English

Windows Server 2003

Rhoddodd Microsoft y gorau i gefnogi ei systemau gweithredu Windows Server 2003 a Small Business Server 2003 yn 2015.

Dros y blynyddoedd, mae’r system weithredu wedi cael ei disodli gan Windows Server 2008, Windows Server 2008 R2, Windows Server 2012 a Windows Server 2012 R2, ond mae rhai sefydliadau yn dal i redeg yr hen system weithredu gweinydd.

Os yw eich sefydliad yn dal i redeg Windows Server 2003, dylech symud i system weithredu gweinydd newydd nawr.

Yn wahanol i Windows XP, lle’r oedd heriau o ran symud cymwysiadau, mae Windows Server 2012 R2 yn cynnig cytunedd cymwysiadau da â Windows Server 2003. Mewn termau technegol, er y caiff y system newydd ei chyflwyno fel system weithredu 64-bit, dylai’r rhan fwyaf o gwymwysiadau 32-bit sydd heb segmentau cod 16-bit allu cael eu gosod a rhedeg arno drwy Windows ar dechnoleg Windows 64 (WoW64).

Amlinellir y risgiau diogelwch sy’n gysylltiedig â pheidio uwchraddio cyn i gefnogaeth Microsoft ddirwyn i ben isod, ond dylem ychwanegu bod Windows Server 2012 R2 hefyd yn cynnwys llawer o welliannau o gymharu â’r hen system yn cynnwys rhith-greu integredig, y gallu i dyfu’n sylweddol, rolau gweithredol newydd a galluoedd gweithredu sgript.

Rydym yn cynghori yn erbyn uwchraddio dros dro i Windows Server 2008 fel cefnogaeth prif ffrwd am fod hynny eisoes wedi dirwyn i ben, cyn Windows Server 2003 mewn gwirionedd.

Risgiau o beidio â throsglwyddo

  • Gan na chaiff unrhyw ddiweddariadau diogelwch eu cyhoeddi, bydd eich gweinydd sy’n rhedeg Windows Server 2003 yn agored iawn i gael ei heintio gan faleiswedd, ac mae troseddwyr yn ymwybodol iawn o hyn.
  • Gallai troseddwyr ddefnyddio maleiswedd o’r fath at nifer o ddibenion, yn cynnwys:
    • Dwyn manylion ariannol eich sefydliad a’ch cwsmeriaid er mwyn cyflawni twyll.
    • Dwyn eich hunaniaeth er mwyn gwneud cais am gyfrifon banc, pasbortau a chyfleusterau eraill yn eich enw.
    • Monitro e-bost a gohebiaeth arall.
    • Gwneud eich gweinydd yn rhan o fotrwyd, a ddefnyddir fel arfer i ymosod ar wefannau corfforaethol neu wefannau’r llywodraeth.
  • Ni fydd nifer gynyddol o ddyfeisiau a rhaglenni meddalwedd yn gweithio gyda Windows Server 2003.
  • Methiant i gyrraedd safonau cydymffurfio a rheoliadau ledled y diwydiant.
  • Rydych mewn perygl o roi mynediad anawdurdodedig i’ch systemau gwybodaeth, a fydd yn galluogi rhywun i gael mynediad at eich data neu eu dwyn, peidio â chydymffurfio â safonau yswirwyr a/neu gwsmeriaid a thorri GDPR.
  • Nifer ostyngol o werthwyr cymorth caledwedd a meddalwedd annibynnol sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer systemau Windows Server 2003, a chostau cynyddol ar gyfer caffael y gwasanaethau hynny gan y sawl sy’n gwneud hynny.

Trosglwyddo

Ceir gwybodaeth a chyngor llawn gan Microsoft ynghylch trosglwyddo o Windows Server 2013 ar wefan Microsoft, yma.

In Partnership With