English

Camwybodaeth, Twyllwybodaeth a Newyddion Ffug ynghylch Brechiadau COVID-19

Mae biliynau o bobl ledled y byd wedi cael brechiadau COVID-19, ac mae’r niferoedd yn cynyddu bob dydd. Mewn gwledydd lle mae rhaglenni brechu wedi cael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus, mae llai o heintiau, cyfnodau yn yr ysbyty a marwolaethau, ac mae’r rhai sydd wedi cael dau ddos o’r brechiad ond sy’n dal y feirws yn dueddol o ddioddef llai o effeithiau sy’n newid bywyd. Ar y cyfan, mewn gwledydd heb raglenni brechu, mae’r gwrthwyneb yn wir.

Mae llawer o bobl yn dewis peidio â chael eu brechu, am ryw reswm neu’i gilydd. Cyfeirir at sgil-effeithiau, problemau gyda ffrwythlondeb, iechyd/llesiant y ffetws a chrefydd yn rheolaidd, ymhlith llawer o resymau eraill. Mae’n bosibl y bydd rhai wedi cael profiad negyddol gyda brechiadau neu feddyginiaethau eraill yn y gorffennol. Gallai fod yn wir y gall fod rhai ôl-effeithiau nad oes neb yn ymwybodol ohonynt, yn enwedig o ystyried bod y rhan fwyaf o frechlynnau a chyffuriau eraill yn destun cylch ymchwil, datblygu a phrofi dros lawer o flynyddoedd. Dylid cydbwyso risgiau posibl cael brechlyn COVID-19 yn erbyn canlyniadau gael eich heintio a/neu drosglwyddo’r feirws i bobl eraill. Yn wir, dewis personol yw p’un a ydych am gael eich brechu ai peidio.

Ni ddylai pobl sy’n dewis cael eu brechu neu beidio â chael eu brechu gael eu targedu a’u cam-drin – naill ai ar-lein neu all-lein – gan y rhai sy’n anghytuno â’u dewisiadau.

Fodd bynnag, gan fod COVID-19 yn feirws angheuol sy’n rhan o’n bywydau o hyd – ac yn debygol o fod yn rhan o’n bywydau am amser hir eto – mae’n hanfodol ein bod yn gallu cael gafael ar y ffeithiau, wrth iddynt ddod yn hysbys, sy’n ein galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.

Rhyddid barn

Yn y rhan fwyaf o wledydd, os nad pob gwlad, mae grwpiau o ‘wrth-frechwyr’ sydd nid yn unig yn gwrthod y brechlyn eu hunain, ond hefyd i’w hanwyliaid. Mae rhai gwrth-frechwyr yn uchel eu cloch – er enghraifft, ar y cyfryngau cymdeithasol, ar wefannau, yn y newyddion ac mewn gwrthdystiadau a chyfarfodydd cyhoeddus – am eu hachos, a bydd rhai yn lledaenu rhesymau dros beidio â chael brechiad COVID-19 y maent naill ai yn eu credu, neu y maent yn gwybod eu bod yn dod o dan bennawd camwybodaeth, twyllwybodaeth neu newyddion ffug. Y gwir amdani yw bod lledaenu camwybodaeth, twyllwybodaeth a damcaniaethau cynllwyn yn parhau i arwain at golli bywydau ac yn peryglu gallu asiantaethau iechyd ledled y byd i roi diwedd ar y pandemig drwy imiwneddio torfol.

Pam nad yw rhai pobl am gael eu brechu

 Fel y soniwyd uchod, mae’n gwbl dderbyniol i bobl wrthod cael eu brechu, ond am y rhesymau cywir. Dyma enghreifftiau o’r rhesymau anghywir, sef anwireddau a gaiff eu lledaenu’n rheolaidd gan rai gwrth-frechwyr:

“Bydd brechiad COVID yn rhoi COVID i mi”

“Ni all oedolion hŷn gael y brechiad”

“Bydd brechiad COVID yn newid fy DNA”

“Mae brechiad COVID yn cynnwys microsglodyn fel y gellir ein tracio”

“Mae brechlyn COVID yn cynnwys meinwe o ffetysau”

“Os ydw i eisoes wedi cael COVID-19, nid oes angen y brechlyn arnaf”

Dylai fod rhyddid i bawb fynegi eu barn, mewn ffordd gytbwys a gwrthrychol yn ddelfrydol. Cyfrifoldeb pob un ohonom yw penderfynu a yw’r safbwyntiau hynny – a gwybodaeth a gaiff ei lledaenu ar-lein – yn ddilys.

Cyngor

  • Byddwch yn rhesymegol wrth ystyried yr hyn rydych yn ei ddarllen neu’n ei glywed am frechlynnau COVID-19, gan gwestiynu pam y byddai wedi cael ei ysgrifennu, neu a yw’n ceisio newid eich safbwynt.
  • A oes unrhyw un arall yn adrodd yr un wybodaeth? Edrychwch i weld a yw ffrydiau newyddion a gwefannau dibynadwy a pharchus hefyd wedi cyfeirio at y wybodaeth a welsoch.
  • Ymchwiliwch i’r ffynhonnell.Dysgwch fwy am y cyhoeddwr, er enghraifft a yw’n ffynhonnell ag enw da sydd fel arfer yn ddibynadwy, neu ai blog personol unigolyn ydyw? Edrychwch i weld a allwch ddod o hyd i adolygiadau diduedd o’r ffynhonnell.
  • Gwiriwch ffeithiau.Bydd newyddion dilys yn aml yn cynnwys data swyddogol, arolygon ac achosion tebyg blaenorol i gefnogi’r stori. Yn aml, bydd yn eithaf clir bod y wybodaeth yn anecdotaidd neu wedi’i ffugio.
  • Defnyddiwch eich greddf.Cofiwch, os bydd rhywbeth yn swnio’n rhy ryfedd, afreal neu od i fod yn wir, dyna fydd yr achos yn aml iawn.

See Also...

In Partnership With