English

Caru’n Ddiogel Ar-lein

Mae safleoedd caru ar-lein fel Match.com, eHarmony.com a Zoosk.com yn cymryd y broses baru draddodiadol ar-lein ac yn galluogi pobl i gwrdd â’i gilydd drwy’r rhyngrwyd, gyda sawl cysylltiad yn arwain at berthynas hirdymor. Mae’r mwyafrif helaeth o bobl sy’n defnyddio safleoedd caru ar-lein yn ddidwyll ac yn onest o ran y wybodaeth y maent yn ei darparu a’u rhesymau dros ymuno. Fodd bynnag, mae eithriadau, ac mae angen i chi fod yn ymwybodol o sut i ddiogelu eich hun – a’ch cyfrif banc a’ch cynilion – wrth gwrdd â phobl ar-lein.

Y risgiau

  • Diogelwch personol wrth gwrdd â rhywun y gwnaethoch ei gyfarfod ar-lein.
  • Stelcio ac aflonyddu.
  • Twyll, pan fydd pobl yn apelio i’ch natur hawddgar i’w helpu allan o ‘sefyllfa anffodus’ drwy anfon arian atynt.
  • Pobl yn esgus bod yn rhywun arall.
  • Sbam, gwerthu neu dwyllo, yn enwedig twyll rhamant.
  • Blacmêl gwe-gamera, lle mae twyllwyr yn eich recordio yn gwneud pethau y gallech fod yn eu gwneud o flaen eich gwe-gamera ac yna’n defnyddio’r recordiad i gribddeilio arian.
  • Negeseuon e-bost gwe-rwydo sy’n honni eu bod o safle caru ar-lein ac sy’n eich annog i rannu gwybodaeth bersonol.
  • Cael eich twyllo drwy ddefnyddio gwefannau sy’n esgus bod yn safleoedd caru dilys.
  • Posibilrwydd o ddwyn eich arian os nad ydych yn defnyddio dolen ddiogel wrth wneud taliadau.
    • Defnyddio safleoedd caru anonest penodol sy’n gwneud y canlynol:Creu proffiliau ffug pan fydd y person rydych yn meddwl eich bod wedi cwrdd ag ef yn cael ei gyflogi gan y safle er mwyn cynnal eich diddordeb … a’ch cael i dalu arian
    • Rhoi’r gorau i anfon gohebiaeth a negeseuon cyn gynted ag y byddwch wedi talu’r ffi i’w derbyn

Dilynwch y cyngor hwn er mwyn caru yn ddiogel ar-lein

Dylech weld a yw’r safle caru rydych yn ei ddefnyddio yn aelod o’r Gymdeithas Caru Ar-lein (ODA). Mae aelodaeth yn golygu bod yn rhaid i’r safle ymrwymo i god ymarfer y diwydiant sy’n cynnwys cyfathrebu’n onest â defnyddwyr, diogelu eu preifatrwydd a rhoi dull roi gwybod am gam-drin. Os bydd y safle yn cynnwys logo’r ODA, bydd yn nodi ei fod yn aelod.

Creu eich proffil caru ar-lein: diogelwch eich hunaniaeth a’ch gwybodaeth bersonol

Byddwch yn Ddienw

  • Dewiswch enw defnyddiwr nad yw’n datgelu i bawb pwy ydych chi. Peidiwch â chynnwys eich cyfenw nac unrhyw wybodaeth arall i’ch adnabod fel eich lleoliad gwaith naill ai yn eich proffil na phan fyddwch yn cysylltu am y tro cyntaf.
  • Cofiwch y gallai enwau defnyddiwr sy’n amlwg yn rhywiol, yn awgrymog neu’n ddadleuol ddenu’r math anghywir o sylw.
  • Cadwch fanylion cyswllt yn breifat. Cadwch mewn rheolaeth o ran sut a phryd rydych chi’n rhannu gwybodaeth. Peidiwch â chynnwys eich gwybodaeth gyswllt fel eich cyfeiriad e-bost, cyfeiriad cartref, neu rif ffôn yn eich proffil neu ohebiaeth gychwynnol. Cymerwch bethau’n araf gan rannu mwy o wybodaeth pan fyddwch yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny. Mae’n amhosibl cael gwybodaeth yn ôl unwaith eich bod wedi’i rhannu.
  • Rhowch y gorau i gyfathrebu â rhywun sy’n ceisio rhoi pwysau arnoch i rannu eich gwybodaeth bersonol neu ariannol neu sy’n ymddangos ei fod yn ceisio eich twyllo i’w rhannu. Os bydd hyn yn digwydd, cysylltwch â’r darparwr caru ar unwaith er mwyn diogelu eich hun a defnyddwyr eraill hefyd.

