Pan fyddwch chi’n anfon arian dramor a yw’n ddiogel? Ydych chi’n cael gwerth da?

Darllenwch ein cyngor.
Fel rhywun o dramor sy’n byw ac yn gweithio yn y DU, efallai y byddwch yn anfon arian at deulu neu ffrindiau gartref, yn achlysurol neu’n rheolaidd. Oherwydd bod angen iddynt gael yr arian rydych yn ei anfon atynt – ac oherwydd eich bod yn gweithio’n galed i’w ennill – mae’n bwysig eich bod yn gwneud hynny yn y ffordd fwyaf diogel posibl, gyda’r arian yn cyrraedd y bobl gartref ac nid twyllwr. Dylech hefyd fod yn talu cyn lleied â phosibl mewn ffioedd trosglwyddo – a chael y cyfraddau cyfnewid mwyaf ffafriol – fel bod y bobl gartref yn cael cymaint o’r hyn rydych yn ei anfon atynt â phosibl.
Rydym wedi llunio cyngor arbenigol i’ch helpu i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.
Gwnewch yn siŵr bod eich arian yn mynd i’r lle y dylai fynd. Awgrymiadau defnyddiol i chi.
· Defnyddiwch ddarparwr talu wedi’i awdurdodi neu wedi’i gofrestru bob amser.Mae’n bosibl iawn fod darparwyr nad ydynt wedi’u hawdurdodi neu wedi’u cofrestru yn gwneud hynny’n anghyfreithlon. Mae’n rhaid i bob cwmni yn y DU sy’n ymdrin â throsglwyddo arian rhyngwladol naill ai fod wedi’i awdurdodi neu wedi’i gofrestru gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, sy’n eich diogelu chi.
· Gallwch anfon arian drwy wefannau neu apiau’r darparwyr talu sydd wedi’u hawdurdodi neu wedi’u cofrestru, neu os bydd ganddynt, un o’u rhwydwaith o asiantau wedi’u hawdurdodi, er enghraifft, yn eich siop leol. Gallech hefyd ddefnyddio darparwr gwasanaeth talu electronig fel PayPal, ar yr amod eich bod yn gwybod bod y wefan neu’r ap rydych yn ei ddefnyddio yn ddilys.
· Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y fargen orau o ran taliadau a chyfraddau cyfnewid. Mae nifer o safleoedd cymharu ar gael lle gallwch wneud hynny’n gyflym ac yn hawdd.
· Peidiwch ag anghofio gofyn i aelodau o’ch teulu neu’ch ffrindiau rydych yn anfon arian atynt, am y ffordd fwyaf hawdd a diogel iddynt dderbyn yr arian.
· Dylai darparwyr taliadau mewn unrhyw wlad – gan gynnwys y rhai sy’n talu eich taliad allan – fod wedi’u cofrestru neu wedi’u trwyddedu yn y wlad honno. Bydd unrhyw ddarparwr nad yw wedi’i gofrestru nac wedi’i drwyddedu yn gwneud hynny’n anghyfreithlon ac mae’n bosibl na chaiff yr arian ei drosglwyddo’n llwyddiannus.
· Os bydd yn rhaid i chi ddefnyddio arian parod, peidiwch ag ymddiried mewn unigolion, grwpiau neu ‘gludwyr’ nad ydych yn eu hadnabod, sy’n cynnig ei anfon at deulu neu ffrindiau yn eich gwlad chi. Yn lle hynny, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hynny gyda rhywun rydych yn ei adnabod ac yn ymddiried yn llwyr ynddo. · Dysgwch sut i adnabod arwyddion twyll talu neu dwyll arall gan droseddwyr. Cliciwch yma i gael gwybodaeth am y ffyrdd mwyaf cyffredin y mae troseddwyr yn ceisio eich twyllo.
· Dylech hefyd amddiffyn eich gwasanaeth talu gyda chyfrinair sy’n unigryw i’r gwasanaeth hwnnw. Ni fydd darparwr taliad cyfrifol byth yn gofyn am eich manylion mewngofnodi. Edrychwch ar ein cyngor ar greu a defnyddio cyfrineiriau yn ddiogel ar ein tudalen gyngor ar Gyfrineiriau ar wefan Get Safe Online.
· Pan fyddwch yn trefnu taliad gyda darparwr cofrestredig, bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth a dogfennau penodol er mwyn profi eich enw, eich dyddiad geni a’ch cyfeiriad. Mae angen hyn fel y gall y darparwr gydymffurfio â rheoliadau gwrth-wyngalchu arian a helpu i wneud eich taliadau’n fwy diogel. Peidiwch â rhannu rhagor o wybodaeth bersonol os nad yw’n gwbl angenrheidiol.
· Gwnewch yn siŵr bod eich taliad wedi cael ei dderbyn drwy gysylltu ag aelod o’ch teulu/ffrind yn uniongyrchol bob amser, yn ogystal â gwirio hysbysiadau cadarnhau gan y gwasanaeth.
· Peidiwch â thalu arian ar ran dieithryn. Gallech fod yn cymryd rhan anfwriadol mewn gwyngalchu arian, sy’n dod â chosb fawr yn ei sgîl.
· Os bydd achos o dwyll neu ladrata wedi digwydd o ganlyniad i daliad gan eich cyfrif banc, rhowch wybod i’r banc ar unwaith rhag ofn y gallant atal yr arian rhag symud a mynd ar ôl y troseddwr.Dylech hefyd roi gwybod i Action Fraud am achosion o dwyll.
#AnfonArianDramor

Ydych chi'n newydd i'r rhyngrwyd?
Byddwn yn eich helpu i aros ar-lein gyda diogelwch a hyder.

Chi, Coronavirus ac aros yn ddiogel ar-lein
Sut i gadw'n ddiogel ar-lein yn ystod pandemig Coronavirus.

Neighbourhood Alert
Cofrestrwch i dderbyn Rhybuddion Cymdogaeth.

Diogelu plant
Ydy'ch plant chi'n ddiogel gyda phopeth maen nhw'n ei wneud ar-lein?

Ffonau clyfar a thabledi
Mae'n fyd symudol. Cadwch hi'n ddiogel.

Cyfryngau cymdeithasol
Ydych chi'n ei ddefnyddio'n ddiogel ac yn gyfrifol?