Deallusrwydd Artiffisial

Peryglon cudd AI yn y byd ar-lein
Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) wedi gwreiddio’n ddwfn yn ein bywydau dyddiol, gan bweru popeth o gynorthwywyr rhithiwr i siopau neu argymhellion adloniant. Er bod y datblygiadau hyn yn cynnig cyfleuster gwych i’r defnyddiwr pob dydd, maent hefyd yn peri risgiau sy’n cael eu diystyru yn aml. Yn y dwylo anghywir, er enghraifft, gall AI alluogi sgamiau mwy argyhoeddiadol. Gall eich temtio i’w ddefnyddio yn anfoesol ar gyfer tasgau y dylech eu cwblhau eich hun, fel gwaith cwrs neu dasgau yn y gwaith. Mae deall y peryglon hyn yn allweddol i aros yn ddiogel ac yn gyfrifol ar-lein yn oes AI.
Sut mae AI yn grymuso seiberdroseddwyr
Un o’r materion mwyaf pryderus yw sut mae AI yn galluogi sgamiau ar-lein sy’n fwyfwy soffistigedig. Mae seiberdroseddwyr bellach yn defnyddio dulliau AI i greu e-byst, negeseuon testun, negeseuon llais a hyd yn oed fideos realistig sy’n dynwared dulliau cyfathrebu swyddogol gan fanciau, adrannau’r llywodraeth, unigolion y gellir ymddiried ynddynt neu bobl rydych yn eu cyfarfod wrth garu ar-lein. Nid oes gan y sgamiau hyn y camgymeriadau sillafu a’r gwallau gramadegol rhyfedd a oedd yn arfer golygu eu bod yn fwy amlwg, sy’n golygu ei bod yn anoddach o lawer eu canfod.
Gall technoleg ffugiad dwfn – sy’n defnyddio AI i drin delweddau, sain a fideo – ddynwared unrhyw un o arweinwyr busnes i wleidyddion, enwogion i’ch anwyliaid yn argyhoeddiadol, gam alluogi amrywiaeth eang o sgamiau. Mae AI hefyd yn awtomeiddio a phersonoli ymdrechion gwe-rwydo, gan dynnu data o’r cyfryngau cymdeithasol a chofnodion cyhoeddus i greu negeseuon y mae’n ymddangos eu bod wedi’u targedu ac yn ddilys.
AI a defnydd anfoesol mewn addysg a gwaith
Pryder cynyddol arall yw’r camddefnydd o gyfarpar AI fel ChatGPT neu gynhyrchwyr cynnwys i gwblhau gwaith cwrs neu asesiadau proffesiynol. Gall AI gefnogi dysgu a chynhyrchiant. Mae ei ddefnyddio i wneud y gwaith ar eich rhan yn tanseilio twf personol, gall arwain i gamau disgyblu a gall chwalu ymddiriedaeth yn yr ysgol, y brifysgol neu yn y gwaith. Mae cyflogwyr ac addysgwyr yn mabwysiadu mwy o feddalwedd canfod AI, sy’n golygu bod y risg o gael eich dal yn cynyddu ochr yn ochr â’r temtasiwn i dwyllo.
Awgrymiadau defnyddiol i adnabod sgamiau â chymorth AI
- Gwiriwch y cynnwys: Byddwch yn wyliadwrus o e-byst, negeseuon neu alwadau ffôn digymell–hyd yn oed os ydynt yn swnio’n broffesiynol. Os bydd y neges yn ymddangos yn daer, neu’n rhy dda i fod yn wir, gall fod yn sgam.
- Gwiriwch y manylion: Er y gall cynnwys wedi’i greu gan AI fod yn ramadegol berffaith, gall gynnwys anghysondebau o hyd, fel cyfeiriadau e-byst ychydig yn rhyfedd, logos anghywir neu ymadroddion anarferol. Mewn lluniau a fideos, cadwch lygad am arwyddion nad yw pethau yn union fel y dylent fod.
- Dilyswch fanylion adnabod yn annibynnol: Peidiwch â dibynnu ar neges yn unig. Ffoniwch neu anfonwch neges at y person neu’r cwmni drwy sianel adnabyddus yr ymddiriedir ynddi i gadarnhau cyfreithlondeb.
Awgrymiadau defnyddiol i ddefnyddio AI yn ddiogel ac yn gyfrifol
- Defnyddiwch AI fel adnodd, nid rhwystr: Gadewch i AI helpu i gynnig ymatebion neu i grynhoi, ond adolygwch a gwiriwch y cynnwys eich hun bob amser i gynnal dilysrwydd ac uniondeb. Sicrhewch eich bod yn dilysu gwybodaeth drwy wirio ffynonellau eraill y gellir ymddiried ynddynt.
- Diogelu eich data: Peidiwch â rhoi gwybodaeth bersonol neu ariannol i adnoddau AI. Gall eich manylion gael eu datgelu i bobl eraill gan ddefnyddio AI cynhyrchiol neu adnoddau chwilio.
- Addysgwch eich hun: Byddwch yn wybodus am ddatblygiadau AI a’r tactegau sgam diweddaraf. Mae ymwybyddiaeth yn amddiffyniad pwerus.
Gall AI fod yn adnodd pwerus, ond gellir ei gamddefnyddio hefyd. Drwy fod yn wyliadwrus a’i ddefnyddio yn gyfrifol, gallwch ddefnyddio ei fuddion gan leihau’r risgiau
Am ragor o awgrymiadau a chanllawiau, ewch i www.getsafeonline.org/ai-diogel-chyfrifol
#AIDiogelaChyfrifol

Ydych chi'n newydd i'r rhyngrwyd?
Byddwn yn eich helpu i aros ar-lein gyda diogelwch a hyder.

Chi, Coronavirus ac aros yn ddiogel ar-lein
Sut i gadw'n ddiogel ar-lein yn ystod pandemig Coronavirus.

Neighbourhood Alert
Cofrestrwch i dderbyn Rhybuddion Cymdogaeth.

Diogelu plant
Ydy'ch plant chi'n ddiogel gyda phopeth maen nhw'n ei wneud ar-lein?

Ffonau clyfar a thabledi
Mae'n fyd symudol. Cadwch hi'n ddiogel.

Cyfryngau cymdeithasol
Ydych chi'n ei ddefnyddio'n ddiogel ac yn gyfrifol?