English

Apiau Symudol

I lawer o bobl, mae apiau wedi dod yn ffordd boblogaidd o gyfathrebu a chael mynediad i’r rhyngrwyd drwy ein ffonau a’n llechi.

Byddwn yn eu defnyddio i chwarae gemau, anfon negeseuon, cael y newyddion a’r tywydd a defnyddio mapiau a gwasanaethau llywio. Rydym hefyd yn eu defnyddio fwyfwy i wneud ein bancio. Er bod apiau yn ffordd syml a hawdd o fanteisio ar gynnwys a gwasanaethau gwych, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o sut i’w defnyddio’n ddiogel.

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dyfais glyfar a sut i’w defnyddio yn hyderus.

Gosod apiau o siopau apiau cydnabyddedig

Gall rhai apiau gamddefnyddio eich dyfais symudol pan fyddant wedi’u gosod. Bydd y posibilrwydd hwn yn cynyddu os byddwch yn gosod ap o ffynhonnell lai dibynadwy (neu hysbys). Er enghraifft, gallai rhywun gymryd ap poblogaidd sy’n codi tâl, ychwanegu ei elfennau annilys ei hun ac yna ei gynnig am ddim ar ‘fyrddau bwletin’ neu rwydweithiau ‘cymheiriaid’. Pan fydd yr ap ffug wedi’i osod ar eich ffôn, gallai’r haciwr gymryd rheolaeth dros y ffôn, gwneud galwadau, mynd i gostau drwy SMS premiwm heb eich caniatâd, neu anfon a rhyng-gipio negeseuon SMS a negeseuon peiriant ateb. Efallai na fyddwch yn ymwybodol bod unrhyw beth o’i le nes bydd yn rhy hwyr.

Felly, dylech osgoi apiau o ffynonellau anawdurdodedig megis ‘byrddau bwletin’ neu rwydweithiau ‘cymheiriaid’. Yn hytrach, lawrlwythwch eich apiau o siopau swyddogol. Yn annad dim, cymerwch ofal – ymchwiliwch i’r ap a darllenwch adolygiadau cyn ei lawrlwytho.

Ystyriwch raddau cynnwys

Mae apiau mewn rhai siopau apiau poblogaidd yn cynnig graddau cynnwys. Gall y graddau hefyd eich helpu i benderfynu a yw ap yn briodol ar gyfer plant.

Fel arfer, bydd y graddau yn rhoi arweiniad i chi ar gynnwys a dwyster themâu fel trais, iaith annymunol, cynnwys rhywiol neu gyfeiriadau at gyffuriau. Dylech fod yn ymwybodol bod gan bob siop apiau ei pholisi graddau cynnwys ei hun. Mae hyn yn golygu y bydd graddau pob siop apiau yn wahanol.

Nodwch efallai na fydd y graddau hyn yn ymwneud â chynnwys yr ap ei hun. Os byddwch yn defnyddo apiau sy’n eich galluogi chi neu eich plentyn i gysylltu â’r rhyngrwyd a manteisio ar gynnwys y tu allan i’r ap, efallai y byddwch am ystyried opsiynau diogelwch ar lefel dyfais neu ar lefel rhwydwaith, cyfleusterau hidlo neu chwilio’n ddiogel. Ceir rhagor o fanylion ar y rhain ar http://www.internetmatters.org/technologies/parental-controls.html

Byddwch yn ymwybodol o’r caniatâd rydych yn ei roi

Pan fyddwch yn lawrlwytho ap, yn aml, bydd yn gofyn p’un a all gael mynediad i systemau neu ddata penodol ar eich dyfais. Gelwir hyn yn ‘gais am ganiatâd’ neu’n ‘ganiatâd’. Er enghraifft, efallai y bydd apiau llywio yn gofyn am ganiatâd i ddefnyddio eich ‘lleoliad presennol’ er mwyn rhoi cyfarwyddiadau cywir a gwybodaeth am leoliadau. Efallai y bydd apiau golygu lluniau yn gofyn am fynediad i’ch lluniau fel y gallwch olygu lluniau y byddwch yn eu tynnu ar eich ffôn drwy’r ap.

Fel arfer, cytunir mai dim ond data a nodweddion sydd eu hangen yn uniongyrchol i redeg yr ap y dylai datblygwyr ofyn amdanynt. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai apiau yn gofyn am ganiatâd ychwanegol y tu hwnt i’r hyn sy’n hollol angenrheiddiol i’r ap penodol gael ei ddefnyddio i weithio.

Er mwyn diogelu eich gwybodaeth bersonol, darllenwch geisiadau am ganiatâd yn ofalus pan fyddwch yn lawrlwytho neu pan ofynnir i chi wneud hynny a gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfforddus â’r wybodaeth rydych yn rhoi awdurdod i’r ap ei defnyddio.

Os nad ydych yn gyfforddus â’r caniatâd y gwnaed cais amdano, dylech wrthod y cais neu chwilio am ap arall.

