English

Chwilio ar y rhyngrwyd

Mae’n haws nag erioed i brynu neu werthu cerbyd … diolch i’r rhyngrwyd. Mae’r gallu i lanlwytho a gweld ffotograffau a disgrifiadau o gerbydau, a chysylltu â phrynwyr a gwerthwyr – drwy un clic yn unig – wedi trawsnewid y busnes, a phrofiad pobl o brynu a gwerthu. Fodd bynnag, mae’r rhyngrwyd hefyd wedi ei gwneud yn haws i brynwyr a gwerthwyr anonest dwyllo nifer fawr o bobl, felly mae nifer o bethau y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt cyn mynd ar-lein i brynu neu werthu cerbyd.

Y risgiau

  • Amlygiad i ddeunydd a all fod yn anweddus neu’n anghyfreithlon.
  • Darparwyr peiriannau chwilio yn gallu gweld eich gweithgarwch chwilio.

Chwilio’n Ddiogel

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i ddefnyddio hidlwyr chwilio. Mae’r rhain ar gael drwy’r opsiynau ‘Advanced Search’, ‘Settings’ neu ddolenni tebyg ar beiriannau chwilio. Bydd rhai hidlwyr peiriannau chwilio yn cofio gosodiadau o un sesiwn chwilio i’r llall, os byddwch yn mewngofnodi bob tro y byddwch yn chwilio. Os na fyddwch yn mewngofnodi, gallwch gymryd yn ganiataol nad yw’r hidlydd wedi’i actifadu. Gallwch bob amser glicio ar osodiadau’r hidlydd i weld y statws.
  • Mae rhai peiriannau chwilio hefyd yn defnyddio tudalennau rhybuddio er mwyn eich rhybuddio eich bod ar fin cael canlyniadau a all gynnwys deunydd a allai fod yn niweidiol neu ddolen i ddeunydd o’r fath. Ni fydd y rhain yn atal mynediad at safleoedd, ond byddant yn eich galluogi i wneud penderfyniad hyddysg ynghylch p’un a ydych am ymweld â nhw.
  • Mae gosod meddalwedd hidlo ar eich cyfrifiadur yn ffordd arall o helpu i’ch diogelu rhag gwefannau anweddus neu anghyfreithlon.
  • Mae peiriannau chwilio fel arfer yn cynnig dewis i chi rhwng chwiliad yn y DU yn unig neu chwiliad byd-eang. Rydych yn llai tebygol o gael canlyniadau sy’n cynnwys cynnwys anghyfreithlon drwy ddewis chwilio yn y DU yn unig, gan fod safleoedd sydd wedi’u lleoli yn y DU yn ddarostyngedig i gyfraith y DU ac felly yn haws i’w plismona.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio termau chwilio cywir (geiriau ac ymadroddion) er mwyn cael y canlyniadau mwyaf cywir, ac osgoi rhai diangen.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn sillafu’n gywir: gall y camgymeriad lleiaf arwain at ganlyniadau diangen.
  • Cofiwch nad yw’r holl wybodaeth mewn gwefannau a gynigir mewn chwiliadau yn ddibynadwy.
  • Cofiwch fod rhai canlyniadau chwilio yn rhestriadau y bydd cwmnïau yn talu amdanynt er mwyn hyrwyddo eu cynhyrchion neu eu gwasanaethau, felly gall y canlyniad ddangos tuedd tuag atynt. Gellir adnabod y rhain drwy eiriau fel ‘Ad’ neu ‘Sponsored Results’ ac fel arfer maent yn ymddangos ar frig y dudalen ac mewn colofn ar ochr dde’r dudalen.

Beth i’w wneud os byddwch yn dod ar draws deunydd anghyfreithlon

  • Wrth chwilio, os byddwch yn dod ar draws cynnwys rydych yn ystyried ei fod yn anghyfreithlon fel delweddau o gam-drin plant neu ddeunydd i oedolion sy’n amweddus yn droseddol, dylech roi gwybod i’r Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd.
  • Os byddwch yn dod ar draws cynnwys rydych yn ystyried ei fod yn anghyfreithlon fel cynnwys hiliol neu derfysgol, dylech roi gwybod i’r heddlu amdano.

 

See Also...

In Partnership With