negeseuon testun sy’n cael eu hanfon o’ch ffôn yn ddiarwybod i chi.
  • Dileu a llygru data.
  • Dyfais araf neu un na ellir ei defnyddio.
  • Bywyd batri byrrach.

Efallai mai dim ond cario feirws y mae eich dyfais – a allai gael ei drosglwyddo wedyn i ddyfeisiau eraill (fel cyfrifiaduron) dros e-bost.

Diogelu eich Dyfais Symudol

Mae gan ddyfeisiau Apple a BlackBerry raglenni diogelwch mewnol hynod o dda rhag maleiswedd, ond mae dyfeisiau Apple yn dod yn darged mwy poblogaidd ar gyfer twyllwyr, sy’n golygu y dylech osod rhaglenni diogelwch ar y rhyngrwyd beth bynnag fo’ch dyfais.

At ddefnydd personol ac mewn swyddfa gartref mae nifer o ddewisiadau ar gael wrth benderfynu pa ap diogelwch ar y rhyngrwyd i’w lawrlwytho. Pa fath bynnag y byddwch yn ei ddewis, gwnewch yn siŵr ei fod yn frand ag enw da gan gyflenwr prif ffrwd, ac ewch am y gorau y gallwch ei fforddio. Dyma rai o’r cyflenwyr enwocaf, ond nodwch nad ydym yn argymell un o flaen y lleill:

NortonKasperskyMcAfee, Bullguard, Sophos, AVG, Avast, Bitdefender

Mae’n bwysig lawrlwytho diweddariadau ar gyfer apiau diogelwch cyn gynted ag y cewch eich annog i ddiogelu rhag maleiswedd newydd.

  • Gwiriwch y gosodiadau diogelwch yn eich dyfais bob amser er mwyn sicrhau’r diogelwch gorau.
  • Edrychwch ar wefan darparwr eich gwasanaeth yn rheolaidd i chwilio am ddiweddariadau ar gyfer eich math a model o ffôn clyfar neu lechen.
  • Cyn cysylltu eich dyfais â chyfrifiadur, gwnewch yn siŵr fod gan eich cyfrifiadur y feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd ddiweddaraf a bod wal dân wedi’i gosod ac yn rhedeg.
  • Wrth drefnu bancio ar-lein, gwnewch yn siŵr fod unrhyw apiau y byddwch yn eu lawrlwytho at y diben wedi’u cyhoeddi gan eich banc.
  • Byddwch yn wyliadwrus o siopau ffug wrth lawrlwytho apiau – dim ond o ffynonellau dibynadwy y dylech wneud hynny.

Gwybodaeth ychwanegol

Os ydych wedi wynebu twyll gwirioneddol neu honedig, rhowch wybod amdano ar unwaith i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll drwy ffonio 0300 123 20 40 neu drwy fynd i www.actionfraud.police.uk.

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

In Partnership With