English

Bancio

Mae bancio ar-lein yn gyfleus iawn ond mae’n rhaid i chi ddiogelu eich cyfrinair a’ch manylion personol er mwyn atal troseddwyr rhag cael mynediad i’ch cyfrif yn eich enw.

Y risgiau

  • Gallech gael eich twyllo gan negeseuon e-bost gwe-rwydo neu alwadau ffôn llais-rwydo i ddatgelu eich cyfrinair a manylion cyfrinachol eraill.
  • Achosion o ddwyn hunaniaeth a achosir gan feirysau neu ysbïwedd, sy’n rhoi mynediad i droseddwyr i’r cyfrifon banc a gwybodaeth bersonol arall sydd wedi’i storio ar eich cyfrifiadur.
  • Maleiswedd ar eich cyfrifiadur sy’n anfon gwybodaeth i’ch banc sy’n wahanol i’r hyn a fwriadwyd gennych – er enghraifft, derbynnydd taliad. Gallai maleiswedd hefyd gyflwyno meysydd ffug fel ‘rhowch eich cyfrinair cyfan’ ar safle sy’n ddilys fel arall, drwy ymyrryd â’ch porwr. Weithiau, gelwir hyn yn ymosodiad ‘Dyn yn y porwr’.

Bancio Diogel

  • Peidiwch byth â datgelu cyfrineiriau na gwybodaeth bersonol arall mewn ymateb i e-bost, galwad ffôn na llythyr y mae’n ymddangos eu bod gan eich banc neu sefydliad ariannol arall. Ni fydd banciau byth yn anfon negeseuon e-bost atoch yn gofyn i chi ddatgelu gwybodaeth o’r fath. Bydd unrhyw ohebiaeth o fanciau yn defnyddio eich enw go iawn (nid ‘Syr’ na ‘Madam’) a dilysiad arall o bwy ydych chi o bosibl fel eich cyfringod neu ran o rif eich cyfrif. Os nad ydych yn siŵr a yw e-bost yn ddilys, cysylltwch â’ch banc mewn ffordd arall.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio cysylltiad rhyngrwyd diogel er mwyn cysylltu â’ch banc. Peidiwch byth â defnyddio Wi-Fi cyhoeddus am ddim – ni waeth pa mor gyfleus ydyw – oherwydd efallai na fydd yn ddiogel a gallai rhywun fod yn clustfeinio arnoch
  • Chwliwch am ‘https’ ar ddechrau’r cyfeiriad a’r symbol clo clap yn ffrâm y porwr.
  • Dim ond drwy roi’r cyfeiriad yn eich porwr neu ddefnyddio nod tudalen rydych wedi’i greu gan ddefnyddio’r cyfeiriad cywir y dylech ymweld â gwefan eich banc. Os ydych o’r farn y gallai eich manylion fod wedi’u peryglu mewn rhyw ffordd, cysylltwch â’r banc (Gweler Diogelu Hunaniaeth).
  • Defnyddiwch gyfrineiriau cryf a PINs.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd effeithiol wedi’i diweddaru cyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc.
  • Defnyddiwch gyfrinair a PIN gwahanol ar gyfer pob gwefan.
  • Peidiwch â datgelu eich cyfrineiriau na’ch PINs i unrhyw un arall na’u hysgrifennu i lawr er mwyn eu cofio.
  • Darllenwch eich datganiadau bob amser, ac os byddwch yn sylwi ar unrhyw drafodion anarferol, rhowch wybod ar unwaith.
  • Gwrthodwch yr opsiwn ar gyfer datganiadau papur a chofrestrwch ar gyfer trefniant bancio ar-lein gyda hysbysiadau ar ffôn symudol. Gellir rhyng-gipio datganiadau papur yn hawdd a’u darllen.
  • Trefnwch eich bod yn cael diweddariadau Windows.
  • Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio cyfrifiaduron cyhoeddus i gael mynediad i’ch cyfrifiadur.
  • Byddwch yn ymwybodol o bobl yn ‘syrffio dros ysgwydd’ yn gweld eich sgrin.

Awdurdodiad Dau Ffactor ac Aml Ffactor

Mae sawl banc  yn defnyddio awdurdodiad dau ffactor er mwyn cael tystiolaeth gryfach o bwy ydych chi na thrwy ddefnyddio cyfrineiriau yn unig. Y ddau ffactor yw ‘rhywbeth rydych yn ei wybod’ (fel arfer eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair) a ‘rhywbeth sydd gennych’ sef naill ai eich cerdyn banc gyda darllenydd cerdyn, neu ddyfais annibynnol fel SecureKey HSBC. Mae’r cod a gaiff ei greu yn bersonol i chi, ac mae’n wahanol bob tro y byddwch yn mewngofnodi.

Disgwylir y bydd mwy o fanciau a sefydliadau gwasanaethau ariannol yn cynyddu lefelau diogelwch yn sgil bancio ar ffonau symudol a thrwy apiau, gan ddefnyddio awdurdodiad pum ffactor a allai gynnwys defnyddio gwasanaethau lleoliad i brofi bod y ddyfais symudol yn yr un lle â deiliad y cyfrif, ac adnodd adnabod llais soffistigedig.

Rapport

Mae rhai banciau yn defnyddio meddalwedd diogelwch ychwanegol wedi’i gynllunio’n benodol i’ch diogelu pan fyddwch yn bancio ar-lein. Gellir lawrlwytho meddalwedd Rapport o’r banciau hyn ac mae’n diogelu trafodion ariannol yn ogystal â meddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd arferol.

Rhagor o Wybodaeth

Mae gan bob banc wybodaeth diogelwch ar-lein ar ei wefan, yn cynnwys gwybodaeth am achosion hysbys o dwyll.

Hefyd, ewch i:

AntiPhishing.org Y Gweithgor Byd-eang Rhag Gwe-rwydo.

Antitheft.org.uk Gwefan Dwyn Hunaniaeth y Swyddfa Gartref.

moneyadviceservice.org.uk/en/articles/beginners-guide-to-online-banking  Canllaw cyffredinol i fancio ar-lein ar gyfer dechreuwyr

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

In Partnership With