English

Cynnwys Oedolion

Mae nifer o gamau rhagofalus y dylech eu cymryd wrth ymweld â gwefannau cynnwys i oedolion.

I ddechrau, mae poblogrwydd safleoedd o’r fath yn golygu bod troseddwyr yn eu ffafrio fel ffordd o rannu maleiswedd, a all arwain at amrywiaeth o ganlyniadau difrifol.

Mae hefyd oherwydd union natur y cynnwys sy’n cael ei weld, a fydd yn anaddas i bobl dan 18 oed, ac a all beri tramgwydd i eraill.

Y risgiau

  • Amlygu eich cyfrifiadur neu ddyfeisiau eraill i faleiswedd, a all arwain at nifer o ganlyniadau difrifol yn cynnwys:
    • Cael eu defnyddio i ysbïo ar bopeth a wnewch ar eich cyfrifiadur neu ddyfais arall, yn cynnwys monitro trafodion ariannol ac actifadu eich gwe-gamera.
    • Cloi eich holl ffeiliau hyd nes y caiff pridwerth ei thalu (meddalwedd wystlo), neu fygythiadau blacmel drwy ffyrdd eraill.
    • Gwneud eich dyfais yn rhan o fotrwyd (rhwydwaith mawr o ddyfeisiau a ddefnyddir i anfon llawer o draffig i wefan, sy’n fwy nag y gall ymdopi ag ef)
  • Efallai y byddwch yn gwybod neu efallai na fyddwch yn gwybod bod eich dyfais wedi cael ei heintio â maleiswedd, achos o ddwyn hunaniaeth neu fod mathau eraill o droseddau wedi’u cyflawni yn eich erbyn.
  • Amlygu plant dan oed i ddelweddau, fideos, testun a chynnwys arall amhriodol, er enghraifft, os ydych yn edrych ar gynnwys i oedolion ar ddyfais a rennir, neu os ydynt yn edrych dros eich ysgwydd.
  • Y posibilrwydd o edrych yn anfwriadol ar dudalennau lle ceir cynnwys eithafol a/neu anghyfreithlon, drwy glicio ar ddolenni (p’un a ydynt wedi’u cynnwys mewn delweddau) nad ydynt yn datgelu gwir natur y tudalennau hynny.
  • Y temtasiwn i ‘barhau’ yn fwriadol i weld cynnwys sy’n eithafol a/neu’n anghyfreithlon.

Edrych ar gynnwys i oedolion yn ddiogel

  • Dim ond gwefannau prif ffrwd y dylech ymweld â nhw, gan fod y rhai dibynadwy yn dibynnu ar eu henw da i barhau i ennill incwm gan hysbysebwyr a thanysgrifwyr.
  • Peidiwch â chael eich temtio i glicio ar ddolenni i wefannau sy’n cynnig neu sy’n dangos cynnwys anghyfreithlon, neu gynnwys eithafol a all beri gofid neu ddychryn i chi.
  • Peidiwch ag edrych ar gynnwys i oedolion ar gyfrifiadur neu ddyfais arall y mae plant dan oed yn ei ddefnyddio, neu eraill nad ydych am iddynt wybod am eich arferion gwylio. Os na ellir osgoi hyn, defnyddiwch osodiadau preifatrwydd wrth bori, dilëwch hanes darllen ar ôl pob sesiwn a pheidiwch â rhoi nodau tudalen i’r gwefannau.

Rhoi gwybod am faterion

  • Os byddwch yn cael eich targedu gan feddalwedd wystlo neu fathau eraill o dwyll, dylech roi gwybod am hyn ar unwaith drwy ffonio 0300 123 20 40 neu drwy fynd i www.actionfraud.police.uk
  • Os ydych yn defnyddio gwefan brif ffrwd i oedolion a’ch bod yn cael eich amlygu i gynnwys eithafol neu anghyfreithlon nad oeddech yn disgwyl ei weld, dylech roi gwybod i’r safle dan sylw.
  • Os byddwch yn dod o hyd i gynnwys sy’n ymwneud â cham-drin plant, dylech roi gwybod i CEOP yn www.ceop.police.uk
  • Peidiwch â theimlo gormod o gywilydd nac embaras i roi gwybod am y materion hyn, oherwydd gallech fod yn achub eich hun ac eraill rhag materion yn y dyfodol.

 

 

See Also...

In Partnership With