English

Ymddygiad Staff

Gellir cymharu diogelwch ar-lein a diogelwch gwybodaeth ag unrhyw fath arall o ddiogelwch yn y gweithle.

Er enghraifft:

Mae gennych larwm tresmasu: a yw eich cydweithwyr / cyflogeion yn gadael y cod ar nodyn Post-it ar eu desg?

Mae gennych lwybr dianc wedi’i farcio’n glir os bydd tân: ydych chi’n ei ddilyn os bydd tân, neu’n ceisio gadael drwy ddilyn ffordd arall?

Mae eich turnau a’ch llufanwyr wedi’u gosod â gardiau diogelwch a switsys diffodd: a yw eich gweithwyr yn eu diffodd cyn dechrau gweithio?

Mae diogelwch yn y gweithle yn dibynnu cymaint ar ymddygiad dynol ag ar y systemau ffisegol a thechnolegol rydych yn eu rhoi ar waith. Mae hyn yn wir iawn am ddiogelwch ar-lein a diogelwch gwybodaeth.

Ni allwn orbwysleisio pwysigrwydd sefydlu a hyfforddiant rheolaidd er mwyn addysgu ar reolau, gweithdrefnau ac arfer gorau a’u hatgyfnerthu, ynghyd â pham y mae angen y rhain, a’r canlyniadau. Hefyd, gyda’r natur ddynol fel y mae, dylai cydweithwyr / cyflogeion hefyd gael eu monitro er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cynnal arferion da ac yn cydymffurfio. Os nad yw’r rhain yn digwydd, fel arfer bydd pobl yn mynd yn ddiog, yn ddifater, ymwrthod â chyfrifoldeb a meithrin arferion gwael.

In Partnership With