English

Diogelwch Corfforol

Mae diogelwch ffisegol yr un mor bwysig â diogelwch ar-lein ar gyfer diogelu eich cyfrifiadur a chi eich hun rhag trosedd. Mae’r dudalen hon yn sôn am ddiogelu eich cyfarpar a’ch data rhag lladrad, a rhag tân, llifogydd a difrod damweiniol.

Y risgiau

Dwyn Cyfrifiaduron a Data

Os nad yw eich cyfarpar cyfrifiadurol wedi’i ddiogelu’n addas, mae’n hawdd i droseddwyr naill ai ddwyn eich data neu heintio eich cyfrifiadur heb fod angen mynediad ar-lein – neu i ddwyn neu ddifrodi’r cyfarpar ei hun. Er gwaethaf y dulliau ar-lein soffistigedig a ddefnyddir gan droseddwyr erbyn hyn, mae’n dal yn haws cael mynediad i’r cyfrifiadur drwy gael mynediad i’ch eiddo.

I ddechrau, os nad yw eich cartref (neu eiddo arall lle caiff y cyfarpar cyfrifiadurol ei gadw) wedi’i ddiogelu’n ddigonol, gall troseddwyr gael mynediad drwy dorri i mewn.

Ffordd arall gyffredin y gallant wneud hyn yw drwy dwyllo deiliaid cartrefi i feddwl eu bod yn alwyr dilys a dod o hyd i’r system gyfrifiadurol wrth esgus “darllen y mesurydd”, “arolygu’r eiddo” neu “lanhau’r ffenestri”. Nid yw’n cymryd llawer o amser i droseddwyr gyflawni eu hamcanion unwaith y byddant wedi eich twyllo neu wedi tynnu eich sylw.

Difrod Ffisegol

Fel popeth arall yn y cartref neu’r swyddfa, mae cyfarpar cyfrifiadurol yn agored i ddifrod gan dân, llifogydd a difrod damweiniol. Fodd bynnag, gall y canlyniadau fod yn fwy sylweddol oherwydd y data rydych wedi’u storio arno fel dogfennau, ffotograffau, cerddoriaeth, rhestrau cyswllt a gwefannau y rhoddwyd nodau tudalen ar eu cyfer.

Cadwch eich Cyfrifiaduron yn Ddiogel

  • Cadwch ddrysau a ffenestri ar glo.
  • Peidiwch â gadael allwedd sbâr i’r tŷ y tu allan.
  • Byddwch yn ofalus pwy rydych yn eu gadael i mewn i’r cartref.
  • Cadwch gofnodion papur preifat fel pasbortau, cyfriflenni banc a rhif Yswiriant Gwladol dan glo os yw’n bosibl.
  • Gosodwch larwm lladron.
  • Peidiwch â hysbysebu’r ffaith bod gennych gyfarpar cyfrifiadurol drwy ei adael yn y golwg drwy ffenestri a drysau gwydr.
  • Dylech ystyried defnyddio cebl cloi cyfrifiadur er mwyn ei wneud yn anoddach i’w ddwyn.
  • Gofynnwch am gyngor diogelwch ychwanegol gan eich cwmni yswiriant neu swyddog atal troseddau lleol.

Cyngor Ychwanegol ar gyfer Defnyddwyr Gliniaduron

  • Dylech osgoi bagiau sy’n edrych fel bagiau gliniaduron, er enghraifft bag gyda logo’r gwneuthurwr arno.
  • Cadwch eich gliniadur gyda chi lle bynnag y bo’n bosibl. Pan na fydd yn gofalu amdano – er enghraifft mewn ystafell mewn gwesty neu mewn ystafell gyfarfod – dylech ei gadw allan o’r golwg neu dan glo. Cariwch liniaduron gyda chi ar awyrennau neu fysiau.
  • Peidiwch byth â gadael gliniadur ar sedd car. Hyd yn oed os ydych yn y car, gallai eich gliniadur fod mewn perygl pan fyddwch yn llonydd (er enghraifft, pan fyddwch wedi parcio neu wedi aros wrth oleuadau traffig).
  • Dewiswch fag cwiltiog. Caiff llawer o liniaduron eu torri drwy gael eu gollwng.

Os caiff eich Cyfrifiadur neu Liniadur ei Ddwyn neu ei Golli

  • Os ydych wedi storio cyfrineiriau mewn dogfen ar eich cyfrifiadur neu liniadur, neu os ydych erioed wedi ticio’r blwch ‘cofio’r cyfrinair hwn’ ar wefan, dylech newid unrhyw gyfrineiriau cyn gynted â phosibl ar ôl iddo gael ei ddwyn neu ei golli.
  • Rhowch wybod i’r Heddlu (neu os cafodd ei ddwyn neu ei golli ar drên, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig) a chael rhif cyfeirnod trosedd neu golled at ddibenion olrhain ac yswiriant.

Cyfyngu Effaith yr Achos o Ddwyn neu Golled

  • Gwnewch nodyn o rifau cyfres cyfrifiadurol fel y gellir rhoi gwybod os caiff ei ddwyn.
  • Cofrestrwch eich cyfarpar cyfrifiadurol ar Gofrestr Eiddo Genedlaethol Immobilise. Os caiff ei atafaelu gan yr heddlu ar ôl iddo gael ei ddwyn neu ei golli, mae gwell siawns y bydd yn cael ei ddychwelyd i’r perchennog cywir.
  • Defnyddiwch farciwr diogelwch i labelu eich cyfrifiaduron ac eitemau gwerth uchel eraill.
  • Peidiwch byth â storio cyfrineiriau ar eich cyfrifiadur.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich cyfarpar cyfrifiadurol yn cael ei yswirio’n ddigonol.
  • Cadwch gopïau wrth gefn o’ch data (ceir rhagor o wybodaeth yn Cadw copïau wrth gefn)
  • Sefydlwch gyfrineiriau cyfrif defnyddiwr er mwyn rhwystro mynediad i’ch data.
  • Dylech ystyried sefydlu cyfrinair cychwyn fel na all defnyddwyr awdurdodedig gychwyn y cyfrifiadur. Fodd bynnag, rydym ond yn argymell hyn os ydych yn hollol siŵr y byddwch yn cofio eich cyfrinair cychwyn, neu fel arall ni ellir defnyddio eich cyfrifiadur.

Cyngor Arall

  • Rhwygwch ddogfennau sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol cyn eu taflu i ffwrdd.
  • Os yw eich cartref yn wynebu risg o lifogydd, ystyriwch gadw cyfrifiaduron allan o berygl ar loriau uchaf neu ar ben desgiau yn hytrach nag ar y llawr.
  • Cadwch ddiffoddydd tân sy’n addas i’w ddefnyddio gyda chyfarpar trydanol ger eich cyfrifiadur.
  • Byddwch yn ofalus sut rydych yn cael gwared ar flychau a allai hysbysebu bod gennych gyfrifiaduron neu argraffwyr newydd.

 

In Partnership With