English

Copïo a Chario

Mae’r rhyngrwyd yn adnodd gwych ar gyfer ymchwilio i waith cartref a gwaith cwrs eich plentyn.

Fodd bynnag, yn anffodus, gall fod yn hawdd iawn ac yn ddeniadol iddo gopïo gwybodaeth yn syth o wefan a’i chyflwyno fel ei waith ei hun. Mae llawer o wefannau sy’n gwerthu traethodau a gwaith cwrs hyd yn oed.

Yr unig berson a fydd yn dioddef yw eich plentyn … gan na fydd yn dysgu drwy gopïo. Yn hytrach, dylech ei addysgu i ddefnyddio adnoddau ar-lein i ddechrau, a dangos iddo sut i ddod o hyd i’r gwefannau mwyaf credadwy, dibynadwy a phriodol – ond dim ond ar gyfer gwaith ymchwil. Eglurwch pam ei bod yn bosibl nad yw cynnwys a gaiff ei greu gan ddefnyddwyr fel cynnwys a geir ar Wikipedia yn hollol ddibynadwy.

Drwy gopïo, efallai y bydd eich plentyn hefyd yn torri cyfreithiau hawlfraint, felly cadwch lygad am y wybodaeth hon ar y wefan mae’n ei defnyddio.

 

See Also...

In Partnership With