English

Yswiriant Atebolrwydd Seiber

Mae yswiriant ers amser wedi cael ei ddefnyddio gan fusnesau fel rhan o’u cynlluniau rheoli risg a’u cynlluniau adfer ar ôl trychineb ac mae digon o ystadegau sy’n dangos bod busnesau ag yswiriant annigonol yn annhebygol o oroesi digwyddiadau pwysig. Hyd yn ddiweddar, dim ond cyfrifiaduron a dyfeisiau symudol y mae busnesau wedi’u diogelu rhag risgiau ffisegol fel difrod, rhag iddynt gael eu dwyn neu eu colli, gyda chyfarpar trydanol yn cael ei yswirio ar yr un sail â’u dodrefn a heb unrhyw yswiriant ar gyfer data a gaiff eu colli, eu dwyn neu yr amherir arnynt. Gall fod gan rai sefydliadau bolisïau ehangach sydd hefyd yn cynnwys yswiriant ar gyfer cyfarpar yn torri i lawr a threuliau cyfyngedig ar gyfer adfer data … ond ni chaiff y rhan fwyaf o risgiau seiber eu cynnwys. Mae yswirwyr a busnesau wedi cydnabod bod yswiriant traddodiadol yn annigonol a bod angen yswiriant atebolrwydd seiber i gwmpasu digwyddiadau fel data coll, feirysau, hacio ac achosion o dorri diogelwch data. Yn ogystal â chwmpasu risgiau colledion ariannol, mae cael yswiriant atebolrwydd seiber yn dod yn un o amodau cynnal busnes yn fwyfwy aml.

Risgiau y mae yswiriant yn eu cwmpasu

Mae yswiriant atebolrwydd seiber yn wasanaeth cymharol newydd o hyd a gall y lefelau yswiriant amrywio yn fawr rhwng cwmnïau yswiriant gwahanol, fodd bynnag, gall polisi atebolrwydd seiber da gwmpasu’r canlynol:

  • Colli eich data eich hun, eu difrodi neu eu haflunio
  • Colli data trydydd parti, eu difrodi neu eu haflunio (yn cynnwys data cwsmeriaid neu gyflenwyr)
  • Halogi systemau trydydd parti (yn cynnwys data cwsmeriaid neu gyflenwyr) â maleiswedd
  • Costau fforensig
  • Cymorth technegol er mwyn adfer systemau a data
  • Cymorth cyfreithiol
  • Rheoli mewn argyfwng a chymorth cysylltiadau cyhoeddus
  • Talu dirwyon a chosbau
  • Gostyngiad mewn incwm / amharu ar fusnes
  • Talu ffioedd gwystlo
  • Digwyddiadau sy’n creu embaras ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Torri amodau hawlfraint
  • Colli data sydd wedi’u storio yn y cwmwl
  • Hysbysu gwrthrychau data
  • Monitro credyd ar gyfer gwrthrychau data
  • Difrod ffisegol a achosir gan achos o dorri data
  • Gweithredoedd damweiniol a maleisus

Dylai unrhyw sefydliad sy’n dibynnu ar ddata, sy’n delio â gwybodaeth sensitif neu gyfrinachol, sy’n cyfathrebu’n electronig neu’n rheoli systemau a phrosesau yn electronig ystyried diogelu eu busnes ag yswiriant atebolrwydd seiber. Dylech edrych ar eich proffil risg eich hun a phrynu yswiriant sy’n addas ar gyfer eich peryglon a’ch risgiau eich hun. Mae anghenion atebolrwydd seiber manwerthwr ar-lein yn wahanol iawn i rai cyfreithiwr, peiriannydd manylrwydd, meddygfa neu ysgol ac mae nifer y cyflogeion hefyd yn berthnasol.

Costau

Mae premiymau yswiriant atebolrwydd seiber wedi gostwng yn ddramatig dros y blynyddoedd diwethaf ond cânt eu pennu yn ôl maint a gweithgareddau’r busnes y mae angen yr yswiriant arno. Yn ôl y disgwyl, mae yswirwyr yn edrych yn fwy ffafriol ar fusnesau sy’n rheoli risg seiber yn dda. Er enghraifft, bydd sefydliadau sy’n cyrraedd safonau fel Cyber Essentials neu IASME yn aml yn cael gostyngiadau premiwm neu hyd yn oed yswiriant am ddim, yn dibynnu ar yr amodau. Neu, gall busnesau nad oes ganddynt ddiogelwch digonol ei chael hi’n anodd cael yswiriant.

Oherwydd y cymhlethdod, rydym yn argymell eich bod yn cael yswiriant gan frocer yswiriant annibynnol sydd ag arbenigedd mewn yswiriant seiber. Bydd yn gallu rhoi cyngor i chi a’ch helpu i gael yswiriant priodol ar gyfer eich busnes.

Mae’r dudalen hon wedi’i llunio gyda chymorth caredig Sutcliffe and Co Insurance Brokers

In Partnership With