Arwerthiannau Penny

Dull o siopa ar-lein yw ‘arwerthiant ceiniog’ neu ‘penny auction’ (yr enw poblogaidd am arwerthiant lle codir ffi am wneud cynnig) lle mae pawb sy’n cymryd rhan yn talu ffi fach, na cheir ei had-dalu bob tro y byddant yn gwneud cynnig am eitem. Pan ddaw’r arwerthiant i ben, y person olaf i wneud cynnig fydd yn ennill yr eitem ac a fydd hefyd yn talu’r pris terfynol, sydd fel arfer yn llawer is na phris manwerthu’r eitem (ond nid dyna’r achos bob amser). Mae hyn yn golygu bod arwerthiannau ceiniog yn wahanol i arwerthiannau ar-lein safonol, lle ni chaiff unrhyw beth ei dalu oni fydd y cynnig yn llwyddiannus.

Y risgiau

  • Ceir risg uchel o golli’r arwerthiant ar ôl gwario arian ar gynigion eisoes, gan fod arwerthiannau yn agored i nifer anhysbys o chwaraewyr, yn cynnwys y rhai mewn gwledydd eraill.
  • Gwneud mwy a mwy o gynigion heb sylweddoli faint rydych yn ei wario.
  • Defnyddio cynigion wedi’u hawtomeiddio, a all ymestyn gemau a chodi’r siawns ar gyfer chwaraewyr sy’n parhau i chwarae.
  • Problemau rhwydwaith a phroblemau technegol eraill a allai olygu oedi o eiliadau hanfodol i gynigion yn anfwriadol, yn enwedig pan fydd llawer o bobl mewn gwledydd gwahanol yn chwarae’r un gêm.
  • Yr anallu i asesu strategaethau cynigwyr eraill.
  • Cael nwyddau nad ydynt yn cyfateb i ddisgrifiad yr hysbysebwr.
  • Peidio â derbyn nwyddau rydych wedi gwneud cynnig llwyddiannus amdanynt.
  • Eich hunaniaeth mewn arwerthiant ceiniog yn cael ei ddwyn a’i ddefnyddio mewn ffordd dwyllodrus.
  • Eich gwybodaeth bersonol/ariannol yn cael ei dwyn a’i defnyddio mewn ffordd dwyllodrus.
  • Negeseuon e-bost gwe-rwydo, y mae’n ymddangos eu bod o safleoedd arwerthiannau neu dalu ar-lein neu sydd mewn gwirionedd gan droseddwyr sy’n ceisio eich denu i ymweld â gwefan ffug er mwyn cael eich gwybodaeth fel manylion mewngofnodi ar gyfer eich cyfrif talu ar-lein.

Defnyddiwch arwerthiannau ceiniog yn ddiogel

  • Byddwch yn wyliadwrus ynghylch defnyddio safleoedd camarweiniol neu dwyllodrus. Chwiliwch am adolygiadau neu sylwadau ar-lein am y safleoedd er mwyn gweld a yw defnyddwyr eraill wedi cael anawsterau.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth rydych yn ei wneud: gan eich bod yn talu er mwyn cynnig, mae gwefannau arwerthiannau ceiniog yn debycach i loterïau na gwefannau awerthiant traddodiadol. Gall safleoedd gynnig cynigion – ond gall pwrcasiadau hefyd droi allan i fod yn ddrutach na’r disgwyl unwaith y bydd yr holl gostau cynigion wedi’u hychwanegu.
  • Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau o dan Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979. Efallai y bydd hawl gennych i ddychwelyd nwyddau a chael ad-daliad os yw’r nwyddau a gewch o ansawdd anfoddhaol, os nad ydynt yn addas at y diben neu os nad ydynt yn cyfateb i ddisgrifiad y gwerthwr.
  • Dylech ddarllen telerau ac amodau’r gwerthwr bob amser i weld cyfyngiadau amser er mwyn osgoi anghydfodau.
  • Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau o dan y Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr (Gwerthu o Bell). Mewn rhai amgylchiadau gwerthu o bell, os nad ydych wedi cael y cyfle i archwilio nwyddau cyn eu prynu, fel arfer bydd gennych saith diwrnod gwaith, o pan fyddwch yn cael y nwyddau, i’w dychwelyd a chael ad-daliad llawn. Pan fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys, rhaid i fasnachwyr roi hysbysiad i chi o’ch hawliau canslo a dylid nodi hyn yn glir yn y telerau ac amodau.
  • Cofiwch na allwch ddychwelyd nwyddau fel arfer dim ond am eich bod yn penderfynu nad ydych eu heisiau nhw mwyach.
  • Darllenwch y print mân bob amser a byddwch yn glir ynghylch beth rydych chi’n ymrwymo iddo cyn i chi gytuno ar unrhyw delerau ac amodau.

A chofiwch bob amser

  • Defnyddiwch gyfrineiriau cryf. Peidiwch byth â datgelu eich cyfrineiriau ar gyfer arwerthiannau ceiniog neu daliadau ar-lein i neb.
  • Os ydych yn meddwl bod eich cyfrif arwerthiant ceiniog ar-lein neu ar gyfer gwneud taliadau ar-lein wedi cael ei beryglu, gweithredwch ar unwaith. Ewch ar dudalen gymorth ar-lein y safle.
    Pwyllwch cyn clicio ar ddolenni mewn negeseuon e-bost digymell. Er enghraifft, mae’n well rhoi cyfeiriad gwefan eich banc yn uniongyrchol yn eich porwr, neu ddefnyddio nod tudalen a grëwyd gennych gan ddefnyddio’r cyfeiriad cywir.
  • Os byddwch yn talu â cherdyn talu, cofiwch fod cerdyn credyd yn eich amddiffyn yn well na dulliau eraill mewn perthynas â thwyll, gwarantau ac achosion o fethu â dosbarthu.
  • Wrth dalu naill ai drwy wasanaeth talu ar-lein neu gan ddefnyddio cerdyn talu, gwnewch yn siŵr fod y ddolen yn ddiogel, mewn dwy ffordd:
    • Dylai fod symbol clo clap yn ffrâm ffenestr y porwr, sy’n ymddangos pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi neu gofrestru. Gwnewch yn siŵr nad yw’r clo clap ar y dudalen ei hun … mae’n debyg y bydd hyn yn arwydd o safle twyllodrus.
    • Dylai’r cyfeiriad gwe ddechrau gyda ‘https://’. Mae’r ‘s’ yn golygu ei bod yn ddiogel.
  • Mae’r uchod yn dangos bod y cyswllt rhyngoch chi a pherchennog y wefan yn ddiogel, ond nid yw’n dangos bod y safle ei hun yn ddilys. Mae angen i chi wneud hyn yn ofalus drwy chwilio am achosion cynnil o gamsillafu yn y cyfeiriad, geiriau a nodau ychwanegol ac achosion eraill o afreoleidd-dra.
  • Dylech bob amser allgofnodi o safleoedd rydych wedi mewngofnodi iddynt neu roi manylion cyfrestru arnynt. Nid yw cau eich porwr yn ddigon i sicrhau preifatrwydd.
  • Cadwch dderbynebau.
  • Darllenwch ddatganiadau cardiau credyd a banc yn ofalus ar ôl siopa er mwyn gwneud yn siŵr bod y swm cywir wedi cael ei ddebydu, a hefyd nad oes unrhyw dwyll wedi digwydd o ganlyniad i’r trafodyn.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

In Partnership With