English

Blogio

Mae blog, sy’n deillio o’r term Saesneg ‘web log’, yn wefan a gaiff ei diweddaru’n rheolaidd â blogiadau newydd, yn debyg i ddyddiadur. Mae gwasanaethau fel WordPress a Blogger wedi’i gwneud yn haws i unigolion a chwmnïau preifat sefydlu eu blogiau eu hunain.

Y risgiau

  • Gallai eich manylion gael eu darganfod hyd yn oed os byddwch yn blogio dan enw ffug, neu’n ddienw. Er enghraifft, efallai nad yw blogiau a gaiff eu storio y tu allan i’r UE yn cael eu cwmpasu gan yr un rheoliadau diogelu data neu breifatrwydd â’r hyn rydym yn ei fwynhau yn y DU.
  • Efallai y byddwch yn difaru blogio am rywbeth yn nes ymlaen. Er enghraifft, efallai y byddwch yn colli eich gwaith neu’n methu mewn cyfweliad oherwydd blogiad sy’n codi cywilydd, neu’n peri gofid i ffrind, perthynas neu rywun sy’n agos atoch.
  • Mae blogiadau yn agored i gyfraith enllib. Gallai postio rhywbeth nad yw’n wir am unigolyn neu sefydliad arwain at gosbau difrifol.
  • Cofiwch – bydd beth bynnag y byddwch yn ei bostio ar-lein yn aros ar-lein … bydd unrhyw beth y byddwch yn ei bostio ar gael i’r cyhoedd a bydd ar gael am byth. Hyd yn oed os byddwch yn dileu’r post yn y pen draw, gall fod wedi’i storio mewn peiriant chwilio neu archif rhyngrwyd, neu mewn gweinydd cwmni.
  • Efallai eich bod yn meddwl mai cynulleidfa fach sydd gennych, ond mae blogiau yn gyhoeddus ac mae’n hawdd iawn i bobl ddod o hyd i wybodaeth amdanynt drwy beiriannau chwilio.
  • Gallai’r nodwedd ‘sylw’ a geir ar lawer o flogiau gael ei gamddefnyddio gan sbamwyr sy’n cynnwys dolenni i wefannau maent yn eu hyrwyddo, seiberdroseddwyr yn cynnwys dolenni i wefannau twyllodrus, neu bobl yn defnyddio iaith sarhaus neu fygythiol.
  • Plant yn datgelu gwybodaeth bersonol neu’n postio ffotograffau o’u hunain yn anfwriadol.

Blogio yn Ddiogel

  • Os ydych am i’ch blog fod yn gyhoeddus, dylech ond ddatgelu’r hyn rydych am i bawb ar y Rhyngrwyd ei wybod. Fel arall, cadwch eich blog yn breifat.
  • Adolygwch pwy sy’n cael mynediad i’ch safle yn rheolaidd a gwnewch newidiadau os oes angen.
  • Cadwch fanylion sy’n datgelu pwy ydych chi i chi eich hun a phobl rydych yn ymddiried ynddynt.
  • Peidiwch â phostio gwybodaeth gyfrinachol y gellid ei defnyddio i ddwyn eich hunaniaeth fel rhifau cardiau credyd, manylion pasbort neu gyfeiriad eich cartref.
  • Dylech ystyried defnyddio enw ffug os ydych am gadw pwy ydych chi’n gyfrinachol oherwydd diogelwch personol, am resymau gwleidyddol neu er mwyn diogelu cyflogaeth.
  • Byddwch yn ofalus pa wybodaeth rydych yn ei datgelu fel eich cyfeiriad, ysgol, gweithle neu ben-blwydd.
  • Byddwch yn ofalus ynghylch y ffotograffau rydych yn eu postio oherwydd gallant ddatgelu pethau amdanoch y byddai’n well gennych eu cadw’n breifat.
  • Byddwch yn ofalus pa deimladau preifat rydych yn eu rhannu yn eich blog.
  • Byddwch yn ymwybodol o beth mae ffrindiau yn ei flogio amdanoch chi, neu’n ei ysgrifennu mewn sylwadau ar eich blog, yn benodol ynghylch eich manylion personol a’ch gweithgareddau.
  • Byddwch yn ofalus wrth gwrdd yn bersonol â rhywun rydych ond yn ei adnabod drwy flogio.
  • Dylech sicrhau bod plant yn ymwybodol o beryglon blogio i gynulleidfa gyhoeddus.
  • Os ydych yn newydd i flogio, byddwch yn ofalus ar y dechrau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall nodweddion y feddalwedd rydych yn ei defnyddio a sut mae’r gymuned blogio (y ‘blogosphere’) yn gweithio, yn cynnwys sut i hidlo sylwadau.
  • Peidiwch â phostio unrhyw beth a allai godi cywilydd arnoch yn ddiweddarach.

In Partnership With