English

Diweddariadau Meddalwedd

Mae’r feddalwedd a all fod ar eich cyfrifiadur yn cynnwys:

Cynhyrchion Microsoft (naill ai mewn swp gyda system weithredu Windows neu wedi’u prynu ar wahân)
  • Office (yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, Outlook)
  • Media Player
  • Publisher
  • Project

Meddalwedd sydd wedi’i Llwytho Ymlaen Llaw Fel Arfer (pan fyddwch yn prynu’r cyfrifiadur)

  • Adobe Reader
  • Adobe Flash
  • Java
  • Roxio Creator

Rhaglenni Eraill (y byddwch yn eu llwytho eich hun oddi ar CD/DVD neu drwy’r rhyngrwyd)

  • Gyriannau argraffu
  • Meddalwedd cyfrifon
  • Meddalwedd diogelwch
  • iTunes

Fel gyda system weithredu Microsoft Windows, mae troseddwyr ar-lein yn dod o hyd i fannau bregus mewn meddalwedd arall ac yn parhau i wneud hynny drwy gydol oes y fersiwn.  Er mwyn atal hyn, mae gwneuthurwr meddalwedd yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd fel diweddariadau diogelwch neu ddiweddariadau hanfodol, sy’n amddiffyn rhag maleiswedd a dulliau o dorri diogelwch. Mae mathau eraill o ddiweddariadau yn cywiro gwallau sy’n gwella gweithrediad y feddalwedd, ac nid ydynt o reidrwydd yn ymwneud â diogelwch.

Y risgiau

Gall peidio â diweddaru eich meddalwedd arwain at broblemau difrifol, a all effeithio ar eich cyfrifiadur a’ch diogelwch personol eich hun. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Feirysau, ysbïwedd a maleiswedd arall.
  • Ymosodiadau gan seiberdroseddwr.
  • Chwalu, rhewi a pherfformiad gwael yn gyffredinol.

Yn ogystal â datrys problemau diogelwch, yn aml, mae diweddariadau meddalwedd yn cynnwys gwelliannau a nodweddion newydd.

Diogelu eich cyfrifiadur

Fel arfer, byddwch yn cael hysbysiad gan wneuthurwr y feddalwedd ar ffurf hysbysiad ar eich sgrin, bod diweddariadau ar gael. Fel arfer, rhoddir y dewis ynghylch p’un a gaiff y diweddariad ei lawrlwytho a’i osod ar unwaith neu’n ddiweddarach. Ein hargymhelliad ni yw lawrlwytho a gosod diweddariadau cyn gynted â phosibl.

Mae rhai diweddariadau meddalwedd yn ei gwneud yn ofynnol i chi ailddechrau eich cyfrifiadur er mwyn cwblhau’r broses osod. Eto, fel arfer, rhoddir y dewis ynghylch gwneud hyn ar unwaith neu’n ddiweddarach. Rydym yn argymell i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl.

Nid yw lawrlwytho’r diweddariadau meddalwedd diweddaraf yn dileu’r angen i redeg y fersiynau diweddaraf o feddalwedd wrthfeirysol, gwrth-ysbïwedd a wal dân.

 

In Partnership With