English

Camwybodaeth a Newyddion Ffug

Mae’r rhyngrwyd yn adnodd hynod werthfawr ar gyfer dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ac awdurdodol am unrhyw beth o’r newyddion a materion cyfoes i DIY, iechyd i hanes, enwogion i’r Coronafeirws. Fodd bynnag, mae hefyd yn llawn gwybodaeth gamarweiniol, gwybodaeth sydd wedi cael ei chreu a’i rhannu gan bobl sydd â gwybodaeth anghywir am y pwnc, a gwybodaeth sydd wedi cael ei ffugio’n fwriadol a’i lledaenu. Mae’r dudalen hon yn disgrifio’n gryno y gwahaniaeth rhwng camwybodaeth a newyddion ffug.

Camwybodaeth

I bob pwrpas, gwybodaeth sy’n anghywir yw camwybodaeth, a gaiff ei chyflwyno ar ffurf, er enghraifft:

  • Post neu neges uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Neges destun neu e-bost.
  • Tudalen we neu wefan gyfan.
  • Dogfen neu ffeil a gaiff ei rhannu mewn unrhyw ffordd.

Yn aml iawn, caiff camwybodaeth ei rhannu’n ddiniwed gan bobl heb iddynt sylwi ei bod yn anghywir neu’n gamarweiniol, neu’n niweidiol hyd yn oed. Dyma sut y bydd camwybodaeth yn mynd yn feirol mewn cyfnod byr iawn, gydag amrywiaeth o ganlyniadau. Fodd bynnag, caiff gwybodaeth anghywir a gaiff ei rhannu gan rywun sy’n gwybod nad yw’n hollol wir ei galw’n dwyllwybodaeth.

Newyddion ffug

Yn yr oes hon o gyfryngau cymdeithasol sy’n gymharol ddilywodraeth, nifer mawr o sianeli newyddion ar-lein a straeon wedi’u noddi, byddwn yn dod i gysylltiad â newyddion ffug yn ddyddiol.

Dau gategori newyddion ffug

  • Straeon celwyddog a gaiff eu cyhoeddi’n fwriadol i ddylanwadu ar eich meddyliau a’ch penderfyniadau, gwneud i chi ymweld â gwefannau penodol (a allai fod yn dwyllodrus, neu gynnwys deunydd na fyddech am ei weld fel arfer), gwneud i chi gredu rhywbeth ffug neu brynu nwyddau neu wasanaethau penodol.
  • Straeon sydd ond yn rhannol wir, fel adrodd am ddigwyddiad ffeithiol ond camadrodd rhai o’r amgylchiadau neu’r ffeithiau cysylltiedig, fel cymhellion a dyfyniadau. Diben y math hwn o newyddion ffug yw lledaenu ideolegau a safbwyntiau yr unigolion neu’r sefydliad a greodd y straeon, gan ddylanwadu ar y darllenwyr.

Fel arall, mae rhai enghreifftiau o newyddion ffug yn deillio o chwedlau trefol neu negeseuon yn newid wrth iddynt gael eu trosglwyddo o berson i berson. A gan nad yw llawer o bobl yn tueddu i gadarnhau ffynhonnell cynnwys ar-lein cyn iddynt ei rannu, fel camwybodaeth neu dwyllwybodaeth, gall newyddion ffug fynd yn feirol yn gyflym iawn.

Mae rhai pobl hefyd yn honni’n fwriadol mai newyddion ffug yw newyddion sy’n ffeithiol gywir mewn gwirionedd, am nad ydynt yn cytuno â’r wybodaeth neu am nad ydynt yn ei hoffi.

Sut i wahaniaethu rhwng newyddion go iawn a newyddion ffug

  •  Gofynnwch i’ch hun a fyddai hyn yn digwydd mewn gwirionedd. Byddwch yn rhesymegol wrth ystyried yr hyn rydych yn ei ddarllen neu’n ei glywed, gan gwestiynu pam y byddai wedi cael ei ysgrifennu, a yw’n ceisio newid eich safbwynt, gwerthu rhywbeth i chi, eich cyfeirio at wefan arall neu eich syfrdanu.
  • A oes unrhyw un arall yn adrodd am yr un stori? Edrychwch i weld a yw ffrydiau newyddion a gwefannau dibynadwy a pharchus hefyd wedi adrodd am y stori a welsoch.
  • Ymchwiliwch i’r ffynhonnell. Dysgwch fwy am y cyhoeddwr, er enghraifft a yw’n ffynhonnell ag enw da sydd fel arfer yn ddibynadwy, neu ai blog personol unigolyn ydyw? Edrychwch i weld a allwch ddod o hyd i adolygiadau diduedd o’r ffynhonnell.
  • Gwiriwch ffeithiau. Bydd newyddion dilys yn aml yn cynnwys data swyddogol, arolygon ac achosion tebyg blaenorol i gefnogi’r stori. Yn aml, bydd yn eithaf clir bod y newyddion yn anecdotaidd neu wedi’u ffugio.
  • Gwiriwch ddelweddau. Yn aml bydd lluniau neu ddarluniau sy’n cyd-fynd â newyddion ffug wedi cael eu golygu i atgyfnerthu’r stori ac, yn aml, ni fydd hyn wedi’i wneud yn dda iawn. Hefyd, gwnewch chwiliad delweddau i’r gwrthwyneb ar Google i weld a yw’r ddelwedd wedi cael ei dwyn o ffynhonnell arall.
  • Defnyddiwch eich greddf. Cofiwch, os bydd rhywbeth yn swnio’n rhy ryfedd, afreal neu od i fod yn wir, dyna fydd yr achos yn aml iawn.

 

See Also...

In Partnership With