English

Bancio Symudol

Mae bancio symudol – defnyddio apiau bancio neu wefannau symudol ar ffonau clyfar a llechi – yn dod yn fwy poblogaidd wrth i bobl sylweddoli buddiannau cyfleuster gwirio cyfrifon, trosglwyddo arian a gwneud taliadau o gysur eu cadair freichiau neu pan fyddant allan o’r tŷ. Mae’r banciau mawr yn buddsoddi’n helaeth mewn diogelwch er mwyn gwneud eich profiad bancio symudol yn ddiogel. Fodd bynnag, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn defnyddio eich bancio symudol yn gyfrifol er mwyn eich diogelu eich hun a’ch arian.

Y risgiau

  • Pobl anawdurdodedig – yn cynnwys troseddwyr – yn cael mynediad i’ch cyfrifon banc a’u defnydido drwy ddod o hyd i’ch manylion mewngofnodi neu eu dyfalu.
  • Rhywun yn rhyng-gipio eich manylion cyfrinachol a’ch trafodion os nad yw’r Wi-Fi rydych yn ei ddefnyddio wedi’i ddiogelu.
  • ‘Syrffio dros ysgwydd’ – pobl yn gweld beth rydych yn ei wneud ar-lein, dros eich ysgwydd neu drwy deledu cylch cyfyng.
  • Eich dyfais symudol yn cael ei cholli neu ei dwyn, a allai gynnwys neu roi mynediad hawdd i gyfrifon banc a manylion cyfrinachol.
  • Cael eich twyllo i ymweld â gwefannau bancio ffug, neu lawrlwytho apiau bancio ffug.
  • Cael eich darbwyllo i ddatgelu manylion cyfrinachol i alwyr sy’n honni eu bod o’ch banc neu’r heddlu, yn dweud wrthych bod problem ar eich cyfrif.

Bancio symudol diogel

  • Gwnewch yn siŵr fod eich ffôn symudol neu’ch llechen bob amser yn cael ei diogelu gyda PIN sy’n anodd ei ddyfalu. Peidiwch â datgelu eich PIN i neb, na’i ysgrifennu a’i storio lle y gellir dod o hyd iddo.
  • Fel bancio ar-lein o gyfrifiadur, dylech ddefnyddio a diogelu cyfrineiriau a geiriau cofiadwy yn ofalus.
  • Peidiwch â gadael eich dyfais heb neb i ofalu amdani, na’i gadael na’i storio mewn man anniogel. Lawrlwythwch ap tracio sy’n eich galluogi i ddileu eich data o bell, neu galluogwch y nodwedd hon os yw eisoes ar eich dyfais.
  • Diweddarwch yr apiau bancio ac apiau eraill ar eich dyfais yn rheolaidd.
  • Allgofnodwch o’ch ap bancio neu wefan symudol bob amser pan fyddwch wedi gorffen ei defnyddio. Efallai na fydd yn ddigon i gau’r ap neu’r wefan neu droi eich dyfais i ffwrdd.
  • Peidiwch â defnyddio rhwydweithiau Wi-Fi heb eu diogelu ar gyfer bancio, pwrcasiadau neu ddarllen eich negeseuon e-bost. Mewn mannau cyhoeddus, mae’n anodd iawn dweud os yw llecyn Wi-Fi yn ddiogel ai peidio, felly mae bob amser yn well peidio â’i ddefnyddio. Mae’n well defnyddio cysylltiad rhyngrwyd 3G neu 4G, hyd yn oed os bydd yn arafach gwneud hynny.
  • Cymerwch ofal wrth lawrlwytho apiau: gwnewch yn siŵr eu bod o siop awdurdoedig a darllenwch adolygiadau ac argymhellion. Mae miloedd o apiau bancio maleisus yn bodoli, yn enwedig ar gyfer dyfeisiau Android, a chaiff rhai eu lawrlwytho o siopiau apiau swyddogol hyd yn oed.
  • Lawrlwythwch a defnyddiwch un o’r nifer o apiau diogelwch rhyngrwyd dibynadwy ar gyfer eich dyfais, a’i ddiweddaru’n rheolaidd.
  • Gwiriwch osodiadau diogelwch eich dyfais er mwyn sicrhau’r lefelau diogelwch uchaf.
  • Gwnewch yn siŵr fod ap symudol eich banc wedi cael ei ddilysu ar gyfer ei ddiogelwch. Edrychwch ar ei wefan i weld y datganiad a gyhoeddwyd ar sut mae wedi gwneud hyn. Neu, darllenwch safbwyntiau defnyddwyr eraill yr ap drwy chwilio ar-lein.
  • Darllenwch delerau ac amodau eich banc ar gyfer bancio symudol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw eich cyfrifoldebau, a chyfrifoldebau eich banc.
  • Ar yr ap, dewch o hyd i’r opsiwn ar gyfer anfon neges destun bob tro y bydd trafodyn yn digwydd ar eich cyfrif, a defnyddiwch yr opsiwn hwnnw. Bydd hyn yn eich hysbysu am drafodion twyllodrus cyn gynted ag y byddant yn digwydd.
  • Byddwch yn ofalus gyda negeseuon e-bost, negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n honni eu bod gan eich banc neu’r heddlu yn honni bod problem gyda’ch cyfrif ac yn gofyn am eich manylion mewngofnodi neu fanylion cyfrinachol eraill. Ni fyddai eich banc na sefydliad dilys arall byth yn gofyn am y manylion hyn.

Os ydych wedi wynebu twyll gwirioneddol neu honedig

  • Cysylltwch â’ch banc ar unwaith
  • Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu yn  www.actionfraud.police.uk

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

 

 

In Partnership With