English

Os yw’ch plentyn yn 10 i 12 oed

Cyngor os yw eich plentyn rhwng 10 a 12 oed

  • Gosodwch ffiniau ar gyfer eich plentyn cyn iddo gael ei ‘ddyfais gysylltiedig’ (ffôn symudol, llechen, gliniadur neu gonsol gemau) cyntaf. Pan fydd wedi’i gael, gall fod yn anoddach newid y ffordd y mae’n ei ddefnyddio neu’r gosodiadau.
  • Dywedwch wrth eich plentyn ei bod yn bwysig iawn cadw ffonau a dyfeisiau eraill yn ddiogel ac wedi’u cuddio’n dda pan na fyddant gartref, er mwyn lleihau’r risg y cânt eu dwyn neu eu colli.
  • Trafodwch â’ch plentyn beth sy’n ddiogel ac yn briodol i’w bostio a’i rannu ar-lein. Mae sylwadau ysgrifenedig, lluniau a fideos i gyd yn rhan o’u ‘hôl-troed digidiol’ a gellir eu weld gan unrhyw un a byddant ar gael ar y rhyngrwyd am byth, hyd yn oed os byddant wedi’u dileu.
  • Siaradwch â’ch plant am y math o gynnwys y maent yn ei weld ar-lein. Efallai eu bod yn chwilio am wybodaeth am eu cyrff sy’n newid ac yn archwilio perthnasau. Mae hefyd angen iddynt ddeall pwysigrwydd peidio ag anfon lluniau ohonynt yn noeth at bobl eraill – pwy bynnag y bônt.
  • Cofiwch fod gan wasanaethau fel Facebook a YouTube gyfyngiad oedran o 13 am reswm. Peidiwch â phlygu i’r pwysau, siaradwch â rhieni eraill a’u hysgol er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn cytuno.
  • Eglurwch wrth eich plant nad yw bod ar-lein yn golygu eu bod yn ddienw na’u bod yn cael eu diogelu, ac na ddylent wneud unrhyw beth ar-lein na fyddent yn ei wneud wyneb yn wyneb.

Wyt ti wir yn adnabod pawb ar dy restr ‘ffrindiau’? Wyt ti’n gwybod sut i ddefnyddio a phennu gosodiadau preifatrwydd a diogelwch? Elli di ddangos i mi sut i wneud hyn? Wyt ti’n cael negeseuon gan ddieithriaid weithiau? Os felly, sut wyt ti’n delio â nhw? Wyt ti’n adnabod rhywun sydd wedi gwneud cynlluniau i gwrdd â rhywun all-lein y maen nhw ond wedi siarad â nhw ar-lein? A yw pobl yn dy grŵp o ffrindiau yn gas i’w gilydd, neu i bobl eraill, ar-lein neu ar ffonau? Os felly, beth maen nhw’n ei ddweud? A oes unrhyw un erioed wedi bod yn gas i ti? Fyddet ti’n dweud wrtha i pe byddai hynny’n digwydd? A oes unrhyw un yn dy ysgol, neu unrhyw un arall rwyt ti’n ei adnabod, erioed wedi tynnu lluniau noeth neu rywiol a’u hanfon at bobl eraill, neu wedi cael lluniau o’r fath? .

Mae’r tudalennau hyn wedi cael eu llunio gyda chymorth caredig Norton a Chynllun Gwarchod Cymdogaeth * Bydd y llinell gymorth hon yn rhoi cyngor i rieni ar sut y gallant gadw eu plant yn ddiogel ar-lein, ateb cwestiynau am ddiogelwch ar-lein a rhoi cyngor ar feddalwedd rheolyddion i rieni. Gall arbenigwyr diogelwch ar-lein hefyd roi cyngor ar yr hyn y gall meddalwedd rheolyddion i rieni am ddim Norton Family ei gynnig, a sut i’w sefydlu, os bydd angen.

 

 

See Also...

In Partnership With