English

Arian Mules

Wrth i droseddwyr chwilio am ffyrdd mwy soffistigedig o guddio enillion eu gweithgarwch anghyfreithlon, mae’r arfer o gludo arian yn dod yn fwy cyffredin. Cludydd arian (money mule) yw person sy’n trosglwyddo arian sydd wedi’i ddwyn rhwng gwledydd gwahanol, yn aml heb sylweddoli eu bod yn cael eu defnyddio i gyflawni’r dwyll. Mae’n fath o wyngalchu arian. Daw’r ymadrodd o’r term ‘cludydd cyffuriau’, neu ‘drugs mule’, sef person a gaiff ei ddefnyddio i drosglwyddo cyffuriau ar ran delwyr.

Hyd yn oed os nad yw’r cludydd arian yn rhan o’r drosedd sy’n creu’r arian – ac nad yw’n ymwybodol ei fod yn delio ag arian anghyfreithlon – mae’n dal i weithredu’n anghyfreithlon.

Y risgiau

  • Rhywun yn cysylltu â chi i adneuo arian yn eich cyfrif banc ac yna ei drosglwyddo (fel arfer i wlad wahanol), naill ai yn gyfnewid am gomisiwn neu am eich bod wedi cael eich bygwth.
  • Cael cynnig ‘swydd’ sy’n cynnwys trosglwyddo arian drwy eich cyfrif banc eich hun.
  • Twyllwyr yn cael mynediad i’ch cyfrif banc er mwyn trosglwyddo arian sydd wedi’i ddwyn.
  • Cael eich canfod a’ch cyhuddo. Mae gan fanciau a’r heddlu gyfradd canfod uchel ar gyfer cludo arian a gall y cosbau fod yn ddifrifol, yn cynnwys tymor o garchar. Gall cael eich canfod yn euog o gludo arian hefyd effeithio’n ddifrifol ar eich cyflogaeth neu’ch lleoliad addysg, a’ch statws credyd yn y dyfodol.

Diogelu rhag Cludo Arian

  • Byddwch yn ofalus o gynigion gwaith sy’n cynnwys trosglwyddo arian pobl eraill i mewn ac allan o’ch cyfrif banc eich hun. Gwnewch yn siŵr fod unrhyw un sy’n cynnig gwaith i chi yn ddilys.
  • Byddwch yn ofalus o unrhyw negeseuon e-bost neu ddulliau eraill sy’n nodi eu bod gan gwmni tramor sy’n chwilio am ‘gynrychiolwyr yn y DU’, asiantau trosglwyddo arian’ neu ‘asiantau prosesu taliadau’ i weithredu ar eu rhan am gyfnod o amser, weithiau er mwyn osgoi taliadau trafodion uchel neu drethi lleol.
  • Peidiwch byth â gadael i’ch cyfrif banc gael ei ddefnyddio gan rywun arall.
  • Peidiwch byth â datgelu eich manylion mewngofnodi i’ch cyfrif banc – eich enw defnyddiwr, cyfrinair a manylion awdurdodi – i unrhyw un drwy gynnig y wybodaeth iddynt na bod yn ddiofal ynghylch preifatrwydd.
  • Efallai fod ffrind neu aelod o’r teulu yn trosglwyddo arian i bobl eraill, ond nid yw’n golygu mai dyna’r peth cywir i’w wneud.
  • Ni waeth faint y mae angen yr arian arnoch, peidiwch â chytuno i gludo arian. A chofiwch … os bydd rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debygol mai dyna yw’r gwirionedd.

Os byddwch yn amau bod rhywun wedi cysylltu â chi i fod yn gludydd arian

  • Peidiwch â chael eich temtio i gymryd rhan.

Rhagor o Wybodaeth

Os ydych eisoes wedi datgelu manylion eich cyfrif banc neu wedi cael arian yn eich cyfrif a’ch bod yn meddwl y gallai fod yn sgam cludo arian

  • Cysylltwch â’ch banc ar unwaith.
  • Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll, ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk.

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

 

See Also...

In Partnership With