English

Dwyn Preifatrwydd a Hunaniaeth

Dylech wneud yn siŵr bod eich plant yn ymwybodol na ddylent ddatgelu unrhyw wybodaeth sy’n caniatáu i ddieithryn gael gafael ar ei wybodaeth bersonol neu ariannol ef na chi.

Mae plant yn tueddu i fod yn fwy ymddiriedus ac agored i niwed nag oedolion, a gallent gael eu twyllo i wneud hynny, os bydd dieithryn yn dweud wrthynt ei fod yn iawn.

Gallai gwybodaeth breifat o’r fath gynnwys manylion mewngofnodi, manylion cyswllt, cyfeiriadau neu gyfrineiriau – neu eiriau neu enwau y mae eich plant yn eu defnyddio i brofi pwy ydyn nhw neu ar broffiliau, fel enw eu mam cyn priodi, clwb pêl-droed, ysgol, hyd yn oed enw eu hathro. Ar ôl cael gafael ar wybodaeth breifat gall twyllwyr wneud cais am gredyd yn enw eich plentyn neu yn eich enw chi, gan ddinistrio eich statws credyd.

 

See Also...

In Partnership With