English

Diweddariadau Windows

Pan fydd Microsoft yn lansio fersiwn newydd o Windows, mae troseddwyr ar-lein yn dod o hyd i fannau bregus yn y system weithredu yn gyflym ac yn parhau i wneud hynny drwy gydol oes y fersiwn. Er mwyn atal hyn, mae Microsoft yn rhyddhau diweddariadau rheolaidd – drwy Windows Update – fel diweddariadau diogelwch neu ddiweddariadau hanfodol, sy’n amddiffyn rhag maleiswedd a dulliau o dorri diogelwch.

Mae mathau eraill o ddiweddariadau yn cywiro gwallau neu’n gwella gweithdrediad o fewn Windows, ac nid ydynt o reidrwydd yn ymwneud â diogelwch. Maent hefyd yn canfod pa gynhyrchion Microsoft rydych yn eu rhedeg ar eich cyfrifiadur ac yn rhoi diweddariadau i’r rhain hefyd. Gall y rhain gynnwys Microsoft Office (Word, Excel, PowerPoint ac ati) ac Internet Explorer (yn eich porwr Microsoft).

Y risgiau

Gall peidio â diweddaru Windows arwain at broblemau difrifol, a all effeithio ar eich cyfrifiadur a’ch diogelwch personol eich hun.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Feirysau, ysbïwedd a maleiswedd arall.
  • Ymosodiadau gan seiberdroseddwr.
  • Chwalu, rhewi a pherfformiad gwael yn gyffredinol.

Yn ogystal â datrys problemau diogelwch, mae diweddariadau Windows yn cynnwys gwelliannau i’r system weithredu a nodweddion newydd yn aml.

Diogelu eich Cyfrifiadur

Er mwyn sicrhau bod y diweddariadau Windows diweddaraf yn cael eu lawrlwytho a’u gosod, dylech wneud yn siŵr fod eich cyfrifiadur wedi’i osod fel a ganlyn:

  • Windows 10 & 8
    O’r ddewislen Start menu, cliciwch ar ‘Control Panel’. Dewiswch ‘Windows Update’, yna cliciwch ar ‘Install optional updates’. Yn y cwarel chwith, cliciwch ar ‘Change settings’. O dan Important updates, dewiswch yr opsiwn rydych am ei gael. O dan ‘Recommended updates’, dewiswch y blwch ‘Give me recommended updates the same way I receive important updates’, ac yna cliciwch ar ‘OK.’ Efallai y gofynnir i chi am gyfrinair gweinyddu neu i gadarnhau eich dewis.

Byddwch fel arfer yn cael hysbysiad gan Microsoft ar ffurf hysbysiad ar eich sgrin, bod diweddariadau Windows ar gael. Fel arfer, caiff y diweddariadau eu lawrlwytho’n awtomatig a chewch eich annog i ailddechrau eich cyfrifiadur er mwyn iddynt gael eu gosod.

Nid yw lawrlwytho’r diweddariadau Windows diweddaraf yn dileu’r angen i redeg y fersiynau diweddaraf o feddalwedd wrthfeirysol, gwrth-ysbïwedd a wal dân.

Rhagor o Wybodaeth

Diweddariadau Microsoft Windows

 

In Partnership With