English

Diweddaru Eich Porwr

Mae Get Safe Online yn argymell, er mwyn sicrhau’r diogelwch gorau wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd, eich bod bob amser yn rhedeg y fersiwn ddiweddaraf o’ch porwr dewisol y bydd eich system weithredu yn ei chefnogi. Dylech hefyd lawrlwytho a gosod y diweddariadau diweddaraf bob amser i’r porwr rydych wedi’i lwytho.

Mae diweddaru i fersiwn fwy newydd o’ch porwr yn gwneud synnwyr er mwyn sicrhau gwell diogelwch ac am nifer o resymau eraill:

Diogelwch gwell

Maent yn sicrhau gwell diogelwch rhag sgamiau, feirysau, cnafon (Trojans), ymosodiadau gwe-rwydo (phishing) a bygythiadau eraill. Maent hefyd yn datrys y mannau bregus o ran diogelwch a geir yn eich porwr presennol.

Cyflymder gwell

Mae pob cenhedlaeth fwy newydd o borwr yn gwella’r cyflymder y gallwch ddefnyddio’r rhyngrwyd – gan lwytho gwefannau rydych yn ymweld â nhw yn gyflymach, a gwneud y tasgau rydych yn eu cyflawni ar y gwefannau hyn yn gyflymach hefyd.

Cytunedd gwell o ran gwefannau

Bydd gwefannau sy’n defnyddio technoleg newydd ar gyfer eu dangosydd a’u nodweddion yn edrych fel y dylent ac yn gweithio’n well.

Profiad gwell

Mae gan fersiynau newydd o borwyr nodweddion gwell ac estyniadau a gellir eu teilwra yn fwy i’ch dewisiadau yn haws, gan sicrhau bod eich profiad ar-lein yn fwy pleserus.

Mae diweddaru’n hawdd. Mae ond yn cymryd ychydig funudau ac mae’n rhad ac am ddim.

Cofiwch – nid yw gosod y fersiwn ddiweddaraf o’ch porwr yn ddigon ynddo’i hun i’ch diogelu rhag bygythiadau ar-lein. Edrychwch o amgylch ein gwefan i gael gwybodaeth a chyngor ar sut i aros yn ddiogel ym mhopeth a wnewch ar-lein.

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur busnes a gaiff ei gynnal gan eich gweithrediad gweinyddol TG ac na allwch osod porwr newydd, efallai yr hoffech siarad â’r adran gweinyddu TG ynghylch diweddaru ym mhob rhan o’r sefydliad.

Mae diweddaru yn hawdd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw clicio ar yr eicon ar waelod y dudalen hon sy’n cynrychioli’r porwr rydych wedi’i osod, a bydd hyn yn mynd â chi i’r wefan wreiddiol. Fel arall, efallai eich bod wedi bod yn ystyried newid i borwr gwahanol yn llwyr – er enghraifft o Internet Explorer i Firefox. Bydd clicio ar yr eicon ar gyfer eich porwr newydd dewisol hefyd yn eich galluogi i wneud hyn yn gyflym ac yn hawdd.

 

Internet ExplorerInternet Explorer 11
Lawrlwytho

…………………………………………………………………………………………………………..

ChromeGoogle Chrome
Lawrlwytho

…………………………………………………………………………………………………………..

OperaOpera
Lawrlwytho

…………………………………………………………………………………………………………..

Firefox

Firefox
Lawrlwytho

…………………………………………………………………………………………………………..

SafariSafari
Lawrlwytho

 

 

In Partnership With