English

Archebu Gwyliau a Theithio

Wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd i ymchwilio neu drefnu eich gwyliau neu wneud trefniadau teithio eraill, mae’r byd ar flaenau eich bysedd. Fodd bynnag, mae risgiau sy’n gysylltiedig â gwneud hynny – mae rhai yn gysylltiedig â threfnu gwyliau a theithiau yn benodol ac mae rhai sy’n gyffredin â mathau eraill o bwrcasiadau ar-lein.

Y risgiau

  • Twyll sy’n deillio o wneud taliadau dros wedudalennau anniogel.
  • Sgamiau teithiau awyren:
    • Pan fyddwch yn trefnu taith awyren ac yn cael tocyn ffug, neu’n talu am docyn na fydd byth yn cyrraedd.
  • Sgamiau gwyliau:
    • Gwefannau ffug a chynigion dros e-bost ar gyfer gwyliau neu filâu nad ydynt yn bodoli. Maent yn gofyn am flaendal gennych, na fyddwch byth yn ei weld eto.
    • Sgamiau cystadlaethau ffug sy’n eich twyllo i dalu ffi i sicrhau gwyliau.
  • Hysbysebu’r ffaith y bydd eich tŷ yn wag pan fyddwch i ffwrdd yn anfwriadol, drwy bostio ar y rhwydweithiau cymdeithasol neu ar safleoedd tracio teithiau. Mae rhai cwmnïau yswiriant bellach yn gwrthod hawliadau os caiff cartrefi eu targedu gan ladron pan fydd y perchenogion i ffwrdd ar wyliau a’u bod wedi cyfeirio at hynny ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.

Trefnu’n Ddiogel

  • Gwnewch yn siŵr fod unrhyw gwmni gwyliau neu deithio nad yw’n gyfarwydd i chi yn ddilys drwy ymchwilio ar-lein. Gwnewch yn siŵr ei fod yn aelod o awdurdod teithio cydnabyddedig sy’n cynnig diogelwch ariannol a gwasanaeth cwynion.
  • Lle y bo’n bosibl, talwch am wyliau a theithiau gan ddefnyddio eich cerdyn credyd gan fod hyn yn cynnig diogelwch ariannol ychwanegol dros ddulliau eraill. Nodwch y gall eich cwmni gwyliau neu deithio godi gordal am daliadau cerdyn credyd.
  • Dylech wirio yr holl fanylion fel dyddiadau teithio, amserlenni teithio, cyrchfannau a theithwyr cyn cadarnhau taliad, oherwydd gellir codi tâl arnoch am wneud unrhyw newidiadau.
  • Trefnwch yswiriant teithio digonol ar gyfer eich cyrchfan, gweithgareddau a phawb yn eich parti.
  • Peidiwch ag ateb e-byst digymell gan gwmnïau nad ydych yn eu hadnabod.
  • Os byddwch yn rhentu fflat neu fila preifat, ffoniwch y perchennog/asiant yn uniongyrchol er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn ddilys. Os nad ydynt wedi rhoi rhif ffôn, anfonwch e-bost atynt yn gofyn amdano. Darllenwch yr adolygiadau ar TripAdvisor neu wefannau tebyg.
  • Chwiliwch am gyfeiriad llawn yr eiddo a dewch o hyd iddo ar Google maps er mwyn cadarnhau ei leoliad a’i fod yn ddilys.
  • Cyn talu, gofynnwch am gontract sy’n nodi telerau ac amodau’r trefniant rhentu, blaendaliadau, telerau talu ac ati.
  • Cyn rhoi manylion cerdyn talu ar wefan, gwnewch yn siŵr fod y ddolen yn ddiogel, mewn dwy ffordd:
    • Dylai fod symbol clo clap yn ffrâm ffenestr y porwr, sy’n ymddangos pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi neu gofrestru. Gwnewch yn siŵr nad yw’r clo clap ar y dudalen ei hun … mae’n debyg y bydd hyn yn arwydd o safle twyllodrus.
    • Dylai’r cyfeiriad gwe ddechrau gyda ‘https://’. Mae’r ‘s’ yn golygu ei bod yn ddiogel.
  • Mae’r uchod yn dangos bod y cyswllt rhyngoch chi a pherchennog y wefan yn ddiogel, ond nid yw’n dangos bod y safle ei hun yn ddilys. Mae angen i chi wneud hyn yn ofalus drwy chwilio am achosion cynnil o gamsillafu yn y cyfeiriad, geiriau a nodau ychwanegol ac achosion eraill o afreoleidd-dra.
  • Bydd rhai gwefannau yn eich ailgyfeirio chi at wasanaeth talu trydydd parti (fel WorldPay). Gwnewch yn siŵr fod y safleodd hyn yn ddiogel cyn gwneud eich taliad.
  • Diogelwch a chofiwch y cyfrinair a ddewiswyd gennych ar gyfer y gwasanaethau dilysu ychwanegol a ddefnyddiwyd ar rai gwefannau, fel Verified by Visa.
  • Wrth wneud taliad i unigolyn, peidiwch byth â throsglwyddo’r arian yn uniongyrchol i’w gyfrif banc. Yn hytrach, defnyddiwch safle talu’n ddiogel fel PayPal, lle caiff taliad ei drosglwyddo rhwng dau gyfrif electronig.
  • Dylech bob amser allgofnodi o safleoedd rydych wedi mewngofnodi iddynt neu roi manylion cyfrestru arnynt. Nid yw cau eich porwr yn ddigon i sicrhau preifatrwydd.
  • Cadwch dderbynebau ar gyfer pob trefniant a thaliad am wyliau neu deithiau.
  • Darllenwch ddatganiadau cardiau credyd a banc yn ofalus ar ôl trefnu er mwyn gwneud yn siŵr bod y swm cywir wedi cael ei ddebydu, a hefyd nad oes unrhyw dwyll wedi digwydd o ganlyniad i’r trafodyn.
  • Cyn i chi bostio manylion eich dyddiadau teithio ar y rhwydweithiau cymdeithasol neu safleoedd tracio teithiau, gwnewch yn siŵr fod y gosodiadau preifatrwydd cywir ar waith.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll:

Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll, ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk.

Rhagor o Wybodaeth

Cyfeiriwch at y gwefannau canlynol i gael rhagor o wybodaeth:

ABTA Cymdeithas Asiantaethau Teithio Prydain

ATOL Trwyddedu Trefnwyr Teithiau Awyr

AiTO Cymdeithas y Trefnwyr Teithiau Annibynnol

Gallwch hefyd gael cyngor a gwybodaeth hanfodol am deithio fesul cyrchfan ar wefan yr FCDO (y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu).

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

 

See Also...

In Partnership With