English

Cymorth i Ddioddefwyr

Gall dioddef unrhyw seiberdrosedd – boed yn dwyll neu’n achos o ddwyn hunaniaeth bersonol i gamdriniaeth ar-lein, stelcio neu bedoffilia – fod yn beth anodd a brawychus i ddelio ag ef, yn enwedig gan fod y troseddwr yn cuddio pwy ydyw ar-lein yn aml. Efallai y byddwch yn teimlo cywilydd am gael eich targedu gan sgam neu’n meddwl y dylech fod wedi gwneud mwy i ddiogelu eich hun ar-lein.

Os oes seiberdrosedd wedi effeithio arnoch a bod angen cymorth neu gyngor emosiynol cyfrinachol arnoch ar beth i’w wneud nesaf, gallwch gysylltu â Cymorth i Ddioddefwyr, yr elusen annibynnol i ddioddefwyr a thystion troseddau ledled Cymru a Lloegr.

Bydd staff a gwirfoddolwyr Cymorth i Ddioddefwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn cynnig cymorth am gyhyd ag y bydd ei angen, ni waeth p’un a yw’r heddlu wedi cael gwybod am y drosedd na pha mor bell yn ôl y cafodd ei chyflawni. Os byddwch yn penderfynu rhoi gwybod i’r heddlu am y drosedd, gallant roi help a chyngor i chi ar beth i’w ddisgwyl. Bydd eu gwirfoddolwyr ymroddedig yn cynnig cymorth emosiynol i’ch helpu i adennill eich hyder a diogelu eich hun rhag bygythiadau posibl yn y dyfodol.

Gallwch ffonio’r Llinell Gymorth ar 08 08 16 89 111 neu gofynnwch iddynt eich ffonio’n ôl drwy’r wefan. Gallwch hefyd gysylltu â’ch swyddfa leol yn uniongyrchol drwy’r wefan.

Mae’r Llinell Gymorth ar gael bob awr o’r dydd ac mae am ddim, yn gyfrinachol ac yn annibynnol.

Gall plant a phobl ifanc y mae troseddau ar-lein wedi effeithio arnynt hefyd gysylltu â You & Co. Rhaglen ieuenctid Cymorth i Ddioddefwyr yw You & Co sy’n helpu pobl ifanc i ymdopi ag effeithiau troseddau. Mae’n cynnig cyngor ar gadw’n ddiogel ar-lein a gall eich rhoi mewn cysylltiad ag un o’i weithwyr cymorth. Mae eich gwasanaeth You & Co agosaf ar gael yma.

See Also...

In Partnership With