Cyfrinair a Diogelwch

  • Byddwch yn ofalus wrth gael mynediad at eich cyfrif o gyfrifiadur cyhoeddus neu gyfrifiadur a rennir fel na all pobl eraill weld na chofnodi eich cyfrinair na’ch gwybodaeth bersonol.
  • Byddwch yn wyliadwrus wrth agor atodiadau e-bost gan rywun rydych ond newydd gwrdd ag ef
  • Gwnewch yn siŵr fod eich meddalwedd diogelwch rhyngrwyd wedi’i diweddaru.

Cysylltu â Phobl Newydd Ar-lein

Dewch i adnabod pobl, cymerwch eich amser a dilynwch eich greddf. Byddwch yn ofalus a dysgwch fwy am rywun cyn cysylltu ag ef neu hi y tu allan i’r safle caru. Mae gwasanaethau caru yn rhedeg cyfleuster postio a sgwrsio fel y gallwch ddod i adnabod pobl mewn ffordd ddiogel sydd wedi’i [monitro/rheoli]. Maent yn gwneud hyn er mwyn eich diogelu chi, nid er mwyn gwneud arian. Defnyddiwch eu llwyfan a’r diogelwch ychwanegol y mae’n ei roi. Os a phryd y byddwch yn penderfynu rhannu cyfeiriad e-bost, dylech ystyried creu cyfeiriad e-bost dienw ar wahân.

Cymerwch eich Amser

Weithiau, pan fyddwch wedi cyffroi ynghylch rhywun, gall teimladau cryf amharu ar eich greddf. Cymerwch ofal ac amser wrth siarad amdanoch eich hun. Does dim angen i chi rannu stori eich bywyd y tro cyntaf y byddwch yn sgwrsio – a ddylech chi ddim gwneud hynny. Bydd digon o amser i rannu manylion o’r fath os bydd eich perthynas yn datblygu.

Byddwch yn Gyfrifol a gwnewch eich Ymchwil eich hun

Mae terfyn ar allu darparwr safleoedd caru ar-lein i wirio cefndir defnyddwyr a dilysu’r wybodaeth y byddant yn ei darparu. Ni allant wirio cofnodion troseddwr pob defnyddiwr. A gall person fod yn broblem heb gael cofnod troseddol. Felly, peidiwch â meddwl eich bod yn ddiogel am eich bod ar safle caru; gwnewch eich ymchwil eich hun er mwyn dysgu mwy am rywun a gwneud penderfyniadau hyddysg cyn i chi benderfynu cwrdd. Edrychwch i weld a yw’r person y mae gennych ddiddordeb ynddo ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol eraill fel Facebook, chwiliwch ar y we i weld a oes cofnodion eraill o’r person ar-lein, ac os yw’n bosibl, defnyddiwch Google Image Search i wirio’r lluniau proffil.

Dylai Ceisiadau am Arian fod yn Rhybudd i Chi

Pam y byddai angen i rywun fenthyca arian gan rywun nad yw wedi cwrdd ag ef neu hi o’r blaen, neu y mae ond newydd gwrdd ag ef neu hi? Does dim rheswm pam y dylai unrhyw un ofyn i chi am arian nac am eich gwybodaeth ariannol, ni waeth pa mor drist yw’r stori y bydd yn ei rhoi. Cadwch eich gwybodaeth am eich banc a’ch cyfrif yn breifat. Torrwch bob cysylltiad ar unwaith a rhowch wybod am y mater i’r safle caru.

