English

Cerddoriaeth, Ffilmiau a Rhannu Ffeiliau

Y rhyngrwyd yn gynyddol yw hoff ffynhonnell cerddoriaeth, ffilmiau a mathau eraill o adloniant plant, ond mae’n hawdd iawn iddynt wynebu problemau wrth lawrlwytho neu rannu ffeiliau. Mae sawl rheswm pam y mae angen i chi wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o broblemau posibl gwneud hynny os nad ydynt yn gwybod y rheolau.

Gall safleoedd a rhaglenni rhannu ffeiliau achosi problemau mewn tair ffordd. Mae’r rhai sydd am ddim i’w defnyddio yn torri cyfreithiau hawlfraint, sy’n golygu bod lawrlwytho a lanlwytho yn anghyfreithlon. Caiff rhai safleoedd eu defnyddio i ddosbarthu pornograffi, deunydd hiliol neu ddeunydd amhriodol neu anghyfreithlon arall, yn aml gan esgus bod yn gynnwys parchus. Ac mae’r gwasanaethau hyn hefyd yn galluogi dieithriaid i gael mynediad i ardaloedd ar eich cyfrifiadur chi neu eich plentyn, sy’n golygu y bydd yn agored i feirysau, ysbïwedd a meddalwedd ‘botrwyd’.

Dangoswch i’ch plentyn ble y gall lawrlwytho cerddoriaeth a fideos yn gyfreithlon, fel safleoedd fel iTunes ac Amazon, neu lle gallwch rentu ffilmiau sy’n briodol i’w hoedran iddynt o amrywiaeth o wasanaethau ar-lein.

 

See Also...

In Partnership With