English

Codau QR

Mae codau QR yn ffordd gyflym a didrafferth o gyrraedd gwefannau hysbysebwyr, yn uniongyrchol o’ch ffôn clyfar neu lechen. Ar gyfer hysbysebwyr, maent yn cynnig ffordd rad o’ch annog i ymweld â’u safle oherwydd y gallant gael eu hargraffu mewn hysbysebion neu ar ddeunydd pecynnu cynhyrchion. Mae hyn hefyd yn golygu y gallwch ymchwilio i gynhyrchion pan fyddwch allan yn y ganolfan siopa. Mae nifer o apiau gwahanol ar gael sy’n eich galluogi i sganio codau QR gan ddefnyddio camera’r ddyfais, yna mynd yn uniongyrchol i’r wefan ac, os byddwch yn dymuno, ei gadw fel ffefryn. Felly, mae codau QR yn gyfleus iawn, ond drwy eu defnyddio, gallech gael eich amlygu i nifer o risgiau … yn bennaf oherwydd y ffaith, yn wahanol i gyfeiriad gwe ysgrifenedig, na all cod QR gael ei ddarllen â’r llygad. Felly, nid oes gennych syniad pa wefan rydych yn ymweld â hi drwy edrych ar y cod.

Y risgiau

Mae’r ffaith na ellir darllen codau QR â’r llygad yn cynyddu’r siawns y cewch eich cyfeirio at wefan ffug. Hyd yn oed os caiff y cod QR ei argraffu ar boster hysbysebwr yn y stryd neu hysbyseb mewn cylchgrawn, gallai twyllwyr fod wedi rhoi cod amgen yn lle’r un go iawn.

Gallech gael eich cyfeirio i ymweld â gwefan ffug lle byddwch yn datgelu gwybodaeth bersonol neu ariannol, yn cael eich amlygu i ddeunydd amhriodol neu’n cael feirws.

 Defnyddio Codau QR yn Ddiogel

  • Gwnewch yn siŵr fod unrhyw ap cod QR y byddwch yn ei lawrlwytho yn dod o ffynhonnell ddibynadwy.
  • Lle y bo’n bosibl, ac yn enwedig mewn mannau cyhoeddus, chwiliwch am arwyddion gweledol nad oes rhywun wedi ymyrryd ag ef (er enghraifft drwy roi sticer drosto).
  • Peidiwch byth â rhoi gwybodaeth bersonol neu ariannol ar wefan rydych wedi cael eich cyfeirio ati o god QR.
  • Os ydych yn lawrlwytho meddalwedd diogelwch ar gyfer eich ffôn clyfar neu lechen, dewiswch un sy’n cynnwys sganiwr cod QR.

Mae rhai darllenwyr cod QR sydd ar gael yn gyffredin yn cynnwys y gallu i wirio dilysrwydd a diogelwch gwefannau y byddwch yn ymweld â nhw.

 

In Partnership With