English

Defnydd o gyfrifiadur mewn mannau cyhoeddus

Mae defnyddio cyfrifiaduron, ffonau clyfar neu lechi mewn mannau cyhoeddus bellach yr un mor gyffredin â’u defnyddio gartref neu yn y swyddfa.P’un a ydych yn defnyddio eich dyfais eich hun – neu gyfrifiaduron a geir mewn caffis rhyngrwyd a llyfrgelloedd – gall fod nifer o risgiau os na fyddwch yn cymryd gofal priodol.

Y risgiau

  • Rhywun yn cael mynediad i’ch gweithgarwch ar-lein os ydych yn defnyddio rhwydwaith di-wifr anghyfreithlon neu anniogel.
  • ‘Syrffio dros ysgwydd’ – pobl yn edrych ar eich sgrin.
  • Eich cyfrifiadur, eich ffôn clyfar neu’ch llechen yn cael ei golli neu ei ddwyn.
  • Maleiswedd, yn cynnwys ysbïwedd, ar gyfrifiaduron cyhoeddus.
  • Dwyn gwybodaeth bersonol o gyfrifiaduron cyhoeddus, neu gael mynediad i hanes pori ar gyfrifiaduron cyhoeddus.

Diogelu eich Hun

Eich Cyfrifiadur/Ffôn Clyfar/Llechen Eich Hun:

Y brif risg diogelwch sy’n gysylltiedig â defnyddio eich dyfais eich hun mewn man cyhoeddus, yw nad yw’r WiFi yn ddiogel o bosibl, gan alluogi pobl heb awdurdod i ryng-gipio unrhyw beth y byddwch yn ei wneud ar-lein. Gallai hyn gynnwys cael gafael ar eich cyfrineiriau a darllen e-byst preifat. Gall hyn ddigwydd os nad yw’r cysylltiad rhwng eich dyfais a’r WiFi wedi’i amgryptio, neu os bydd rhywun yn creu llecyn ffug sy’n eich twyllo i feddwl ei fod yn un dilys.

Gyda chysylltiad wedi’i amgryptio, bydd angen i chi roi ‘allwedd’ a all edrych yn debyg i hyn: 1A648C9FE2.

Neu, efallai y byddwch yn cael eich annog i fewngofnodi er mwyn cael mynediad i’r rhyngrwyd. Bydd hyn yn dweud wrth y gweithredwr eich bod ar-lein yn eu gaffi, gwesty neu dafarn. Mae bron yn sicr na fydd unrhyw ddiogelwch drwy amgryptio.

  • WiFi Cyhoeddus Diogel
    • Oni fyddwch yn defnyddio tudalen we ddiogel, peidiwch ag anfon na derbyn gwybodaeth breifat wrth ddefnyddio WiFi cyhoeddus.
    • Lle bynnag y bo’n bosibl, defnyddiwch ddarparwyr llecynnau WiFi masnachol, adnabyddus fel BT OpenZone neu EE.
    • Dylai pobl fusnes sydd am gael mynediad i’w rhwydwaith corfforaethol ddefnyddio Rhwydwaith Preifat Rhithwir (VPN) diogel, wedi’i amgryptio.
    • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd effeithiol wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi ddefnyddio WiFi cyhoeddus.
  • Fel arall, gallech ddefnyddio eich dongl neu ddyfais debyg eich hun (fel MiFi 3) a fydd yn rhoi cysylltiad diogel i chi. Mae’r rhain ar gael ar sail talu bob mis neu dalu wrth ddefnyddio.
  • Peidiwch â gadael eich cyfrifiadur, eich ffôn clyfar neu’ch llechen heb neb i gadw llygad arnynt.
  • Byddwch yn ymwybodol o bwy sydd o’ch amgylch ac a all fod yn gwylio beth rydych yn ei wneud ar-lein. Dylech ystyried defnyddio hidlydd preifatrwydd sy’n atal pobl sy’n eistedd bob ochr i chi rhag gweld eich sgrin. Mae’r cynnyrch 3M yn enghraifft o hyn.

Cyfrifiaduron Cyhoeddus

  • Dylech osgoi trafodion ariannol a allai ddatgelu cyfrineiriau neu wybodaeth bersonol werthfawr fel rhifau cardiau credyd.
  • Os gallwch, defnyddiwch raglen canfod ysbïwedd ar y we y gellir ymddiried ynddi i chwilio am ysbïwedd cyn defnyddio cyfrifiadur cyhoeddus nad ydych yn ymddiried ynddo.
  • Os ydych wedi bod yn defnyddio’r rhyngrwyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r cyfleuster pori i ddileu ffeiliau a chwcis a chlirio eich hanes pori.
  • Diogelwch unrhyw gyfrineiriau rydych am eu defnyddio drwy ddefnyddio dewislen opsiynau rhyngrwyd y porwr. Os nad ydych yn siŵr, dewiswch opsiwn help y porwr.
  • Dylech ystyried newid unrhyw gyfrineiriau y gallech fod wedi’u defnyddio ar gyfrifiadur cyhoeddus ar ôl i chi gyrraedd adref.
  • Os byddwch yn defnyddio cyfrif gwebost fel gmail, Hotmail neu Yahoo! i ddarllen eich e-byst, gwnewch yn siŵr ei fod yn defnyddio dolen ddiogel i’r we.
  • Byddwch yn ofalus o ran pwy sy’n gwylio dros eich ysgwydd.

 

See Also...

In Partnership With