English

Cynlluniau Pyramid

Math o sgam yw cynllun pyramid sy’n addo i’r dioddefwr y bydd yn cael adenillion cyflym a sylweddol ar fuddsoddiad ariannol a delir i’r person sydd ‘uwch ei ben’ yn y pyramid. Mae’n ofynnol i’r dioddefwr recriwtio nifer o bobl i fod ‘oddi tano’ yn y pyramid hefyd ac, yn ei dro, bydd yn casglu eu taliadau ac yn eu trosglwyddo i fyny’r pyramid.

Y risgiau

  • Colli cannoedd neu filoedd o bunnoedd hyd yn oed i sgam, gyda siawns fach iawn y caiff eich arian ei adennill.
  • Peri i aelodau o’r teulu, ffrindiau neu gydweithwyr golli arian ac, yn y broses, chwalu ymddiriedaeth a’ch perthynas chi â nhw.
  • Euogfarn a chosb drwy ddirwy sylweddol a chofnod troseddol o bosibl.

Mae sefydlu, gweithredu neu hyrwyddo cynllun pyramid yn anghyfreithlon yn y Deyrnas Unedig o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 ac, os cewch eich erlyn, gallech gael euogfarn droseddol, dedfryd o garchar a dirwy.

Yn wahanol i gynlluniau marchnata aml-lefel, ni chaiff unrhyw nwyddau na gwasanaethau eu cyflenwi yn gyfnewid am y taliad, er y gallai’r rhain gael eu haddo ar ffurf clybiau teithio, rhaglenni anrhegion, gwobr o gêl-arian neu gynlluniau cyfreithlon eraill, ymhlith pethau eraill. Am y rheswm hwn, bydd cynlluniau pyramid yn mynd i’r wal yn ddieithriad ar ôl cyfnod, a dim ond un neu ychydig o gyfranogwyr ar frig y pyramid sy’n debygol o wneud unrhyw arian, a bydd y cyfranogwyr eraill yn colli’r holl arian y maent wedi’i roi i mewn.

Yn gyffredinol, maent yn dibynnu ar gamfanteisio ar rwydweithiau pobl o ffrindiau, cydweithwyr a theulu a rhoddir pwysau ar ddioddefwyr i gymryd rhan drwy addo y byddant yn cael adenillion cyflym ar eu ‘buddsoddiad’ a thrwy honni y byddant yn gwneud tro gwael â’u cyfeillion drwy beidio â’u cynnwys. Bydd llawer o gyflawnwyr yn defnyddio cyfarfodydd wyneb yn wyneb – gan gynnwys yng nghartrefi darpar ddioddefwyr – i recriwtio aelodau newydd i’r cynllun. Y dyddiau hyn, caiff llawer o gynlluniau eu hysbysebu a’u rhannu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, negeseuon testun/negeseuon uniongyrchol ac e-bost. Defnyddir contractau a gwaith papur arall sy’n edrych yn swyddogol i’ch argyhoeddi chi yn fwy.

Sefydlwyd rhai cynlluniau gan honni eu bod yn cynnig y cyfle i ddioddefwyr cynlluniau eraill sydd wedi methu gael iawn am eu colledion.

Sut i adnabod, osgoi a rhoi gwybod am gynllun pyramid

  • Mae’n debyg mai cynllun pyramid yw unrhyw gynllun sy’n gofyn i chi recriwtio pobl er mwyn gwneud arian, heb unrhyw gynnyrch na gwasanaeth go iawn, a dylid ei osgoi, ni waeth faint y mae’n eich argyhoeddi chi ac ni waeth faint y mae angen yr arian arnoch.
  • Peidiwch ag ystyried ymuno â chynllun pyramid.
  • Ystyriwch yn ofalus cyn ceisio dylanwadu ar eraill i fuddsoddi neu wneud unrhyw daliadau.

Os bydd unrhyw un yn ceisio eich recriwtio i’r hyn sy’n gynllun pyramid yn eich barn chi, rhowch wybod am y digwyddiad i Action Fraud yn www.actionfraud.police.uk neu drwy ffonio 0300 123 2040.

See Also...

In Partnership With