English

Clickjacking

Yn anffodus, mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn lle poblogaidd iawn i bobl sy’n ceisio eich twyllo chi neu eich plentyn. Mae’n debygol na fydd eich plentyn mor rhagofalus â chi, felly mae angen i chi nodi’r peryglon.

Un o’r rhain yw clic-hacio (clickjacking), lle mae twyllwyr yn ceisio darbwyllo eich plentyn diniwed i glicio ar rywbeth sy’n ei demptio, sy’n arwain at lawrlwytho maleiswedd neu’n ei dwyllo i rannu gwybodaeth breifat.

Ymysg yr enghreifftiau o glic-hacio mae fideos doniol gyda phennawd clyfar fel “OMG! You won’t believe what this girl did!”, neu ap ffug a all ddangos i’ch plentyn pwy sydd wedi edrych ar ei dudalen.

Am ragor o wybodaeth am safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, cliciwch yma.

 

 

 

See Also...

In Partnership With