English

Diogelwch Corfforol

Mae diogelwch ffisegol yr un mor bwysig â diogelwch ar-lein ar gyfer diogelu eich ffôn clyfar neu lechen – a chi eich hun – rhag trosedd. Mae maint bach y dyfeisiau hyn yn golygu eu bod yn arbennig o agored i gael eu dwyn, eu colli’n ddamweiniol neu eu difrodi. Mae’r dudalen hon yn sôn am ddiogelu eich dyfais a’i chynnwys rhag cael eu dwyn a rhag colled ffisegol arall neu ddifrod.

Y risgiau

Bydd colli eich ffôn clyfar neu lechen drwy ladrad neu fod yn ddiofal, yn achosi anghyfleustra a chost o bosibl. Mae hefyd yn peri risg i’ch diogelwch oherwydd y data rydych yn eu cadw ar eich dyfais, yn cynnwys eich rhestr cysylltiadau.

Dwyn Ffôn Clyfar/Llechen a Data

Os na fyddwch yn cymryd digon o ofal i ddiogelu am eich ffôn clyfar neu lechen, byddwch yn ei gwneud yn hawdd i droseddwyr ddwyn eich dyfais a/neu’r data sydd wedi’u storio arni. Bydd dyfeisiau’n cael eu dwyn y tu allan i’r cartref neu’r swyddfa fel arfer, er enghraifft:

  • Dwyn o fag llaw neu fag dogfennau.
  • Dwyn o bocedi.
  • Dwyn o fwrdd mewn caffi, bwyty neu dafarn, naill ai am eich bod wedi bod yn ddiofal a throi eich cefn ar y ddyfais neu am fod lleidr yn tynnu eich sylw.

Mae achosion o ddwyn o swyddfeydd anniogel hefyd yn gyffredin, yn ogystal â dwyn o’r cartref gan bobl sy’n torri i mewn neu’n alwyr annilys sy’n twyllo deiliaid cartrefi i feddwl eu bod o gwmni cyfleustod neu lanhau, neu gwmni tebyg.

Colli a Difrod i Ffôn Clyfar/Llechen

Mae dyfeisiau symudol hefyd mewn perygl o gael eu colli a’u difrodi pan nad oes bwriad troseddol. Er enghraifft, mae’r canlynol yn gyffredin iawn:

  • Gadael dyfeisiau mewn man cyhoeddus fel mewn siop, caffi, tafarn, terfynell maes awyr, tacsi neu ar drên neu awyren.
  • Colli ffonau allan o bocedi, yn cynnwys i lawr y tŷ bach.
  • Gadael ffôn ar do’r car.

Cadw eich Ffôn Clyfar/Llechen yn Ddiogel

  • Peidiwch byth â gadael eich ffôn clyfar neu lechen heb neb i ofalu amdano/amdani mewn man cyhoeddus neu mewn swyddfa.
  • Peidiwch â gadael eich dyfais heb neb i ofalu amdani mewn ystafell mewn gwesty pan fyddwch yn mynd allan – dylech ei chloi yn y coffor.
  • Peidiwch â chaniatáu i ddieithriaid dynnu eich sylw mewn man cyhoeddus pan fydd eich ffôn ar fwrdd neu mewn bag llaw neu fag dogfennau agored.
  • Os byddwch yn cadw eich dyfais gyda chi pan fyddwch allan, gwnewch yn siŵr na ellir ei dwyn o’ch poced.
  • Cadwch eich cartref neu swyddfa yn ddiogel rhag lladron a galwyr annilys.
  • Peidiwch â gadael ffonau clyfar a llechi yn y golwg drwy ffenestri a drysau gwydr.
  • Peidiwch byth â gadael ffonau clyfar neu lechi yn y golwg mewn car. Hyd yn oes os ydych yn y car, gallai eich gliniadur fod mewn perygl o gael ei ddwyn pan fyddwch yn llonydd (er enghraifft, pan fyddwch wedi parcio neu wedi aros wrth oleuadau traffig).
  • Dylech bob amser ddiogelu mynediad i’ch ffôn clyfar neu lechen gan ddefnyddio cyfrinair.
  • Mae adnodd adnabod ôl bys yn cynnig rhywfaint o ddiogelwch, ond nid yw cystal â chyfrinair neu PIN sydd wedi’i ddyfeisio’n dda a’i ddiogelu.
  • Byddwch yn ofalus sut rydych yn cael gwared ar ddeunydd pecynnu a allai gyfleu bod gennych ffôn clyfar neu lechen newydd.
  • Gofalwch na all eich ffôn clyfar syrthio allan o’ch poced cefn yn hawdd.
  • Byddwch yn wyliadwrus ynghylch difrodi eich ffôn clyfar pan fydd yn eich poced cefn, drwy eistedd arno.

Os caiff eich Ffôn Clyfar neu Lechen ei Dwyn neu ei Cholli

  • Rhowch wybod i’r Heddlu (neu os cafodd ei ddwyn neu ei golli ar drên, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig) a chael rhif cyfeirnod trosedd neu golled at ddibenion olrhain ac yswiriant.
  • Rhowch wybod i ddarparwr eich gwasanaeth ffôn symudol a all analluogi eich gwasanaeth.

Cyfyngu Effaith yr Achos o Ddwyn neu Golled

  • Lawrlwythwch ap ag enw da, fel y rhai sydd ar gael o Norton gan Symantec, Kaspersky neu BullGuard, sy’n eich galluogi i olrhain eich dyfais os caiff ei cholli neu ei dwyn. Yn dibynnu ar ba un y byddwch yn ei ddewis, mae’r rhain yn galluogi eich dyfais i wneud y canlynol:
    • Olrhain lleoliad eich dyfais sydd wedi’i cholli neu ei dwyn o bell
    • Seinio larwm ar y ddyfais ei hun
    • Cymryd ffotograff o rywun yn ceisio ei actifadu (e.e. y lleidr neu’r person sy’n dod o hyd iddi) a’i anfon atoch
    • Dileu’r data ar y ddyfais o bell fel na ellir cael mynediad atynt
  • Gwneud nodyn o rifau cyfres IMEI fel y gellir rhoi gwybod os caiff ei dwyn. Teipiwch *#06# i’ch ffôn i gael y rhif IMEI.
  • Cofrestru eich dyfais ar y Gofrestr Eiddo Genedlaethol Immobilise. Os caiff ei hatafaelu gan yr heddlu ar ôl iddi gael ei ddwyn neu ei cholli, mae gwell siawns y bydd yn cael ei dychwelyd i’r perchennog cywir.
  • Pan fyddwch yn cysoni eich dyfais â’ch cyfrifiadur, gwiriwch y gosodiadau ar gyfer cysoni er mwyn sicrhau nad ydych yn trosglwyddo gormod o ddata, nad oes angen iddynt fod ar y ddyfais.
  • Defnyddiwch farciwr diogelwch i labelu eich dyfeisiau symudol ac eitemau gwerth uchel arall.
  • Peidiwch byth â storio cyfrineiriau ar eich ffôn clyfar neu lechen.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich dyfeisiau wedi’u hyswirio’n ddigonol.
  • Os oes gan eich dyfais GPS neu wasanaeth lleoliad, peidiwch ag ychwanegu eich cyfeiriad cartref fel ffefryn neu nod tudalen amlwg er mwyn gwneud yn siŵr na chaiff ei ganfod gan leidr.

In Partnership With