English

Cynnwys Casineb

Er bod y rhyngrwyd yn ein galluogi i gyfathrebu’n gyflym, yn hawdd a gyda grŵp eang o bobl ar yr un pryd, mae hefyd yn ei gwneud yn haws i safbwyntiau a deunydd atgas gael eu rhannu, a hynny yn gymharol ddienw a heb lawer o reolaeth.

Yn y DU, rydym yn mwynhau rhyddid mynegiant, sy’n galluogi pobl i rannu eu safbwyntiau heb gael eu herlyn. Mae rhannu rhai mathau o ddeunydd o’r fath yn anghyfreithlon, ond nid llawer, sy’n golygu nad oes gan yr heddlu nac asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill y pŵer i gymryd camau yn ei erbyn. Nod y ddeddfwriaeth sydd ar waith yw cydbwyso rhyddid mynegiant â’r hawl i fod yn rhydd o droseddau casineb. Yng Nghymru a Lloegr, gall fod yn drosedd ysgogi casineb ar sail hil, crefydd, rhywedd a chyfeiriadedd o ran rhywedd. Gall cynnwys ar-lein – ar wefannau, rhwydweithiau cymdeithasol ac ystafelloedd sgwrsio – fod yn anghyfreithlon pan fydd yn bygwth person neu grŵp o bobl neu’n aflonyddu arnynt. Os yw’r elyniaeth hon yn seiliedig ar unrhyw beth a nodir uchod neu ar anabledd, ystyrir ei bod yn drosedd gasineb, p’un a yw’n cynnwys geiriau, lluniau, fideos neu gerddoriaeth.

Mae’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (DPP) wedi llunio canllawiau i erlynwyr er mwyn sicrhau dull cyson.

Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yn y DU – yn sicr yn cynnwys pobl sy’n gorfodi’r gyfraith – yn croesawu ac yn hyrwyddo cydberthnasau da rhwng rhannau gwahanol o’r gymuned, ni waeth beth fo’u hil, lliw, credoau, cefndir, crefydd, rhywedd, cyfeiriadedd o ran rhywedd, oedran nac ymddangosiad.

Fodd bynnag, mae’r rheini sydd, am ba reswm bynnag, yn parhau i rannu deunydd casineb, a all arwain at ystod o ganlyniadau yn amrywio o ddioddefwyr yn teimlo cywilydd, eu bod wedi cael eu bradychu neu eu hynysu – er mwyn difrodi cydlyniant cymunedol a chreu ofn.

  • Gwefannau nad ydynt wedi’u lleoli yn y DU

Mae llawer o’r deunydd y gellir ei weld ar-lein y tu hwnt i awdurdodaeth ein llysoedd, gan fod troseddau ond yn cael eu cyflawni mewn achosion lle caiff ei rannu neu ei reoli yn y DU. Er enghraifft, nid oes gan yr UD drosedd ysgogi casineb hiliol, ond os bydd rhywun yn y DU yn rhannu ar safle dramor, gallai hyn fod yn drosedd yma.

  • Beth i’w wneud am ddeunydd casineb ar-lein

Os byddwch yn dod ar draws cynnwys atgas neu dreisgar ar-lein, neu os caiff cynnwys o’r fath ei anfon atoch, efallai na fydd yn anghyfreithlon, ond gallwch gymryd camau i’w ddileu o hyd os bydd yn peri tramgwydd, ofn neu bryder i chi.

RHOWCH WYBOD I WEINYDDYDD Y WEFAN AM HYN

Nid yw’r rhan fwyaf o wefannau yn caniatáu sylwadau, lluniau na fideos sy’n peri tramgwydd neu ofid i eraill ac mae eu rheolau wedi’u nodi yn eu polisïau defnydd derbyniol. Gwefannau poblogaeth – yn cynnwys y cyfryngau cymdeithasol, gweletya fideos a safleoedd newyddion yn cynnwys dulliau o roi gwybod neu gwyno am ddeunydd o’r fath. Gall hyn fod drwy fotwm ‘rhoi gwybod am y dudalen hon’ neu ‘rhoi gwybod am y defnyddiwr hwn’, neu drwy eu ffurflen gyswllt.

Mae gwybodaeth a chyngor gan rai o’r safleoedd mwyaf poblogaidd – yn cynnwys beth sy’n cyfrif fel achos o dorri defnydd derbyniol, rhoi gwybod am faterion a rhwystro – ar gael yma:

Facebook

Twitter

YouTube

RHOWCH WYBOD I’R CWMNI GWELETYA AM HYN

Os yw’r wefan ei hun o natur atgas neu’n cefnogi casineb ar lafar neu drais, gallwch roi gwybod i gwmni gweletya’r wefan. Mae gan lawer o gwmnïau gweletya reolau am y math o safleoedd a chynnwys y maent yn barod i’w gweletya. Gallwch wirio cwmni gweletya gwefan drwy roi cyfeiriad y wefan ar y safle ‘Who is hosting this?’ .

Gallech hefyd gysylltu â’ch cyflenwr rhyngrwyd eich hun a gofyn am fwy o wybodaeth.

RHOWCH WYBOD I’R HEDDLU AM HYN

Os yw’r wefan rydych wedi’i gweld ar-lein yn cyd-fynd â disgrifiad y cynnwys anghyfreithlon uchod a’ch bod yn meddwl ei bod yn tarddu o’r DU, dylech roi gwybod i’r heddlu. Gallwch wneud hyn yma: http://www.report-it.org.uk/your_police_force

Nid yw’n wasanaeth brys 24 awr. Os oes unrhyw risg uniongyrchol, deialwch 999 er mwyn dweud wrth yr heddlu am unrhyw berygl.

Os nad yw lleoliad y drosedd (lle y cafodd y deunydd ei rannu) yn hysbys, cyfrifoldeb yr heddlu lle rydych chi’n byw fydd gwneud ymholiadau.

Rhagor o Wybodaeth

Stop Hate UK: www.stophate.uk.org

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim. Mae Cymorth i Ddioddefwyr hefyd yn cynnwys rhagor o gyngor a gwybodaeth am drosedd casineb, yma:www.victimsupport.org.uk/crime-info/types-crime/hate-crime

 

See Also...

In Partnership With