English

eGardiau

Mae eGardiau (cardiau cyfarch electronig neu ar-lein) wedi dod yn boblogaidd iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Maent yn ffordd gyfleus, rhad a hwyliog o anfon cyfarchion at ffrindiau a theulu – neu, os ydych yn rhedeg busnes – at eich cwsmeriaid. Mae eGardiau yn arbennig o boblogaidd ar gyfer achlysuron a gaiff eu dathlu gan lawer o bobl fel y Nadolig neu Ddiwrnod Sant Ffolant – yn ogystal ag achlysuron unigol fel pen-blwyddi a phriodasau. Fodd bynnag, fel gydag e-byst, mae angen i chi gymryd gofal wrth dderbyn ac anfon eGerdyn, rhag ofn ei fod yn celu rhyw fath o sgam.

Y risgiau

  • Gallai eGerdyn sy’n edrych yn ddilys, unwaith y byddwch yn clicio arno a/neu yn lawrlwytho unrhyw atodiadau, gynnwys maleiswedd sy’n gwneud y canlynol:
    • Heintio eich cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol ag ysbïwedd a all arwain at dwyll neu ddwyn hunaniaeth.
    • Anfon e-byst ffug, sy’n ymddangos fel pe baent wedi cael eu hanfon gennych chi, i’ch holl gysylltiadau e-bost.
    • Lansio gwefannau amhriodol, neu ddangos delweddau amhriodol.
    • Anfon llu o hysbysebion naid atoch
  • Efallai y bydd eGerdyn sy’n edrych yn ddilys yn cynnwys gwahoddiad i glicio ar ddolen er mwyn agor eich cerdyn, ond mewn gwirionedd bydd yn gwe-rwydo am wybodaeth bersonol neu wybodaeth ariannol.
  • Os byddwch yn anfon eGerdyn, gall y wefan a ddefnyddiwch i wneud hynny fod yn un ffug a gall eich cynnwys chi mewn gweithred i anfon eGardiau sy’n cynnwys maleiswedd.

Osgoi eGardiau Ffug

  • Cadwch olwg am y canlynol:
    • Gwallau sillafu mewn geiriau neu yn eich enw.
    • eGardiau nad ydynt wedi’u cyfeirio atoch chi, neu sy’n cynnwys enw derbynnydd ar hap fel ‘Annwyl Ffrind’ neu ‘Annwyl Gwsmer’
    • Gwallau yn y neges, er enghraifft, mae’n dweud eich bod chi wedi anfon cerdyn, nid wedi derbyn un.
    • Anfonwyr nad ydych yn eu hadnabod (pam y byddai unrhyw un nad ydych yn ei adnabod yn anfon cerdyn atoch?)
    • Anfonwyr sydd ag enwau sy’n amlwg yn ffug, neu os ydynt gan ‘Anfonwr Cerdyn’, ‘Edmygwr Cudd’ neu anfonwyr ag enwau tebyg.
    • Cyfeiriad gwefan sy’n ymddangos yn rhyfedd – er enghraifft ‘www.http:/’ yn lle ‘http://www.’
  • Dylech ddileu eGardiau o ffynonellau anhysbys.
  • Peidiwch byth ag agor atodiad o ffynhonnell anhysbys.
  • Peidiwch byth â lawrlwytho o ffynhonnell anhysbys.
  • Peidiwch byth â chlicio ar ddolen mewn eGerdyn o ffynhonnell anhysbys.
  • Cofiwch y gall hyd yn oed eGardiau y mae’n ymddangos eu bod wedi cael eu hanfon gan rywun rydych chi’n ei adnabod, fod wedi’u hanfon at ei holl gysylltiadau gan Gnaf Mynediad.
  • Peidiwch ag ateb nac anfon eGardiau rydych yn amau eu bod yn rhai ffug.
  • Darllennwch delerau ac amodau cwmnïau eGardiau bob amser. (Mae rhai sgamiau yn gofyn i ddefnyddwyr dderbyn telerau sy’n cynnwys y ffaith y bydd y cwmni yn cael mynediad i’w llyfr cyfeiriadau ac yn anfon neges at bawb sydd ynddo).
  • Peidiwch â gwneud pwrcasiadau na rhoi i elusen mewn ymateb i eGardiau.
  • Edrychwch yn eich ffolderi post sothach yn rheolaidd rhag ofn y bydd eGerdyn dilys wedi mynd yno mewn camgymeriad.
  • Os ydych yn amau eGerdyn, gallwch weld a yw ar restr o e-byst sbam a sgam y mae rhai gwerthwyr diogelwch rhyngrwyd yn eu cynnwys ar eu gwefannau.
  • Mae’r rhan fwyaf o gleientiaid Microsoft a chleientiaid e-bost eraill yn cynnwys cyfleuster hidlo sbam fel nodwedd safonol. Dylech sicrhau bod eich un chi wedi’i droi ymlaen.
  • Gellir gosod y rhan fwyaf o hidlwyr sbam a sothach i alluogi post i gael ei dderbyn o ffynonellau yr ymddiriedir ynddynt, a’i rwystro o ffynonellau nad ymddiriedir ynddynt.
  • Wrth ddewis cyfrif gwebost fel gmail, Hotmail a Yahoo! Mail, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis un sy’n cynnwys cyfleuster hidlo sbam a’i fod yn cael ei adael wedi’i droi ymlaen.
  • Mae’r rhan fwyaf o becynnau diogelwch rhyngrwyd yn cynnwys cyfleuster rhwystro sbam. Gwnewch yn siŵr fod eich un chi wedi’i ddiweddaru a bod y nodwedd hon wedi’i throi ymlaen.
  • Dylech bob amser sicrhau bod meddalwedd wrthfaleiswedd a wal dân wedi’u llwytho, eu diweddaru a’u troi ymlaen.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll:

Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk.

 

See Also...

In Partnership With