English

Derbyn Telerau ac Amodau

Wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd, yn aml, mae’n ofynnol i chi dderbyn y Telerau ac Amodau cyn mynd ati i siopa, bancio, lawrlwytho a gwneud tasgau eraill.

Weithiau, dim ond gofyniad untro ydyw – er enghraifft pan fyddwch chi eisoes wedi trefnu cyfrif defnyddiwr. Fodd bynnag, mewn achosion eraill, mae’n ofynnol i chi glicio ar opsiwn ‘Derbyn’ neu ‘Parhau’ bob tro y byddwch chi’n cyflawni’r dasg, er enghraifft wrth lawrlwytho diweddariadau meddalwedd.

Wrth gwrs, nid yw’r weithred o dderbyn Telerau ac Amodau yn golygu eich bod wedi’u darllen ymlaen llaw. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud hynny naill ai am fod y Telerau ac Amodau yn hir iawn neu am fod pobl yn tybio eu bod yn gywir ac yn ddilys.

Mae’n bwysig cofio bod derbyn Telerau ac Amodau yn gyfystyr â chontract sy’n gyfreithiol gyfrwymol, felly mae er budd i chi wneud yn siŵr eich bod wedi’u darllen cyn eu derbyn. Drwy wneud hynny, byddwch hefyd yn fodlon bod y cytundeb rydych yn ymrwymo iddo yn addas i chi yn ogystal â’r cyflenwr neu berchennog y wefan.

 

See Also...

In Partnership With