Dylech drin eich ffôn fel eich waled

Mae defnyddio ffôn clyfar i reoli eich arian yn dod yn fwy poblogaidd. Y llynedd, gwnaeth cwsmeriaid banciau mwyaf y DU fwy na 18 miliwn o drafodion symudol bob wythnos. Mae manteision amlwg i fancio symudol: mae apiau yn cynnig ffordd symlach a mwy cyfleus o fancio symudol, ac maent yn arbed amser ac arian i chi. Ond, yn anochel, mae risgiau hefyd. Mae angen i chi gofio camau cymhennu sylfaenol e.e. mae’n bwysig allgofnodi o’ch ap bancio; dylech ond lawrlwytho o siopau apiau swyddogol; peidiwch â newid y gosodiadau diogelwch ffatri ar eich ffôn; a diogelwch eich ffôn â chyfrinair.

Byddwch yn ymwybodol o gostau, yn enwedig ar gyfer trawsrwydweithio a pwrcasiadau mewn apiau

Fel arfer, mae apiau yn defnyddio data a all ddefnyddio rhywfaint o’ch lwfans data symudol. Os na fyddwch yn ofalus wrth fonitro eich defnydd o ddata, gallech fynd y tu hwnt i’ch lwfans data cynhwysol a mynd i gostau ychwanegol. Bellach, mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr symudol yn cynnig cyfleusterau monitro ar-lein neu apiau i’ch galluogi i wirio eich defnydd yn hawdd. Hefyd, gall defnyddio apiau dramor arwain at filiau uwch. Dylech ystyried troi eich cyfleuster trawsrwydweithio data symudol i ffwrdd pan fyddwch dramor er mwyn osgoi ergyd ar eich bil. Darllenwch ganllawiau fideo Ofcom sy’n dangos i chi sut i wneud hyn ar ffonau poblogaidd. Darllenwch ganllaw Ofcom ar drawsrwydweithio symudol i gael rhagor o fanylion ar sut i ddefnyddio apiau dramor yn ddiogel. Mae llawer o apiau, rhai sydd am ddim a rhai y codir tâl amdanynt, yn cynnig opsiynau dewisol am gost. Gelwir y rhain yn bwrcasiadau mewn apiau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi wneud pwrcasiad mewn ap er mwyn parhau i chwarae gêm y tu hwnt i lefel benodol, neu er mwyn cyflymu’r gallu i chwarae gemau. Gall pwrcasiadau mewn apiau beri pryder penodol i rieni oherwydd y gall plant sy’n defnyddio’r ddyfais symudol fynd i gostau uchel ar gyfrif heb yn wybod i’w rhieni. Gall y sawl sydd am reoli pwrcasiadau mewn apiau wneud hynny gan ddefnyddio nifer o ddulliau sydd ar gael yn y siopau apiau cydnabyddedig. Er enghraifft, bydd rhai systemau gweithredu yn eich galluogi i gael cyfringod ar gyfer pob lawrlwythiad neu bwrcasiad.

Bydd rhai ffonau symudol yn gadael i chi ddadalluogi pwrcasiadau mewn apiau yn llwyr. Mae canllawiau fideo Ofcom yn dangos i chi sut i wneud hyn. Mae’r sgrinluniau yn ddangosol oherwydd gall y gosodidaau amrywio yn dibynnu ar y ffôn a’r fersiwn o’r OS sydd wedi’i gosod.

Dylech glirio’r apiau nad ydych yn eu defnyddio yn rheolaidd

Sawl ap sydd gennych ar eich dyfais – a sawl un o’r rhain rydych chi’n eu defnyddio mewn gwirionedd? Canfu ymchwil gan Ofcom nad yw bron i hanner yr apiau sy’n cael eu lawrlwytho yn cael eu defnyddio’n rheolaidd. Gall llenwi eich dyfais â dwsinau o apiau segur effeithio ar ei pherfformiad. Maent yn cymryd lle, ond hefyd mae rhai apiau yn rhedeg yn y cefndir yn barhaus a all arafu eich dyfais a draenio eich batri. Ewch drwy eich apiau a dileu unrhyw rai nad ydych yn eu defnyddio mwyach. Ar gyfer apiau rydych yn eu defnyddio’n rheolaidd, dylech ystyried eu diweddaru’n rheolaidd oherwydd y gall hyn drwsio perfformiad yr ap neu broblemau diogelwch.

Dylech ‘lanhau’ eich ffôn

Os byddwch yn penderfynu rhoi, ailwerthu neu ailgylchu hen ffôn symudol neu lechen, gwnewch yn siŵr eich bod yn dileu’r holl ddata ac apiau i ddechrau oherwydd y gall pwy bynnag y caiff eich dyfais ei phasio ymlaen iddo gael gafael arnynt. Dylech hefyd allu dod o hyd i opsiwn ‘ailosod ffatri’ ar osodiadau eich dyfais er efallai na fydd yr opsiwn hwn yn dileu eich holl wybodaeth bersonol o’r dyfeisiau.

Gyda llawer o ddiolch i Ofcom am awdurdodi’r broses o atgynhyrchu cynnwys y dudalen hon o Using apps safely and securely on your mobile, canllaw a luniwyd gan Ofcom mewn cydweithrediad â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, yr Awdurdod Gwasanaethau y Telir Amdanynt drwy’r Ffôn a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

In Partnership With