Rhowch Wybod am Ymddygiad Annerbyniol neu Amheus

Ni ddylai neb orfod dioddef ymddygiad annymunol, sarhaus a bygythiol ar-lein yn fwy nag y dylent ei wneud neu y byddent yn ei wneud wrth siarad â rhywun mewn bar neu gaffi. Dilynwch eich greddf a rhowch y gorau i gyfathrebu ag unrhyw un sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus neu’n bryderus. Peidiwch byth â theimlo cywilydd i roi gwybod i’r gwasanaeth caru am broblem. Rydych yn eu helpu nhw ac yn gwneud ffafr i eraill.

Cymerwch ofal wrth gwrdd wyneb yn wyneb

Byddwch yn gall ac yn ddiogel. Mae mynd ar ddêt gyda rhywun newydd yn gam cyffrous mewn perthynas, ond dylech ddal i fod yn ofalus. Hyd yn oed os byddwch yn teimlo eich bod wedi dod yn agosach at rywun dros e-bost a thros y ffôn, dylech gofio nad ydych yn adnabod y person hwn mewn gwirionedd. Felly, mae’n bwysig pan fyddwch yn cwrdd â rhywun yn bersonol, boed hynny ar eich dêt cyntaf neu eich pumed dêt, eich bod yn cymryd rhagofalon ac yn ystyried beth y dylech ei wneud a beth na ddylech ei wneud.

1. Cynllunio. Dweud. Gwneud.

Eich dêt chi ydyw. Dylech gytuno ar beth mae’r ddau ohonoch am ei gael cyn i chi gwrdd. Peidiwch â theimlo pwysau i gwrdd cyn y byddwch yn barod nac am fwy o amser na’r hyn rydych yn gyfforddus ag ef – mae dêt cyntaf byr yn iawn.

2. Dylech gwrdd mewn man cyhoeddus. Arhoswch mewn man cyhoeddus.

Y cynllun mwyaf diogel yw cwrdd mewn man cyhoeddus ac aros yno. Gwnewch eich ffordd eich hun yno ac yn ôl a pheidiwch â theimlo pwysau i fynd adref gyda’r unigolyn. Os byddwch yn teimlo eich bod yn barod i symud i amgylchedd preifat, gwnewch yn siŵr fod eich disgwyliadau yn cyd-fynd â disgwyliadau eich dêt.

3. Dewch i adnabod y person, nid y proffil.

Nid yw’r ffordd y mae pobl yn rhyngweithio ar-lein bob amser yr un fath wyneb yn wyneb. Peidiwch â digio os bydd eich dêt yn fwy gwyliadwrus wrth gwrdd yn bersonol, neu os na fydd pethau’n datblygu mor gyflym wyneb yn wyneb.

4. Pethau ddim yn mynd yn dda? Gwnewch eich esgusodion a gadael.

Peidiwch â theimlo’n wael am dorri dêt yn fyr os nad ydych chi’n hapus. Does arnoch chi ddim i’r person arall, ni waeth ers pryd rydych wedi bod yn sgwrsio na beth sy’n cael ei awgrymu.

5. Os cewch eich treisio neu’n wynebu ymosodiad rhywiol ar eich dêt, mae help ar gael.

Ni waeth beth fo’r amgylchiadau, mae gweithgarwch rhywiol yn erbyn eich ewyllys yn drosedd. Mae’r heddlu ac elusennau yma i’ch helpu a’ch cefnogi.

Cysylltwch â Rape Crisis neu The Survivors Trust, neu i gael rhagor o wybodaeth a chyngor, yn cynnwys elusennau a grwpiau cymorth eraill, ewch i: www.derbyshire.police.uk/sash

Osgoi Sgamwyr

Yn anffodus, nid yw pobl bob amser fel maen nhw’n ymddangos. Mae safleoedd caru, rhwydweithiau cymdeithasol a gwasanaethau rhyngrwyd eraill yn cael eu targedu gan sgamwyr. Dim ond un peth y mae sgamwyr am ei gael – arian. Dyma rai enghreifftiau o ymddygiadau cyffredin gan sgamwyr i chi gadw llygad amdanynt a rhoi gwybod amdanynt:

