English

Eich Cartref Cysylltiedig

Mae nifer yr eitemau trydanol ac electronig yn eich cartref y gellir eu monitro a’u rheoli drwy eich Wi-Fi yn tyfu drwy’r amser. Mae’r rhain yn amrywio o systemau diogelwch a chamerâu a bylbiau golau y gellir eu pylu i deganau clyfar eich plant. Mae hyd yn oed yn bosibl prynu oergell sy’n dweud wrthych pan fydd angen i chi brynu mwy o fwyd. Fel arfer, mae’r cynhyrchion hyn wedi’u cysylltu ag ap ar eich ffôn clyfar neu lechen, ond mae setiau teledu clyfar sydd wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd hefyd yn dod yn gynyddol boblogaidd, a seinyddion clyfar y gellir eu defnyddio i reoli gweithredoedd yn y cartref yn cynnwys archebu ar-lein gyda gorchymyn lleisiol syml.

Fodd bynnag, mae anfanteision … fel cael eich cloi allan o’ch cartref gan eich cloeon electronig os bydd toriad pŵer. Fodd bynnag, yn fwy cyffredin, mae’r risgiau yn gysylltiedig â’ch dyfeisiau sy’n trosglwyddo data. Mae’r rhain yn bodoli oherwydd gwybodaeth gyfyngedig defnyddwyr am ddulliau o’u diogelu, ond weithiau hefyd oherwydd protocolau a gweithdrefnau diogelwch gwael ar ran gweithgynhyrchwyr, y mae defnyddio’r un cyfrinair diofyn ar gyfer pob dyfais a gaiff ei morgludo yn enghraifft berffaith.

Y risgiau

  • Gallai’r data a gaiff eu trosglwyddo gan eich dyfeisiau clyfar gael eu rhyng-gipio’n anghyfreithlon, gyda’r canlyniadau yn amrywio o ddadalluogi eich systemau diogelwch neu osod eich thermostat gwres ar y lefel uchaf, i ddatgelu lleoliad eich plentyn drwy ei lechen neu fod rhywun yn ysbïo ar bopeth a wnewch drwy eich camerâu eich hun.
  • Gellid defnyddio’r data a gesglir gan weithgynhyrchwyr dyfeisiau – y dylid eu defnyddio ar gyfer cymorth cynhyrchion ac at ddibenion ymchwil a datblygu – ar gyfer anfon llu o ymgyrchoedd marchnata atoch gan y gweithgynhyrchwyr a/neu drydydd partïon.
  • Gallai gweithgynhyrchwyr cynhyrchion clyfar a datblygwyr apiau gael data am eich dewisiadau a’ch arferion personol y byddai’n well gennych eu cadw’n breifat.

Gwneud yn siŵr bod eich cartref cysylltiedig yn ddiogel

  • Gwnewch yn siŵr fod eich Wi-Fi yn ddiogel: ewch i’n tudalen cyngor ar Rhwydweithiau a Llecynnau Di-wifr.
  • Ar gyfer dyfeisiau y mae angen cyfrinair arnoch ar eu cyfer (yn ogystal â’ch cyfrinair Wi-Fi) i’w cysylltu, newidiwch gyfrineiriau a osodwyd gan y ffatri i rai diogel rydych yn creu eich hun. Darllenwch ein tudalen cyngor ar gyfrineiriau.
  • Peidiwch byth â defnyddio’r un cyfrinair ar gyfer mwy nag un ddyfais gysylltiedig, na rhannu cyfrineiriau â’r rheini rydych yn eu defnyddio eisoes ar gyfer cyfrifon eraill ar-lein.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod meddalwedd/ap diogelwch ar y rhyngrwyd wedi’i diweddaru ar bob un o’ch cyfrifiaduron a dyfeisiau symudol, a hefyd bod mynediad i’r dyfeisiau hyn wedi’i ddiogelu â PIN neu gyfringod.
  • Edrychwch ar yr apiau sy’n mynd gyda’r dyfeisiau cysylltiedig a gosodwch ddiweddariadau cyn gynted ag y cewch neges i wneud hynny. Hefyd, cadwch lygad allan am ddiweddariadau ar wefannau gwneuthurwr yn rheolaidd, gan y gallent gymryd amser i’w cyflwyno drwy’r apiau.
  • Os yw’n bosibl, diffoddwch fynediad rheoli o bell ac adnoddau rhwydwaith pwerus eraill os na fyddant yn cael eu defnyddio.
  • Ystyriwch fod prynu cynnyrch o frandiau adnabyddus, dibynadwy yn golygu ei bod hi’n debygol eu bod wedi cymryd mwy o ofal yn sicrhau diogelwch y cynnyrch – a’ch diogelwch chi a’ch teulu.

Os byddwch yn dioddef twyll o ganlyniad i ddyfeisiau cysylltiedig, neu am unrhyw reswm arall, rhowch wybod amdano i Action Fraud cyn gynted â phosibl ar 0300 123 2020, neu yn www.actionfraud.police.uk

 

 

In Partnership With