English

Windows XP

Mae Microsoft wedi rhyddhau cyfres o fersiynau mwy newydd o’i system weithredu Windows dros y blynyddoedd, ond mae rhai defnyddwyr cyfrifiaduron busnes (a chartref) yn dal i ddefnyddio Windows XP, a gafodd ei ddisodli yn 2007. Rhoddodd Microsoft y gorau i gefnogi XP ym mis Ebrill 2014 – sy’n golygu nad yw’n cyhoeddi diweddariadau, patsys diogelwch, datrysiadau ar gyfer bygiau na Microsoft Security Essentials ar gyfer y fersiwn system weithredu.

Y risgiau

  • Gan na chaiff unrhyw ddiweddariadau diogelwch eu cyhoeddi, mae eich cyfrifiadur sy’n rhedeg Windows XP yn agored iawn i gael ei heintio gan faleiswedd, ac mae troseddwyr yn ymwybodol iawn o hyn.
  • Gallai troseddwyr ddefnyddio maleiswedd o’r fath at nifer o ddibenion, yn cynnwys:
    • Dwyn manylion cyfrinachol eich sefydliad er mwyn cyflawni twyll, ysbïwriaeth a throseddau eraill.
    • Heintio eich cyfrifiaduron a/neu eich rhwydwaith â meddalwedd wystlo.
    • Dwyn eich hunaniaeth er mwyn gwneud cais am gyfrifon banc, pasbortau a chyfleusterau eraill yn eich enw.
    • Monitro e-bost a gohebiaeth arall.
    • Gwneud eich cyfrifiaduron yn rhan o fotrwyd, a ddefnyddir fel arfer i ymosod ar wefannau corfforaethol neu wefannau’r llywodraeth.
  • Anhawster cynyddol i drefnu bod cyfrifiaduron sy’n rhedeg Windows XP yn cael eu gwasanaethu neu eu trwsio, neu gefnogaeth ar gyfer y feddalwed sy’n rhedeg arnynt.
  • Ni fydd nifer gynyddol o ddyfeisiau a rhaglenni meddalwedd yn gweithio gyda Windows XP.
  • Rhoi mynediad anawdurdodedig i’ch systemau gwybodaeth, a fydd yn galluogi rhywun i gael mynediad at eich data neu eu dwyn, peidio â chydymffurfio â safonau yswirwyr a/neu gwsmeriaid a thorri GDPR.

Disodli Windows XP

Cyn i chi wneud unrhyw un o’r camau canlynol, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n gwneud copïau wrth gefn o’r data ar eich cyfrifiadur ac yn sicrhau y gellir cael mynediad atynt a’u hadfer ar beiriant arall.

Diweddaru eich cyfrifiaduron

Y datrysiad cyntaf, amlwg yw gosod Windows 10. Fodd bynnag, prin iawn yw’r hen gyfrifiaduron fydd yn gallu ei redeg oherwydd ei ofynion caledwedd sy’n llawer mwy ymestynnol. Mae Microsoft yn argymell i chi lawrlwytho a rhedeg y Windows Update Assistant er mwyn gweld a yw eich cyfrifiaduron yn bodloni’r gofynion system:

Os na all eich cyfrifiaduron redeg y fersiynau mwy newydd o Windows, bydd angen i chi brynu caledwedd newydd. Mae cyfrifiaduron heddiw yn llawer mwy pwerus, yn ysgafnach ac yn rhatach na’u rhagflaenwyr ddeg mlynedd yn ôl.

  • Os byddwch yn prynu cyfrifiaduron newydd a bod angen i chi drosglwyddo’r hyn sydd ar eich hen beiriannau Windows XP drosodd, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio cyfleuster trosglwyddo gan Microsoft, y gellir ei lawrlwytho drwy glicio yma.
  • Os ydych am gadw eich hen gyfrifiaduron yn hytrach na chael un newydd, mae opsiynau eraill fel ‘cychwyn deuol’ (‘dual booting’) gydag un o sawl fersiwn o system weithredu Linux. Byddai hyn yn eich galluogi i gyflawni’r holl dasgau ar-lein o Linux, a thasgau all-lein fel prosesu geiriau, taenlenni a golygu lluniau yn Windows. Mae’n cymryd cryn amser ac ymdrech i osod y datrysiad hwn, ond ceir nifer fawr o wefannau sy’n cynnig cyngor ac arweiniad.
  • Gallech hefyd ystyried newid i gyfrifiaduron newydd sy’n rhedeg ar lwyfan gwahanol. Yr un a ddewisir amlaf yw’r Apple Mac, gyda’i system weithredu OSX, neu rai o’r genhedlaeth newydd o rwydlyfrau fel y rhai sy’n defnyddio Google Chrome, neu fodelau rhwydlyfrau Microsoft ei hun.

Mabwysiadu strategaeth trosglwyddo

Dylai sefydliadau sy’n dal i redeg Windows XP fabwysiadu strategaeth ar frys ar gyfer trosglwyddo i lwyfan arall, a fydd bron yn sicr yn cynnwys buddsoddiad sylweddol posibl mewn caledwedd, seilwaith a chymwysiadau newydd.

Mae llawer o opsiynau i chi os ydych yn ystyried symud i gyfrifiaduron modern gyda’r adnoddau cynhyrchiant a chydweithredu diweddaraf. Dylech siarad â Pharter wedi’i Ardystio gan Microsoft er mwyn deall yr opsiynau gorau i ddiwallu eich anghenion. Os nad yw eich cyfrifiadur yn bodloni gofynion system, dylech ystyried prynu cyfrifiadur busnes newydd gyda Windows 10 Pro.

Ar gyfer sefydliadau a mentrau mwy, mae Microsoft yn cynnig adnoddau technegol manwl, cyfleusterau ac arweiniad arbenigol er mwyn sicrhau y gellir defnyddio a rheoli cynhyrchion a thechnolegau Windows, Office ac Internet Expolere yn rhwydd.  Er mwyn dysgu mwy am drosglwyddo a defnyddio rhaglenni, cysylltwch â’ch cynrychiolydd gwerthiannau Microsoft neu Bartner sydd wedi’i Ardystio gan Microsoft. Gallwch hefyd ddysgu sut i dreialu a defnyddio cyfrifiadur pen desg modern eich hun, o’r Microsoft Deployment Toolkit.

 

In Partnership With