1. Datganiadau o gariad – Os bydd rhywun rydych chi mewn cysylltiad â nhw yn dechrau datgan eu cariad tuag atoch o fewn mater o wythnosau (neu ddiwrnodau neu oriau hyd yn oed), byddwch yn ofalus. Mae angen i chi adnabod rhywun cyn dechrau eu caru. Gallai negeseuon o gariad ar unwaith olygu bod rhywun yn ceisio bod yn rhan o’ch bywyd, am y rhesymau anghywir o bosibl. Defnyddiwch synnwyr cyffredin a pheidiwch â bod ofn siarad â ffrind er mwyn cael ail farn.
2. Ceisiadau am arian – Dylai hyn fod yn rhybudd ni waeth ar ba ffurf y daw’r cais. Bydd sgamwyr yn ceisio ennyn eich cydymdeimlad gyda’u straeon.
3. Rhywun yn cynnig arian i chi – Pwy sy’n rhoi arian i ddieithriaid drwy safle caru? Sgamiau yw’r rhain bob amser. Mae’r un peth yn wir am rywun sydd â chynlluniau i fynd yn gyfoethog yn gyflym. Yr unig berson fydd yn mynd yn gyfoethog yn gyflym yw’r sgamiwr wrth iddo gael manylion eich banc neu wybodaeth ariannol arall.
4. Bygythiadau a blacmel – Mae’r rhain yn eiriau hyll. Ond mae rhai sgamwyr wedi ceisio bygwth pobl i gael arian ganddynt am beidio â dangos lluniau, recordiadau gwe-gamera neu negeseuon y maent wedi llwyddo i’w cael gan ddefnyddwyr ar-lein.

Cyngor i osgoi sgamwyr

  • Peidiwch byth ag ymateb i gais am arian.
  • Peidiwch byth â rhoi eich manylion banc na manylion eraill.
  • Byddwch yn wyliadwrus o’r stori dorcalonnus – rhywun yn dweud wrthych faint maent am ymweld â chi ond bod angen benthyciad arnynt er mwyn talu am y tocyn/fisas. Neu straeon am aelodau o’r teulu sy’n ddifrifol wael ac sydd angen help gyda chostau meddygol.
  • Mae’r un peth yn wir am gynnig busnes gwych sy’n rhy dda i fod yn wir – mae’n drueni nad oes ganddynt ychydig o arian parod ychwanegol……
  • Byddwch yn wyliadwrus o’r proffiliau hynny sy’n ceisio ennyn cydymdeimlad – cyn-filwyr honedig, neu’r rhai sy’n honni eu bod newydd ddod yn weddw er mwyn ennyn eich ymddiriedaeth a’ch cydymdeimlad.
  • Peidiwch â gadael i dreigl amser gymylu eich barn. Gall y math hwn o gynigion gymryd amser i ddod allan mewn negeseuon, dros amser pan fyddwch wedi dod i ymddiried yn eich cyswllt ar-lein a gwerthfawrogi’r berthynas o bosibl. Dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn llai o gelwydd.
  • Mae’r un rhybudd yn wir am geisiadau brys – am arian sydd ei angen ar fyr rybudd. Bydd rhywun sy’n gofyn i chi ddefnyddio gwasanaeth trosglwyddo arian yn ceisio eich twyllo.
  • Byddwch yn wyliadwrus o gynnal perthynas dramor a thros bellter mawr: Gallant ddigwydd ond mae’n ffordd annhebygol i berthynas ddechrau all-lein felly byddwch yn wyliadwrus ar-lein.
  • Ceisiwch sylwi os bydd cyswllt allan ohoni neu allan o drefn: pobl sy’n cynnig rhifau tramor ar gyfer cysylltu, pobl nad ydynt yn ymwybodol o bethau sy’n digwydd yn y DU – digwyddiadau, y tywydd ac ati, pobl sydd am anfon negeseuon ar oriau anarferol neu y mae angen iddyn nhw wneud hynny.
  • Byddwch yn wyliadwrus os bydd rhywun yn ymddangos yn amwys ynghylch ei ddiddordebau, neu’n ailadrodd pethau’n aml neu’n ymddangos yn ddigyswllt. Efallai y bydd yn osgoi cwestiynau neu’n gwneud esgusodion dros beidio â chwrdd neu siarad dros y ffôn. Efallai y bydd camgymeriadau sillafu a gramadeg ar eu proffil neu mewn negeseuon.
  • Peidiwch â rhannu lluniau na gwybodaeth amdanoch eich hun nac eraill sy’n rhoi unrhyw fath o afael iddynt arnoch. Dylai eich bywyd preifat aros yn breifat hyd nes y byddwch chi’n adnabod rhywun yn dda iawn ac yn gallu dechrau ymddiried ynddyn nhw dros amser.
  • Os bydd rhywun yn ceisio eich bygwth i gael arian gennych – peidiwch ag ildio. Byddant yn dod yn ôl i gael mwy. Rhowch wybod amdanynt; ni waeth pa mor wael y mae hynny’n teimlo ar y pryd. Mae gan yr Heddlu dimau cenedlaethol a lleol er mwyn ymosod ar dwyllwyr. Gadewch iddynt eich diogelu chi – ac eraill.
  • Peidiwch â bod ofn gofyn i ffrind – os byddwch yn dechrau ymrwymo i berthynas ar-lein neu yn bersonol, gall fod yn anodd aros yn wrthrychol. Os bydd cyswllt yn dechrau teimlo’n rhyfedd ac yn enwedig os bydd arian yn cael ei drafod, gallech ofyn i ffrind neu berthynas os nad ydych yn teimlo eich bod wedi cyrraedd pwynt lle mae angen rhoi gwybod i’r gwasanaeth caru amdano. Os byddant yn eich cynghori i gymryd cam yn ôl … gwrandewch arnynt.

