English

Eich canllaw syml ar gadw’n ddiogel ar-lein

P’un a ydych megis dechrau defnyddio’r rhyngrwyd neu’n hen law ar wneud hynny

Erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf ohonom yn defnyddio’r rhyngrwyd yn fwy nag erioed, ac mewn gwirionedd, nid oes fawr ddim na allwn ei wneud ar-lein. Ond oherwydd y sgamiau, yr ymddygiad amharchus a’r cynnwys amhriodol sydd bellach mor gyffredin, mae’n hollbwysig ein bod yn gofalu amdanon ni ein hunain, ein teuluoedd, ein harian, ein dyfeisiau a’n gweithle.

Eich rhestr syml o gamau hawdd eu dilyn i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn fwy diogel a hyderus. P’un a ydych megis dechrau defnyddio’r rhyngrwyd neu’n hen law ar wneud hynny.

  • Diogelu eich cyfrineiriau Defnyddiwch gyfrinair gwahanol ar gyfer pob cyfrif a gwnewch yn siŵr ei fod yn gyfrinair cadarn drwy gyfuno geiriau ar hap â rhifau a symbolau. Gall cyfleuster rheoli cyfrineiriau helpu i’w cadw’n ddiogel a’u cofio.
  • Cadwch eich dyfeisiau’n ddiogel Gosodwch feddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd ddibynadwy (a elwir yn aml yn feddalwedd gwrthfeirysau) ar eich cyfrifiaduron, eich llechi a’ch ffonau clyfar – a gwnewch yn siŵr ei bod wedi’i throi ymlaen ac wedi’i ddiweddaru bob amser. Diogelwch eich dyfeisiau drwy osod cyfrinair neu god mynediad unigryw.
  • Gosodwch ddiweddariadau’n rheolaidd Mae diweddariadau i systemau gweithredu, apiau a meddalwedd yn aml yn cynnwys diogelwch hanfodol. Bydd eu gosod pan ofynnir i chi wneud hynny yn helpu i gadw eich dyfeisiau’n ddiogel. Neu’n well fyth, beth am eu gosod i ddiweddaru’n awtomatig?
  • Oedwch ac ystyriwch â phwy rydych yn delio Ni fydd pawb sy’n anfon negeseuon ar-lein neu negeseuon e-bost, neu’n gwneud galwadau ffôn, yn dweud y gwir am bwy ydyn nhw. Gall deallusrwydd artiffisial wneud i negeseuon ffug ymddangos yn fwy argyhoeddiadol, felly treuliwch funud fach yn cadarnhau manylion yr anfonwr cyn rhannu gwybodaeth, drwy gysylltu â’r person neu’r sefydliad a enwir ar rif y gwyddoch ei fod yn gywir.
  • Meddyliwch cyn clicio Gall clicio ar ddolenni ac atodiadau mewn negeseuon e-bost, negeseuon testun neu bostiadau annisgwyl arwain at dwyll, achosion o ddwyn hunaniaeth neu beryglon eraill. Os bydd rhywbeth yn teimlo’n anarferol, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei wirio gyntaf.
  • Byddwch yn graff wrth ddefnyddio Wi-Fi cyhoeddus Nid yw Wi-Fi mewn caffis, gwestai, a mannau cyhoeddus bob amser yn ddiogel, neu gallai hyd yn oed fod yn dwyllodrus. Wrth wneud trafodion preifat fel bancio neu siopa, defnyddiwch ddata eich ffôn symudol, dongl personol, neu VPN.
  • Dewiswch ffyrdd diogel o dalu Defnyddiwch ddulliau talu diogel fel cardiau credyd neu wasanaethau dibynadwy wrth siopa ar-lein.

Bydd y rhain yn cynnig mwy o ddiogelwch i chi na throsglwyddiad banc uniongyrchol, lle y gallech golli eich arian os cewch eich twyllo.

  • Rhowch wybod! Os byddwch yn dod ar draws sgamiau neu achosion o dwyll neu gamddefnydd, rhowch wybod i’r awdurdodau priodol amdanynt. Gall gweithredu’n gyflym eich diogelu chi ac eraill.
  • Byddwch yn ofalus wrth rannu gwybodaeth

Byddwch yn ofalus wrth rannu manylion personol ar-lein, fel eich cyfeiriad neu’ch gwybodaeth ariannol, neu wybodaeth gyfrinachol arall. Unwaith y byddwch wedi eu rhannu, gall fod yn anodd rheoli pwy fydd yn eu gweld.

  • Gwiriwch wybodaeth a newyddion Nid yw’r holl wybodaeth sydd ar gael ar-lein yn ddibynadwy. Gall camwybodaeth, twyllwybodaeth a newyddion ffug a gynhyrchwyd gan ddeallusrwydd artiffisial ymddangos fel gwybodaeth go iawn. Dylech ddilysu’r wybodaeth gyda ffynonellau dibynadwy cyn ei chredu, ei rhannu neu weithredu arni.
  • Byddwch yn garedig ac yn gyfrifol Mae cymunedau ar-lein ar eu gorau pan fyddwn yn trin ein gilydd â pharch. Cofiwch gyfathrebu’n ystyriol, yn union fel y byddech wyneb yn wyneb.

I gael gwybodaeth a chyngor manylach, ewch i www.getsafeonline.org/back-to-basics

Os ydych yn amau bod neges destun neu e-bost yn dwyllodrus, defnyddiwch yr adnodd canfod twyll wedi’i lywio gan ddeallusrwydd artiffisal, Ask Silver, yn www.getsafeonline.org/asksilver

Er mwyn gwirio a yw gwefan yn debygol o fod yn un gyfreithlon neu dwyllodrus, defnyddiwch yr adnodd Check a Website ar www.getsafeonline.org/checkawebsite.

#HanfodionDiogelwchArLein

In Partnership With