English

Firysau a Malware Eraill

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwybod am beryglon a chanlyniadau maleiswedd yn heintio ein cyfrifiaduron ac efallai ein dyfeisiau symudol, ond a yw eich plentyn yn ymwybodol o hyn. Ac os felly, a oes ots ganddo?

Ceir cyngor cynhwysfawr ar atal feirysau, ysbïwedd a maleiswedd arall rhag heintio eich cyfrifiadur drwy glicio yma, ac ar eich dyfais symudol drwy glicio yma.

Fel rheol gyffredinol, helpwch i gadw eich plant a’ch cyfrifiaduron a’ch dyfeisiau eraill yn ddiogel drwy osod meddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd a sicrhau y caiff ei diweddaru. Dywedwch wrth eich plant na ddylent ddiffodd y sganiwr feirysau neu wal dâl, hyd yn oed os byddant o’r farn y byddai hynny’n cyflymu gêm. Nid yw’n werth chweil!

 

See Also...

In Partnership With