English

Codi Tâl Prynu Symudol

Gellir defnyddio ffonau clyfar a llechi i dalu am gynnwys y gellir ei lawrlwytho neu gynnwys arall, weithiau gyda’r taliad yn ymddangos ar y bil ffôn ar ddiwedd y mis yn hytrach na mynd ar gerdyn. Yn hyn o beth, mae dyfeisiau symudol fel cardiau credyd yn y bôn, ac felly mae angen cymryd yr un faint o ofal wrth osgoi gorfod gwneud ad-daliadau diangen.

Y risgiau

  • Ffonio rhifau premiwm, sy’n dechrau gyda 09, 0871, 0872, 0873 neu 118, sy’n costio mwy na’r rhan fwyaf o rifau llinellau tir rheolaidd. Efallai y byddwch hefyd yn gweld “gall costau rhwydweithiau symudol amrywio” neu “a chostau rhwydwaith ychwanegol” wedi’u nodi mewn perthynas â’r rhif – gall cost gwneud galwadau fod yn wahanol ar gyfer pob darparwr ffôn.
  • Anfon negeseuon i rifau testun byr, yn dechrau gyda 6xxxx; 7xxxx; neu 8xxxx, er enghraifft wrth gymryd rhan mewn cystadleuaeth, lle ceir cost cyfradd bremiwm. Gallai hyn olygu y byddwch yn cael rhagor o negeseuon testun nad ydych am eu cael ac y gallech orfod talu tâl amdanynt.
  • Lawrlwytho apiau sy’n codi tâl arnoch – efallai y byddant am ddim ar y dechrau ac yna’n costio yn ddiweddarach.
  • Haint gan faleiswedd.Yn union fel cyfrifiadur, mae ffonau clyfar a llechi yn agored i feirysau ac ymosodiadau maleiswedd, yn cynnwys y sawl sy’n deialu rhifau cyfradd premiwm.

Aros mewn Rheolaeth o Gostau

  • Dylech bob amser wneud yn siŵr faint mae eich rhwydwaith ffôn yn ei godi yn ychwanegol i gost gwneud galwadau cyfradd bremiwm neu anfon neges destun cyfradd bremiwm.
  • Cwestiynwch unrhyw rifau dirgel ar eich bil ffôn gyda’ch rhwydwaith ffôn – neu defnyddiwch adnodd gwirio rhifau ar-lein yr Awdurdod Gwasanaethau y Telir Amdanynt drwy’r Ffôn.
  • Atebwch negeseuon testun nad ydych am eu cael gyda “STOP” neu “STOP ALL”.
  • Darllenwch eich bil ffôn yn ofalus a chadwch lygad am rifau nad ydych yn eu hadnabod a galwadau na wnaethoch eu gwneud.
  • Byddwch yn wyliadwrus ynghylch beth rydych yn clicio arno – darllenwch y telerau ac amodau yn llawn bob amser.

Rhagor o Wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, ewch Phone-Paid Services Authority

In Partnership With