English

Peidiwch â gadael i dwyllwyr gael y gorau arnoch

Mae pob cefnogwr cerddoriaeth a chwaraeon yn gwybod bod tocynnau ar gyfer gigs, gwyliau, gemau mawr a thwrnameintiau yn gwerthu’n gyflym iawn yn aml. I osgoi siom, efallai y byddwch yn troi at gyfryngau cymdeithasol, marchnadoedd ar-lein neu fforymau cefnogwyr i chwilio am docynnau. Efallai y byddwch yn lwcus, neu gallech gael eich twyllo, sydd hyd yn oed yn fwy siomedig gan eich bod wedi colli’r cyfle i gael tocynnau yn ogystal â cholli eich arian.
Mewn twyll tocynnau, mae’r gwerthwr yn dweud wrthych y bydd yn postio neu’n e-bostio’r tocynnau ar ôl i chi drosglwyddo’r arian i’w gyfrif banc. Ond pan fyddwch yn ceisio cysylltu ag ef pan na fydd unrhyw beth wedi cyrraedd, bydd wedi diflannu. Mae’n debyg bod nifer mawr o bobl eraill wedi cael eu twyllo yn yr un ffordd.
Mae hyn yn digwydd i filoedd o gefnogwyr cerddoriaeth, chwaraeon ac eraill yn y DU bob blwyddyn sy’n cael eu twyllo i brynu tocynnau ffug neu docynnau nad ydynt yn bodoli.


Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer prynu tocynnau’n ddiogel

  • Waeth pa mor awyddus ydych chi i fynd i gig, gŵyl neu gêm, peidiwch â phrynu tocynnau gan unrhyw un ar wahân i werthwyr swyddogol, y swyddfa docynnau neu wefannau ailwerthwyr cefnogwyr ag enw da.
  • Yr unig leoedd y dylech brynu tocynnau yw swyddfa docynnau’r lleoliad, clwb chwaraeon, hyrwyddwr, asiant swyddogol neu safle cyfnewid tocynnau ag enw da.
  • Ystyriwch y gallai tocynnau a hysbysebir ar unrhyw ffynhonnell arall fel gwefannau arwerthu, cyfryngau cymdeithasol a fforymau cefnogwyr fod yn ffug neu ddim yn bodoli, pa mor ddilys bynnag y gall y gwerthwr ymddangos a ph’un a ydynt wedi’u hysbysebu o dan, dros neu am eu gwerth go iawn.
  • Peidiwch â chlicio ar ddolenni neu atodiadau cyfryngau cymdeithasol, testun neu e-bost sy’n cynnig tocynnau. Gallent gysylltu â gwefannau twyllodrus neu faleisus.
  • Gallai talu am docynnau drwy drosglwyddiad banc – ni waeth pa mor awyddus ydych chi i gael gafael arnynt – olygu y gallech golli’ch arian os yw’n dwyll. Chi sy’n gyfrifol am y colledion, neb arall, yn cynnwys eich banc.
  • Darllenwch bolisïau preifatrwydd a dychwelyd nwyddau y gwerthwyr.
  • Ystyriwch dalu â cherdyn credyd i gael diogelwch ychwanegol dros ddulliau talu eraill.
  • Darllenwch yn ofalus dros holl fanylion yr hyn rydych chi’n prynu cyn cadarnhau’r taliad.
  • Cyn prynu ar-lein, gwnewch yn siwr fod y dudalen yn un ddilys (teipiwch y cyfeiriad eich hun yn ofalus, nid o ddolen) a diogel (‘https’ a chlo clap wedi’i gloi), a logiwch allan pan fyddwch wedi cwblhau’r trafodiad. Gallech wirio a yw gwefan yn debygol o fod yn un gyfreithlon neu dwyllodrus ar www.getsafeonline.org/checkawebsite
  • Cadwch dderbynebau tan ar ôl y digwyddiad.
  • Os ydych hefyd yn chwilio ac yn trefnu llety, dilynwch ein cyngor ar wneud hynny’n ddiogel.

Y stori lawn

Am bopeth sydd angen i chi ei wybod am ddiogelu eich hun rhag twyll tocynnau, ewch i www.getsafeonline.org/wales/ a chwiliwch am ‘Prynu Tocynnau’

TwyllTocynnau

In Partnership With