English

Atal lladrad hunaniaeth

Mae dwyn hunaniaeth yn ddull a ddefnyddir i gyflawni gweithgarwch troseddol, yn cynnwys defnydd anawdurdodedig o’ch enw a’ch manylion personol naill ai er mwyn dwyn oddi wrthych, neu er mwyn cyflawni trosedd yn eich enw. Gellir dwyn hunaniaeth ar-lein, drwy ddefnyddio dogfennau a argraffwyd, neu drwy gyfuniad o’r ddau.

Y risgiau

  • Cael eich twyllo i ddatgelu data personol mewn ymateb i e-bost, neges destun, llythyr neu alwad ffôn.
  • Rhywun yn dwyn dogfennau papur neu’n cael mynediad iddynt (er enghraifft, datganiadau banc, biliau cyfleustod, ffurflenni treth, pasbort/trwydded yrru).
  • Rhannu gwybodaeth breifat â theulu, ffrindiau neu bobl rydych yn ymddiried ynddynt.
  • ‘Syrffio dros ysgwydd’ – pobl yn edrych dros eich ysgwydd ar eich cyfrifiadur neu’ch ffôn clyfar/llechen, neu wrth y peiriant ATM.

Y Symptomau

  • Ddim yn cael biliau na gohebiaeth arall – sy’n awgrymu bod troseddwr wedi rhoi cyfeiriad gwahanol yn lle eich cyfeiriad chi.
  • Cael cardiau credyd na wnaethoch gais amdanynt.
  • Credyd yn cael ei wrthod i chi heb reswm amlwg.
  • Cael galwadau gan gasglwyr dyledion neu gwmnïau am bethau na wnaethoch eu prynu.
  • Cofnodion nad ydych yn eu hadnabod ar eich hanes credyd.
  • Mae dogfennau pwysig fel eich pasbort neu drwydded yrru eisoes wedi cael eu colli neu eu dwyn.
  • Wrth brynu neu werthu, rydych yn cael cwynion nad yw nwyddau nad oeddech yn ymwybodol ohonynt wedi cael eu dosbarthu neu na thalwyd amdanynt.
  • Rydych yn gweld cofnodion ar eich datganiad banc, credyd neu gerdyn siopa am nwyddau na wnaethoch eu harchebu.
  • Ni allwch fewngofnodi i safle gan ddefnyddio eich cyfrinair arferol (am fod troseddwr wedi mewngofnodi fel chi ac wedi’i newid).

Atal

  • Peidiwch â rhannu gwybodaeth am eich cyfrif â ffrindiau, teulu na phobl eraill.
  • Peidiwch â rhannu gormod ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru yn rhedeg.
  • Os yw’n bosibl, trefnwch gael biliau a datganiadau dibapur.
  • Ffeiliwch ddogfennau sensitif yn ddiogel, a rhwygwch y rhai nad oes eu hangen arnoch bellach – yn ddelfrydol gyda pheiriant rhwygo papur.
  • Peidiwch byth â datgelu data gwybodaeth breifat wrth ymateb i e-bost, neges destun, llythyr, galwad ffôn, oni bai bod y cais o ffynhonnell ddilys.
  • Byddwch yn wyliadwrus bob amser o bobl yn edrych dros eich ysgwydd pan fyddwch yn nodi gwybodaeth breifat ar gyfrifiadur, dyfais symudol neu beiriant ATM.

Beth i’w wneud os bydd rhywun wedi dwyn eich hunaniaeth

  • Gweithredwch yn ddi-oed er mwyn lleihau’r effaith.
  • Cysylltwch ag unrhyw wefannau yr effeithiwyd arnynt a rhowch wybod iddynt am y broblem.
  • Os gallwch, mewngofnodwch a newidiwch eich cyfrinair ar unwaith gan ddefnyddio cyfrinair cryf.
  • Os na allwch fewngofnodi, cysylltwch ag adran cymorth technegol y wefan ar unwaith i gael rhagor o gyngor.
  • Gofynnwch i’ch banc, cymdeithas adeiladu neu gwmni cerdyn credyd am gyngor (er enghraifft ar rewi cyfrifon a chael cardiau, cyfrineiriau a PINs newydd). Bydd y rhan fwyaf yn ad-dalu’r swm llawn a gollwyd ar yr amod nad oeddech yn esgeulus mewn rhyw ffordd.
  • Newidiwch eich cyfrinair ar wefannau eraill rhag ofn eu bod hefyd wedi cael eu peryglu.
  • Os oes angen cwestiwn cyfrinachol i gael mynediad i wefan, newidiwch hwn os gallwch er mwyn osgoi digwyddiadau tebyg.
  • Gwiriwch eich gwybodaeth bersonol arall, fel cyfeiriadau, er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn dal i fod yn gywir.
  • Chwiliwch am drafodion eraill, eitemau sydd ar werth neu eitemau a brynwyd yn eich enw nad chi oedd yn gyfrifol amdanynt, a’u canslo.
  • Rhowch wybod am bob dogfen a gafodd ei cholli neu ei dwyn (pasbortau, trwyddedau gyrru, cardiau credyd, llyfrau siec ac ati) cyn gynted â phosibl i’r awdurdodau cyhoeddi perthnasol.
  • Peidiwch â pharhau i ddefnyddio PIN sydd wedi’i beryglu.
  • Holwch yr asiantaethau gwirio credyd am unrhyw gofnodion anarferol, ac i gael cyngor. Er enghraifft, mae Experian yn cynnig gwasanaeth monitro rhad ac mae’r manylion ar gael yn www.experian.co.uk/consumer/credit-expert-credit-monitoring.html  ac mae Clearscore yn dangos adroddiad credyd Equifax i chi am ddim, yma: www.clearscore.com/?utm_source=trmi&utm_medium=site&utm_campaign=gso-site
  • Rhowch wybod i Royal Mail os byddwch yn amau bod rhywun wedi dwyn eich post neu fod camau atgyfeirio post wedi’u cymryd yn dwyllodrus ar gyfer eich cyfeiriad.
  • Ystyriwch gofrestru â Gwasanaeth Cofrestru Amddiffynnol CIFAS.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll: Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk .

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

See Also...

In Partnership With