Rhoi gwybod am bryder neu broblem

Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod sgamwyr yn dramorwyr anllythrennog y byddwch chi ac eraill yn eu hadnabod ar unwaith. Mae sgamio yn fusnes afiach, ond mae’n fusnes iddyn nhw. Maent yn ymarfer cyffwrdd y galon, dangos tynerwch neu angen. Maent yn dweud wrth bobl yr hyn maent am ei glywed.

Os byddwch yn amau y gall rhywun rydych yn siarad â nhw fod yn sgamiwr, rhowch y gorau i gysylltu â nhw a rhowch wybod amdanynt ar unwaith. Ddylech chi fyth deimlo’n rhy wirion na bod â gormod o gywilydd i roi gwybod am rywun. Nid chi yw’r person a ddylai deimlo cywilydd a chael eich atal.

Dywedwch wrth y safle caru – a siaradwch â’r bobl broffesiynol. Mae’n rhaid i holl aelodau’r Gymdeithas Garu Ar-lein (ODA) gael trefniadau adrodd er mwyn delio â phryderon defnyddwyr am brofiad gwael neu ymddygiad amheus. Mae angen i ddarparwyr safleoedd caru wybod os oes problem. Gallant gymryd camau i wahardd pobl rhag bod ar safleoedd ar unwaith er mwyn eich cadw chi ac eraill yn ddiogel. Mae angen i ddarparwyr safleoedd caru ar-lein wybod os bydd rhywun yn ceisio cael gafael ar eich gwybodaeth bersonol, yn gofyn am arian neu’n ymddwyn mewn ffyrdd amhriodol. Maent yn monitro’n rheolaidd ond mae angen dweud wrthynt os byddwch yn gweld proffil sy’n cynnwys ffotograffau neu gynnwys anweddus, pornograffig, ymosodol, treisgar neu dramgwyddus. Byddant yn cymryd camau i ddileu’r cynnwys a gwahardd y defnyddiwr.

Dylech roi gwybod i’ch heddlu lleol am unrhyw weithred o drais neu gamdriniaeth. Os ydych wedi dioddef ymosodiad rhywiol ac nad ydych am gysylltu â’r heddlu, mae’r ODA yn argymell yn gryf y dylech gysylltu â Chanolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC).

Os ydych wedi wynebu twyll gwirioneddol neu honedig, rhowch wybod amdano i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu drwy www.actionfraud.police.uk.

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

Mae’r dudalen hon wedi’i llunio gyda chymorth caredig y Gymdeithas Caru Ar-lein

 

In Partnership With