English

Apiau sy’n Codi Crocbris

Mae rhai apiau ffôn symudol sy’n codi gormod ar ddefnyddwyr am gyfleusterau neu nodweddion sydd ar gael yn eang am ddim neu ar ffurf opsiynau amgen rhad eraill. Yn wir, dyna yw eu hunig nod pan gânt eu datblygu. Fel arfer, mae’r apiau yn ymwneud â diddordebau fel ffotograffiaeth a cherddoriaeth, ond fe’u canfuwyd mewn darllenwyr codau QR a PDF hefyd.

Beth ydynt a sut maen nhw’n gweithio

Un o’n prif awgrymiadau cyffredinol wrth gynghori ar lawrlwytho apiau yw gwneud hynny o siopau apiau awdurdodedig yn unig, fel Play Store Google ac App Store iOS Apple, er mwyn atal maleiswedd rhag cael ei lawrlwytho i’ch dyfeisiau. Fodd bynnag, mae nifer cynyddol o’r apiau hyn sy’n codi crocbris i’w gweld yn y ddwy siop am na chânt eu hystyried yn faleiswedd – yn hytrach fe’u hystyrir yn arfer amheus.

Yn gyffredinol, bydd yr apiau hyn yn cynnig cyfnod treial am ddim, ond byddant yn mynnu taliad ar ôl y cyfnod hwn, neu hyd yn oed y tro cyntaf y cânt eu hagor. Fel arall, byddant yn gofyn am daliadau gormodol am nodweddion syml fel hidlyddion lluniau, pan fo’r rhain yn hanfodol ar gyfer defnydd sylfaenol. Gall y taliadau hyn droi’n filoedd o bunnoedd y flwyddyn os na fyddwch yn canslo.

Bydd datblygwyr yr apiau hyn yn dod o hyd i fylchau yn amodau a thelerau’r siopau apiau er mwyn cyrraedd brig y rhestrau ac aros yno. Gellir dod o hyd iddynt drwy gyfleuster chwilio’r siopau, ond yn aml cânt eu hysbysebu ar Facebook, Instagram, TikTok, Snapchat a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd eraill hefyd. Yn ddiegwyddor, bydd datblygwyr yn aml yn targedu cynulleidfaoedd iau drwy hysbysebion, themâu ac addewidion deniadol. Bydd plant yn lawrlwytho’r apiau yn llawn cyffro a bydd y taliadau afresymol yn parhau yn aml nes y bydd symiau mawr wedi mynd o’r cyfrif.

Awgrymiadau da ar gyfer osgoi apiau sy’n codi crocbris

  • Peidiwch â lawrlwytho’r ap cyntaf sy’n codi ar ôl chwilio. Efallai y bydd ar frig y rhestr am ei fod yn cael ei noddi gan y datblygwr. Cymharwch sawl ap o ran y nodweddion a’r prisiau (prisiau’r ap a’r nodweddion).
  • Byddwch yn wyliadwrus o apiau a gaiff eu hysbysebu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac a anfonir atoch drwy e-bost neu neges destun am hysbysebion feirol ar gyfer apiau. Bydd apiau sy’n codi crocbris yn addo llawer o fanteision a byddant yn edrych yn ddeniadol iawn.
  • Byddwch yn effro wrth lawrlwytho a defnyddio apiau er mwyn osgoi cael eich dal mewn tanysgrifiadau a chytundebau adnewyddu drud.
  • Byddwch yn wyliadwrus o apiau sy’n cynnig llai nag wythnos o gyfnod treial. Byddwch yn glir o ran y gost a godir arnoch ar ôl i’r cyfnod treial ddod i ben, a gofynnwch a yw’n werth yr arian.
  • Cofiwch ddarllen y print mân, fel y byddech gydag unrhyw bryniant neu gynnig. Dylai pris parhaus gwirioneddol yr ap gael ei gynnwys, gan gynnwys yr adran ‘prynu yn yr ap’.
  • Sicrhewch mai dim ond chi all dalu am apiau, ac nid plentyn na pherson anawdurdodedig arall. Defnyddiwch y nodwedd adnabod ôl bys neu wyneb ar eich dyfais i gadarnhau, a/neu brawf dilysu dau gam (2FA).

Cadarnhau eich tanysgrifiadau i apiau

Ar gyfer dyfeisiau Apple, gallwch naill ai:

  • Agor y gosodiadau, tapio ar eich enw ac yna ‘Subscriptions’, neu
  • Agor yr App Store, tapio’r eicon ar frig y sgrin ar yr ochr dde a dewis ‘Subscriptions’.

Ar gyfer dyfeisiau Android:

  • Agorwch y Play Store, tapiwch ar yr eicon dewislen â llinellau ar frig y sgrin ar yr ochr dde a dewis ‘Subscriptions’.

In Partnership With